BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Coch Bach y Bala (John Jones) © BBC'Yr Houdini Cymreig'
Ganwyd Coch Bach y Bala, neu John Jones, yn Sir Feirionydd tua 1853. Drwy ei anturiaethau fe ddaeth yn enwog ar draws Gogledd Cymru drwy ddianc, nid unwaith ond deirgwaith, o garchardai Caernarfon a Rhuthun.
Fe'i galwyd hefyd yn 'Y Braw Bach Cymreig' a'r 'Turpin Bychan' ac fe enillodd enw iddo'i hun fel potsiwr a lleidr penderfynol. Treuliodd dros 30 o'i 60 mlynedd yng ngharchardai gogledd Cymru a Lloegr.

Er i John Jones ddilyn galwedigaethau amrywiol fel briciwr, saer coed, labrwr, morwr a thaniwr, ei botsio a'i ddwyn parhaus a ddaeth ag enwogrwydd iddo. Bu mewn trafferth gyda'r gyfraith yn rheolaidd. Ers pan oedd yn ifanc, arferai ddwyn pob math o bethau, nifer ohonyn nhw o ddim gwerth o gwbl iddo, ac arferai cadw'r rhain mewn waliau neu gloddiau, gan ddychwelyd i'w casglu yn nes ymlaen.

Arferai Jones frolio am ei anturiaethau, yn aml yn mynnu ei fod wedi dwyn pethau nad oedd wedi eu dwyn mewn gwirionedd. Parhaodd y tueddiad hwn i dynnu sylw ato'i hun drwy ei ieuenctid nes iddo dyfu'n ddyn - bryd hynny daith ei duedd i siarad yn gyhoeddus am ei anturiaethau diweddaraf â dinistr i'w ran.

Dihangwr dihafal
Dihangodd Jones o'r carchar am y tro cyntaf ym mis Tachwedd 1879, pan oedd yn aros i sefyll ei brawf yng Ngharchar Rhuthun am ddwyn 15 oriawr yn y Bala a Llanfor. Un noson fe agorodd ddrws ei gell ei hun, yn ogystal â drysau tair cell arall, cerddodd allan drwy prif ddrws y carchar tra roedd y staff yn cael eu swper ac aeth allan i'r nos. Cynigiwyd gwobr o £5 am ei ddal eto, ac, o'r diwedd, fe'i daliwyd dri mis yn ddiweddarach yn y gwely yn y Swan Inn, Mochdre ger Bae Colwyn. Tybed a oedd hyn o ganlyniad i wybodaeth gafwyd gan gwsmer a ddigwyddodd glywed straeon Jones yn y dafarn y noson honno?

Ceisiodd Coch Bach Y Bala ddianc o garchar am yr ail waith ym 1900 tra'n disgwyl cael ei drosglwyddo i garchar Dartmoor o garchar Caernarfon. Roedd Jones wedi ei gyhuddo ym Mrawdlys Biwmares, o ddwyn £10 o'r Waterman's Arms, Amlwch, ac roedd wedi mynnu iddo gael ei 'fframio' gan yr heddlu. Yn wynebu dedfryd hir arall, cododd Jones faricêd tu ôl i ddrws ei gell gyda rhannau o'r wŷdd gwehyddu oedd yn ei gell, a dechreuodd dwnelu drwy'r llawr. Methodd ei ymgais, felly dechreuodd ar ddedfryd hir arall yn y carchar.

Treuliodd John Jones dros hanner ei fywyd yn y carchar, ar ddeg gwahanol ddedfryd am ddwyn, torri i mewn i adeiladau, ac, ar un achlysur, am godi terfysg yn erbyn yr Heddlu yn y Bala. Roedd yn hynod o 'wrth-heddlu', ond roedd ei ymddygiad yn y carchar yn gyffredinol dda (ac eithrio'r diangfeydd) ac yn aml fe gafodd ei ryddhau'n gynnar ar drwydded.

Roedd Jones yn fwy deallus na'r cyffredin, ac fe amddiffynnodd ei hun yn y llys ar sawl achlysur. Ym 1906, cafodd ei gyhuddo o ladrad ac ymosod yn ffyrnig ar ddynes 71 mlwydd oed. Yn yr achos dedfrydu, bu'n rhaid i'r llys Ynadon eistedd tan 3 y bore oherwydd hyd araith y diffynnydd i'r llys. Yn anffodus i Jones, ni lwyddodd yr araith hir ei achub rhag cael ei garcharu am 7 mlynedd yng ngharchar Dartmoor, o'r lle y cafodd ei ryddhau ym mis Ionawr 1913.

Troseddwr yn neidio i ryddid.
Daliodd gweithgareddau Jones ddychymyg y cyhoedd, ac aeth cyfryngau'r cyfnod ati i roi arlliw cyffrous i'w weithgareddau a rhoi cyhoeddusrwydd iddyn nhw. Mae'r adroddiad canlynol yn y 'North Wales Times' yn disgrifio'i ddihangfa olaf, a'r enwocaf:

DIHANGFA GYFFROUS O GARCHAR RHUTHUN ...

"Dihangodd John Jones o Garchar Rhuthun fore dydd Mawrth mewn dull hynod gyffrous, ac ar adeg ysgrifennu'r erthygl hon mae'n dal â'i draed yn rhydd. Llwyddodd i ennill ei ryddid o ganlyniad i ddewrder di-ildio, cryn graffter ac ystwythder hynod.... mae rhai'n ystyried bod 'Coch Bach' yn arwr; mae ei berfformiad yn wir yn dangos dewrder. Digwyddodd y ddihangfa rhwng pedwar a phump o'r gloch y bore, cyn i'r rhan fwyaf o'r gwarcheidwaid ddechrau ar eu gwaith... Achosodd dewrder ei ddihangfa, a'r cyflymdra y gadawodd gyffiniau'r carchar gryn benbleth i awdurdodau'r carchar ac i'r heddlu."
(North Wales Times, 4 Hydref 1913)

Roedd 'Coch Bach' wedi bod yn disgwyl cael ei symud i garchar Stafford i gwblhau dedfryd o dair blynedd am dorri i mewn i adeiladau. Ar y noson benodedig, gadawodd ei gell trwy dwnelu trwy wal y gell, a thrwy ddefnyddio rhaff wedi ei chreu o ddillad gwely'r carchar, dringo dros doeau'r capel a'r gegin, ac yn y diwedd, ddianc dros wal y carchar.

Nid hawdd oedd dinc o garchar yn y cyfnod hwnnw. Roedd yr awdurdodau yn effro i ymgeisiau i adael y ddalfa, fel y dengys y dyfyniad hwn o reolau Carchar Rhuthun:

"Carchar Sirol Rhuthun ... Rheolau ar gyfer y Carcharorion
Bydd pob carcharor fydd yn euog o unrhyw un o'r troseddau canlynol yn wynebu cosb:- ... Ceisio dianc, neu helpu eraill i wneud hynny, neu wybod am unrhyw ymdrech arfaethedig i ddianc ac heb gyflwyno adroddiad am hynny'n syth"
(Rheolau ar gyfer Carcharorion yng Ngharchar Rhuthun, circa 1850

Bu Jones â'i draed yn rhydd am chwe niwrnod cyn cael ei ddal ar Stad Nantclwyd, rai milltiroedd o Ruthun. Cafodd ei saethu yn ei goes gan un o'r rhai oedd yn ei ymlid, Reginald Jones-Bateman, mab 19 oed i dirfeddiannwr amhoblogaidd. Roedd John Jones, oedd yn 60 mlwydd oed, wedi cael ei anafu'n wael, a bu farw o sioc a gwaedlif o ganlyniad. Cafodd Jones-Bateman ei gyhuddo o ddynladdiad, ond yn y pen draw cafodd y cyhuddiadau yn ei erbyn eu gollwng.

Er ei holl ddrygau, roedd yn ffigwr poblogaidd, ac achosodd amgylchiadau ei farwolaeth gryn anniddigrwydd yn yr ardal. Cafodd cardiau post eu masgynhyrchu a'u gwerthu yn dangos llun o'i angladd, ac o'r lleoliad lle cafodd ei saethu. Efallai nid cymaint fel 'memento mori' ond fel y dystiolaeth olaf un, wedi'i phrofi gan y camera, bod y 'Coch Bach' bellach wedi cael ei gaethiwo mewn un lle.

Enillodd diangfeydd niferus 'Coch Bach Y Bala' y llys-enw 'Yr Houdini Cymreig' iddo. Consuriwr a dihangwr oedd Houdini a enillodd enwogrwydd am ei orchestion mentrus yn ystod yr un cyfnod ag roedd 'Coch Bach' yn llwyddo gyda'i ddiangfeydd gwyrthiol yntau.

Cipiodd Houdini a'r 'Coch Bach' ddychymyg y cyhoedd. Mae diddordeb y cyfryngau a'r cyhoedd yng nghampau'r lledrithiwr modern David Blaine yn dangos pa mor gyfareddol yr ystyrir campau dewr, p'un ai ar lwyfannu ai peidio.

Darparodd 'Coch Bach y Bala' i'r cyhoedd yn lleol ac yn genedlaethol symbol gwrthryfelgar o obaith. Darparodd hefyd nifer o straeon gafaelgar i'w mwynhau yn y bar neu ar yr aelwyd. Roedd y rhai a brynodd gerdyn post o'i angladd wedi gafael ar yr allwedd i realiti bywyd y Coch Bach, - mewn angau, does dim dianc. Roedd hyn yn rhywbeth roedd yr awdurdodau yn Ninbych, mae'n debyg, yn awyddus i'w hybu fel rhybudd i unrhyw un a ystyriai ddilyn yn ôl ei droed.



Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy