BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llên
Kate Roberts
Kate Roberts

Ganwyd: 1891

Magwyd: Rhosgadfan, yn yr hen sir Gaernarfon

Addysg: Coleg Prifysgol Cymru, Bangor


Un o awduron rhyddiaith enwocaf Cymru.

gwrando Gwrandewch ar farn disgyblion Cymraeg Ysgol Uwchradd Brynrefail am Kate Roberts.
A ydy Kate Roberts yn haeddu'r teitl 'Brenhines Ein Llên'? Bu plant Ysgol Uwchradd Brynrefail yn cyfrannu at raglen BBC Radio Cymru, Stiwdio a oedd yn herio ei statws mewn llenyddiaeth Gymraeg.

Cydnabyddir Kate Roberts yn un o awduron mwyaf blaenllaw Cymru yn yr ugeinfed ganrif ac fe'i magwyd yn Rhosgadfan ger Caernarfon.

Astudiodd yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru ym Mangor. Ym 1915 fe aeth yn athrawes Gymraeg yn Ystalyfera, lle roedd Gqennalt yn un o'i disgyblion.

Ym 1917 symudodd i Aberdâr a bu'n athrawes yn Ysgol Ramadeg y merched yn y dref am un mlynedd ar ddeg, hyd nes iddi briodi Morris T. Williams yn 1928.

Fe ymsefydlodd y ddau yn Ninbych yn 1935 gan brynu ddau Gwasg Gee. Fe arhosodd Kate Roberts yno am weddill ei bywyd a marw yno yn 1985.

Bu farw ei gwr Morris yn 1946 a hi fu'n gyfrifol am Wasg Gee am ddeng mlynedd wedyn a chyfrannodd at Y Faner. Roedd hi hefyd yn ysgrifennu i'r Ddraig Goch, papur y Blaid Genedlaethol - roedd hi'n aelod mor frwd ohoni. Ond am ei straeon byrion a'i nofelau y mae Kate Roberts yn fwyaf adnabyddus ac yn eu plith mae Traed mewn Cyffion (1936), Y Byw sy'n Cysgu (1956), Te yn y Grug (1959), Tywyll Heno (1962) a Tegwch y Bore (1967).

Yn ôl Kate Roberts ei hun, math ar therapi oedd ysgrifennu yn dilyn marwolaeth un o'i brodyr yn y Rhyfel Byd Cyntaf ac yna'i gwr yn ddiweddarach yn 1946. Y teulu ydy cefndir llawer iawn o'i gwaith sef profiadau dynion a merched cyffredin yn y Gymru wledig.

Tuedda hefyd i edrych yn ôl i gyfnod ei phlentyndod hi ei hun yn Rhosgadfan ar droad y ganrif gan ysgrifennu am ffordd o fyw sydd bellach yn angof.

Mae Te yn y Grug yn gyfres o straeon byrion syn sôn am brofiad Begw wrth iddi hi dyfu fyny a chyfeirir at ei chyfeillion sef Winni Ffini Hadog a Mair a cheir llawer o hiwmor ynddynt.

Mae Traed Mewn Cyffion yn waith llawer mwy difrifol a du. Gosodwyd y nofel rhwng y blynyddoedd 1880 a 1914 mewn ardal chwareli digon tebyg i'r un y magwyd Kate Roberts ei hun ynddi. Y prif gymeriad ydy Jane Gruffydd ac mae'r nofel yn delio efo realiti bywyd a'r caledi wrth iddi hi geisio magu chwech o blant yn ystod y cyfnod.

Fe dderbyniodd Kate Roberts wobrau ac anrhydeddau lu am ei gwaith gan gynnwys doethuriaeth er anrhydedd gan y Brifysgol yng Nghymru a chydnabyddiaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

  • Glyn Jones yn trafod 'Cyfnod Dinbych' Kate Roberts
  • Mae mwy o wybodaeth am Kate Roberts a'r ganolfan dreftadaeth newydd yn ei hen gartref yng Nghae'r Gors ar ei thudalen yn Oriel Enwogion y gogledd orllewin.


    Cyfrannwch

    Hana Gwyn o Bala
    Rydw i wedi bod yn son am Te yn y Grug yn yr ysgol gyd Miss Smithies ac rydw i yn mwynhau y wers yna.
    Wed Oct 21 16:03:16 2009

    Taran o Morfa Nefyn
    Da iawn! Mae gennych gwybodaeth sylweddol! Kate Roberts am byth.
    Fri Feb 27 11:49:43 2009

    Jess o Ysgol Botwnnog
    Mae'r gwybodaeth yn wych!
    Fri Feb 27 11:45:12 2009

    Louise
    Mae y wybodaeth yma yn llawer o help i fi. Mae'n rhaid i mi ymchwilio am wybodaeth ar Kate Roberts a mae hwn yn gret! Diolch yn fawr! :)
    Sun Apr 27 14:57:38 2008

    Owain o Gaernarfon
    Dda ond bach mwy o gwybodaeth os gwelwch yn dda.
    Sun Feb 17 19:18:08 2008

    chelsea ynys mon
    rydw i'n neud project am kate roberts ac mae hi yn helpu fi neud pwyntiau bwled am tudalen ac hanner.ac da ni'n darllen 'te yn y grug' efo fy'n athrawes i ac mae o'n dda ac dydw i ddim yn dallt o i gyd ond dipyn bach.
    Mon Sep 11 16:30:16 2006

    Ellen o Brynrefail
    Mae llyfrau Kate Roberts yn arddechog.Rwyf wrthi yn darllen 'Te yn y Grug' mae'n lyfr ardderchog at lle rydyn wedi darllen rwyf yn gobeithio fydd gweddill y llyfr mor dda.
    Fri Jun 30 09:30:48 2006

    Heledd Tomos (ysgol brynrefail)
    credaf , fod hanes kate roberts yn ddiddorol iawn
    Fri Jun 30 09:20:15 2006

    disgyblion Coleg Crist Aberhonddu
    Rydym wedi gweld y ffilm Y Mynydd Grug, ac yn chwilio am wybodaeth amdani fel gwaith cartref. Roedd y ffilm yn eithaf 'wierd'! Ond gwnaethom ei fwynhau - rydym am ddarllen y straeon byrion nawr.
    Fri Nov 11 10:15:38 2005

    Osian o Lanrug
    Mae'n ddiddorol iawn. Hefyd rwyf yn cytuno gyda Bethan mae darllen am ei bywyd yn ddiddorol dros ben.
    Mon Jun 13 14:10:01 2005

    Meinir o Penisaerwaun
    Dwi ddim yn licio hi.
    Mon Jun 13 14:05:27 2005

    sioned o dre
    Mae'r ddynas yma yn eithriadol o dda ac yn uffernol o ddiddorol.Rydwyf yn hoffi'r ffaith y mae hi yn anhapus ac yn gwneud fi yn anhapus hefyd a emosiynol. Diolch.
    Mon Jun 13 14:04:45 2005

    Lowri Hamer o Flaenau Ffestiniog
    Dwi'n neu project am Kate Roberts yn yr ysgol a mae'r safle a'r wybodaeth hyn wedi fy helpu Diolch yn fawr iawn xx
    Wed May 25 21:33:35 2005


    Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.

    0
    C20
    Pobol y Cwm0
    Learn Welsh0
    BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy