 |  | Safleoedd hanesyddol Gogledd Ddwyrain Cymru Lluniau o safleoedd sy'n cynnwys adeiladau neu dirnodau o wahanol gyfnodau mewn hanes - rhai'n hen, rhai'n fodern.
Darparwyd y lluniau hyn yn garedig iawn gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Am fod gan y Comisiwn yn Aberystwyth dros filiwn o ffotograffau a miloedd o fapiau a lluniadau, mae'n drysorfa o archaeoleg a hanes Cymru. Ac fe welwch chi ragor o luniau ar Coflein, y gronfa ddata ar-lein. |  |  |
 | 
 |
Abaty Dinas Basing, Treffynnon
|  | 12345678910 1112 |  | Sefydlwyd yr abaty Sistersaidd hwn tua 1157 yn olynydd, efallai, i sefydliad mynachaidd cynharach. Fe'i diddymwyd ym 1536. Mae yma olion eglwys ar ffurf croes, ac olion clwysty ac adeiladau cwfeiniol i'r de ohonynt. Yn y de-ddwyrain, mae cyfres o adeiladau sy'n rhedeg o'r dwyrain i'r gorllewin ac a fu, yn ddiweddarach, yn rhai amaethyddol. Gallant gynnwys peth adeiladwaith canoloesol, sef rhan o'r ysbyty o bosibl, a chredir mai'r maes parcio yn y gogledd ddwyrain oedd safle Pwll Dwr yr Abaty. |  |

|

|