| "Yn gyntaf roeddwn yn aelod o'r Lodge ac yn 1972 daethum yn gadeirydd y ganegn - swydd bu'm ynddi am dros ugain mlynedd. "Roedd y Parlwr Du erioed yn cael ei chydnabod fel y 'Pwll Hapus.' "Roedd y berthynas rhwng yr undeb a'r rheolwyr ar y cyfan yn dda iawn. "Roedd streic 1984 yn gyfnod anodd. Roedd gan bawb ei farn. "Ond hyd yn oed pan oedd y streic drosodd, fe aetho' ni yn ôl i'r gwaith. Roedd y berthynas yr un fath. "Roedd un neu ddau oedd yn methu setlo yn ôl ac fe wnaetho nhw adael y Parlwr Du. "16 oed oeddwn pan es i dan ddaear yn gyntaf. Doedda' chi ddim yn cael mynd dan ddaear tan yr oeddech yn 16 oed. "Roedd rhaid mynd i weithio yno oherwydd amgylchiadau. Roedd National Service yn bodoli a doedd mam ddim yn hoffi'r syniad o mi'n mynd i'r fyddin. "Yn ogystal roedd fy nhad a sawl ewythr wedi bod yn gweithio yno. "Yr adeg honno - y pumdegau cynnar - roedde ni i gyd yn byw o dan amgylchiadau tebyg. "Bryd hynny roedd hi'n bwll Cymraeg. Dyna lle dysgais y rhan fwyaf o fy Nghymraeg. "Er bod Mam a Dad yn Gymraeg, nid oeddynt yn siarad yr iaith adref. "Roedd yn rhaid i fi ei ddefnyddio yn y Parlwr Du oherwydd dan ddaear roedde chi'n gweithio gyda rhywun o'r un pentref. "Bydde chi'n siarad gyda'r merlod yn Saesneg - a bydde nhw'n troi ei pennau â cystal dweud -dim yn dallt!" "Felly roedd rhaid i chi ddysgu Cymraeg gan na fyddai'r hen lowyr yn fodlon siarad Saesneg gyda chi. "Roedd llawer ohonynt yn ei chael hi'n anodd siarad Saesneg. "Pe byddwn yn cael cyfle eto a pe byddai'r pwll yn agored, byddwn yn mynd yn ôl yno 'fory."
 |