Bardd arloesol a hynod o lwyddiannus
Bardd mawr yn y mesurau caeth oedd T.Gwynn Jones, un o'r rhai galluocaf erioed i ddefnyddio'r gynghanedd mewn modd meistrolgar fel rhan annatod o'i grefft.Ysgrifennodd nifer o gerddi megis 'Gwlad y Bryniau', 'Argoed ac 'Anatiomaros' sydd ymhlith y campweithiau mwyaf yn yr iaith Gymraeg, cerddi sydd wedi ennill edmygedd pob cenhedlaeth ers eu cyhoeddi.
Ganwyd Thomas Gwynn Jones ym 1871 yn Y Gwyndy Uchaf, Betws-yn-Rhos yn yr hen Sir Ddinbych, lle gwelir plac heddiw, a threuliodd ei blentyndod yn Llaneilian-yn-Rhos yn yr un sir.
Ychydig o addysg ffurfiol a gafodd ac fe drodd at newyddiaduriaeth fel modd o ennill ei damaid yn gynnar iawn.
Gweithiodd ar staff amryw o bapurau, gan gynnwys Baner ac Amserau Cymru a'r Herald Cymraeg.
Ar ôl cyfnod o weithio fel catalogydd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, fe'i penodwyd yn ddarlithydd yn y Gymraeg yng Ngholeg y Brifysgol, Aberystwyth, ym 1913, ac i gadair Gregynog mewn Llenyddiaeth Gymraeg ym 1919.
Roedd eisioes wedi cyhoeddi sawl cyfrol o feirniadaeth, yn eu plith Bardism and Romance (1914), Rhiengerddi'r Gogynfeirdd (1915) a Llenyddiaeth y Cymry (1915).
Cawr o fardd
Ond fel bardd yr oedd yn adnabyddus. Ym 1902 enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol am ei awdl 'Ymadawiad Arthur', awdl sy'n garreg filltir yn hanes barddoniaeth Gymraeg yn yr ugeinfed ganrif.
Dyma'r gyntaf o gyfres o gerddi mawr a luniodd ar y gynghanedd, naill ai ar y mesurau traddoddiadol neu ar fesurau newydd wedi'u seilio ar yr hen rai.
Aeth ymlaen i ennill y Gadair eto gyda 'Gwlad y Bryniau' ym 1909, gyda 'Tir na n-Og' ym 1910, gyda 'Madog' ym 1917, gyda 'Broséliâwnd' ym 1922, gydag 'Anatiomaros' ym 1925, a chyda 'Argoed' ym 1927. Cawr o fardd oedd T. Gwynn Jones, heb os nac onibai.
Mae ei gerddi yn defnyddio chwedlau Celtaidd i fynegi'i brofiad o drasiedi'r Dyn Modern; maent yn gerddi clasurol, mawreddog o ran cynllun a ieithwedd.
Eu prif themâu yw'r Ymchwil am Baradwys a'r rheidrwydd o gadw anrhydedd, gwarineb a doethineb yn wyneb materoliaeth a philistiniaeth y cyfnod. Er eu bod yn enwog am eu disgrifiadau o fyd natur, mae eu mewnwelediad seicolegol yn dreiddgar hefyd.
Troi at y mesurau rhydd
Ym 1934-35 trodd y bardd ei gefn ar y math hwn o farddoni, a llunio cyfres o gerddi (yn y mesurau rhydd, gan amlaf, ond gyda chynghanedd er hynny) a gasglwyd yn y gyfrol Y Dwymyn (1944), sy'n portreadu twymyn y bywyd cyffredin o dan fygythiad barbaraidd rhyfel.
Cyhoeddwyd detholiad o'i gerddi gan Wasg Gregynog ym 1926. Efe a gyfansoddodd y llinellau a fabwysiadwyd gan Eisteddfod Gyd-wladol Llangollen : 'Byd gwyn fydd byd a gano / Gwaraidd fydd ei gerddi fo.'
Ysgrifennodd T.Gwynn Jones ddrama a nofelau yn ogystal. Am Ryfel y Degwm mae'r ddrama Eglwys y Dyn Tlawd (1892) a nofelau yw Gwedi Brad a Gofid (1898), John Homer (1923) a Lona (1923).
Roedd hefyd yn feirniad llenyddol. Cyhoeddodd bedair casgliad o ysgrifau: Cymeriadau (1933), Beirniadaeth a Myfyrdod (1935), Astudiaethau (1936) a Dyddgwaith (1937).
Bu farw y bardd yn Aberystwyth ym 1949 ac fe'i claddwyd yn y fynwent oddi ar Heol Llanbadarn. Erys y cof amdano fel ffigwr o'r pwys mwyaf yn hanes ein llên.
Meic Stephens