Awdur piwritainaidd
Awdur Piwritanaidd oedd Morgan Llwyd, ac un o feistri rhyddiaith Gymraeg yn yr ail ganrif ar bymtheg. Credai bod Crist, 'y pumed Brenin', ar fin dychwelyd i'r ddaear i deyrnasu am fil o flynyddoedd.
Roedd oblygiadau crefyddol a chymdeithasol i'r milenariaeth hwn, er bod Llwyd wedi cilio i fyd mewnol duwioldeb personol dwfn erbyn diwedd ei oes.
Fe'i ganwyd yng Nghynfal-fawr, ger Maentwrog yn Sir Feirionnydd, ym 1619; mae plac ar y wal yn coffhau ei enedigaeth yn y tŷ.
Cafodd ei addysg yn Wrecsam, lle gafodd dröedigaeth drwy gyfrwng Walter Cradock; sefydlodd y ddau yr eglwys gynulleidfaol Gymreig gyntaf yn Llanfaches, yn Sir Fynwy, ym 1639.
Profiadau rhyfel
Pan ddaeth y Rhyfel Cartref, ffodd pobl Llanfaches i Fryste ac yna, ym 1642, i Lundain, ac ymunodd Llwyd â byddin y Senedd yn gaplan, gan weld ymladd ar draws de Lloegr.
Wedi'r rhyfel, fe'i anfonwyd gan y Senedd i Ogledd Cymru yn bregethwr teithiol, ac ymsefydlodd yn Wrecsam.
O 1650 hyd 1653 yr oedd yn Brofwr dan Ddeddf Taenu'r Efengyl yng Nghymru, a olygai ei fod yn gyfrifol am ddod o hyd i weinidogion addas i gymryd lle'r rhai a gawsai eu diswyddo.
Ym 1659, o dan yr Eglwys Wladwriaethol a sefydlwyd yn ystod y Gymanwlad, gwasanaethodd yn weinidog eglwys plwyf Wrecsam.
Paratoi at yr Ail Ddyfodiad
Er gwaethaf helbul ei yrfa, a'r ffaith fod ganddo wraig a thua dwsin o blant, roedd Morgan Llwyd yn awdur cynhyrchiol iawn. Ysgrifennodd wyth o weithiau yn y Gymraeg a thri yn Saesneg.
Ymhlith y pwysicaf yw Llythyr ir Cymru Cariadus (1653), a gyfansoddwyd i baratoi ei gyd-wladwyr ar gyfer ailddyfodiad Crist i deyrnasu ar y ddaear fel Brenin a Barnwr.
Er gwaethaf ei gynnwys astrus ar adegau, mae'r llyfr yn enghraifft da o ryddiaith Gymraeg ar ei orau.
Yr un thema sydd i Llyfr y Tri Aderyn, a gyhoeddwyd yn yr un flwyddyn; iddo ef roedd Senedd y Saint, a gynhaliwyd ym 1653, yn arwydd fod yr ailddyfodiad wrth law.
Y tri aderyn yw yr Eryr, sy'n cynrychioli'r gallu gwladol neu'r ymofynydd am iachawdwriaeth, y Golomen sydd yn sefyll am y Piwrtitaniaid neu y sant, a'r Gigfran sydd yn cynrychioli'r Brenhinwyr neu y anghrediniwr.
Tua diwedd y llyfr mae'r awdur yn rhoi cipolwg anuniongyrchol ar ei hynt ysbrydol ei hun, ac mae'r cyfan yn ymgais i esbonio cyfundrefn feddyliol yr awdur.
Y dystiolaeth fewnol
Y dylanwad mwyaf arno oedd y cyfrinydd Lutheraidd Jakob Böhme. Ym marn y ddau roedd Duw yn llefaru yng nghalon pob unigolyn, 'yr ystafell ddirgel', ac nid oedd yn rhaid i ddyn wneud dim ond gwrando ac ufuddhau.
Yn bregethwr huawdl yn Gymraeg a Saesneg, roedd gan Morgan Llwyd ddull hynod rethregol, yn cynnwys rhythmau'r Beibl Cymraeg, ac mae'n defnyddio diarhebion Cymraeg yn fynych.
Roedd yn feistr ar y clasuron ac ar traddodiad barddol yr oesoedd canol diweddar yng Nghymru.
Bu farw ym 1659; mae ei fedd ym mynwent Rhos-ddu yn Wrecsam, lle gwelir cof-golofn hefyd (cafodd ysgol uwchradd Gymraeg gyntaf bwrdeistref Wrecsam ei henwi ar ôl Morgan Llwyd: agorwyd yn 1960au).
Meic Stephens