| "Roedd hi'n galed iawn - ond dyna oedd bywyd. Doedda' ni ddim yn cael llawer. "Y pyllau glo oedd en bywyd - doedd 'na ddim byd arall ar ein cyfer. Byddai'r merched yn gweithio yn y diwydiant crochenwaith. "Gweithiodd fy nhad 53 mlynedd ac i gyd gafodd oedd tystygrif a hanner coron y mis. "Gwnes i weithio am tua 40 mlynedd ac ar ôl dioddef anaf i'm llygad, bu'n rhaid i mi ymddeol. "Ges i ddim iawndal am fy anaf ac es i weithio gyda'r Weinyddiaeth Amddiffyn. "Weithiau byddai'n rhaid i mi fod lawr y pwll am 14 awr. "Priodias ym 1950 ac roeddwn wedi bod yn astudio mwyngloddiaeth am nifer o flynyddoedd.

"Roedd hynny'n costio saith swllt am hanner blwyddyn. Roeddwn yn mynd dwy waith yr wythnos ac yn cerdded tair milltir yno a thair milltir yn ôl i fynd i'r ysgol nos. "Cefais fy mhapurau i ddod yn overman a cymwyster ail ddosbarth i ddod yn rheolwr. "Roeddwn yn mwynhau'r gwaith ac ar ôl i mi ymddeol, bu'r pobl fu'n gweithio i mi yn dod i'm gweld yn gofyn fy nghyngoir am gwahanol bethau. "Dyn oeddwn i yn ei wneud gyda fy nhad, gofyn am ei gyngor. "Roeddwn yn aelod o'r band press. Roedd hynny'n rhywbeth oedd yn mynd 'mlaen yn y pentref. "Roedd bandiau ymhobman bryd hynny."
 |