BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llên
T. Glynne Davies
T. Glynne Davies

Ganwyd: 1926

Magwyd: Llanrwst

Addysg: Ysgol Ramadeg Llanrwst


Bardd, nofelydd, newyddiadurwr a darlledwr

News image Gwyliwch ran o deyrnged i T Glynne Davies yn Eisteddfod 2007

Bardd a nofelydd, newyddiadurwr a darlledwr, dyn amlochrog a diwylliedig oedd T. Glynne Davies. Ar ben hynny, roedd yn gymeriad hoffus, cwmni da, dyn doniol a ffraeth, gyda chylch eang o gyfeillion a gwybodaeth drylwyr o'i Gymru.

Ganwyd ef ym 1926 yn Llanrwst, yn yr hen Sir Ddinbych, tref oedd wastad yn agos at ei galon. Cafodd ei addysg yn yr Ysgol Ramadeg yno cyn cymryd swydd mewn labordy ym Mae Colwyn.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd gweithiai am rhyw flwyddyn mewn pwll glo yn Oakdale yn Sir Fynwy fel un o'r 'Bevin Boys' - dynion ifanc a wnaeth eu cyfraniad i economi'r wlad trwy weithio o dan ddaear.

Gyrfa newyddiadurol

Ym 1949, wedi gwasanaethu yn y fyddin ym Malta, bwriadai fynd i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, ond fe benderfynodd droi at newyddiaduraeth, gan weithio i'r Cambrian News yn Aberystwyth, Y Cymro a'r South Wales Evening Post.

Ymunodd â staff y BBC ym 1957 fel gohebydd newyddion a daeth ei lais unigryw yn adnabyddus ar bob aelwyd Cymraeg.

Datblygodd yn ddarlledwr dawnus dros ben, gyda hiwmor parod a dull hollol anffurfiol, yn wahanol i'r hyn a oedd yn arferol yn y Gorfforaeth ar y pryd.

Ym 1963 aeth i weithio i'r BBC yn Yr Wyddgrug ac i Fangor ym 1970 i gyflwyno'r rhaglen boblogaidd 'Bore Da'. Arhosodd gyda'r rhaglen am chwe mlynedd cyn symud unwaith eto i weithio i'r BBC yn Abertawe.

Bardd a nofelydd

Daeth i amlygrwydd fel bardd pan ennillodd y Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym 1951 gyda'i bryddest 'Adfeilion' a derbyniodd gryn glod gan y beirniaid llenyddol.

Aeth ymlaen i gyhoeddi dwy gyfrol o gerddi, sef Llwybrau Pridd (1961) a Hedydd yn yr Haul (1969).

Mae nifer o'i gerddi yn arbrofol ac yn torri tir newydd yn eu ffurfiau a'u hieithwedd. Ymddangosodd casgliad cyflawn o'i gerddi ym 1987.

Ei gampwaith, heb os nac onibai, yw'r nofel Marged (1974), clamp o lyfr sydd yn un o nofelau Cymraeg pwysicaf yr ugeinfed ganrif.

Mae'r stori yn dilyn hanes teulu o Lanrwst dros ganrif a mwy. Mae'n byrlymu â chymeriadau a golygfeydd cofiadwy, ac yn adlewyrchu gyda chryn gywirdeb y tlodi a dioddefaint y mae teulu Marged, y prif gymeriad, yn ei ddioddef.

Nid yw'n ormodiaith dweud bod y nofel uchelgeisiol, gynhwysfawr, lliwgar, bwerus hon ymhlith y nofelau gorau a ysgrifennwyd yn y Gymraeg erioed.

Cyhoeddodd T.Glynne Davies yn ogystal gyfrol o storïau byrion, Cân Serch (1954), a nofel arall, Haf Creulon (1960).

Bu farw yng Nghaerdydd ym 1988.

Meic Stephens


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy