Bardd telynegol hynod boblogaidd
Bardd tra phoblogaidd sydd wedi cadw ei apêl fel awdur geiriau nifer o ganeuon cofiadwy megis 'Nant y Mynydd', 'Dafydd y Garreg Wen', 'Ar Hyd y Nos', a darnau o 'Alun Mabon', oedd Ceiriog. Gellir dadlau mai diddanwr ydoedd, yn bodloni anghenion ei oes, ond mae gan ei gerddi rhinweddau'n ddios ac mae rhai ohonynt yn atyniadol dros ben.
Ni ddylwn edrych lawr ein trwynau ar ei waith, fel mae rhai o'n beirniaid wedi ei wneud yn ystod y can mlynedd diwethaf.
Ganwyd John Hughes ym 1832 yn Llanarmon Dyffryn Ceiriog yn Sir Ddinbych.
Gadawodd yr ysgol yn bymtheg oed a rhoi cynnig ar fywyd amethyddol ac ar argraffu cyn symud at berthynas ym Manceinion ym 1848, lle gweithiai fel groser ac wedyn fel clerc yng ngorsaf y rheilffordd.
Trwy ei gyfaillgarwch ag R.J.Derfel, Creuddynfab ac Idris Fychan dechreuodd farddoni a dysgu am draddodiad llenyddol Cymru.
Idris Fychan (John Jones) a oedd yn gyfrifol am ei berswadio gymryd yr enw Ceiriog a Creuddynfab (William Williams) a'i ddarbwyllodd y dylai ganu'n syml, yn naturiol ac yn deimladwy - a dyna a wnaeth am weddill ei oes.
Gwaith yng Nghymru
Dychwelodd y bardd i Gymru ym 1868 pan gafodd swydd fel gorsaf-feistr yn Llanidloes yn Sir Drefaldwyn, a dwy flwynedd yn ddiweddarach cafodd ei benodi'n arolgydd y rheilffordd a oedd newydd ei hagor o Gaersws i'r Fan.
Dechreuodd feirniadu mewn eisteddfodau a mynychu'r tafarndai lle oedd beirdd lleol yn cwrdd.
Ymddangosodd ei gyfrol gyntaf, Oriau'r Hwyr, ym 1860.
Yn fuan wedyn daeth Oriau'r Bore (1862), Cant o Ganeuon (1863), Y Bardd a'r Cerddor (1865), Oriau Eraill (1868), Oriau'r Haf (1870) ac Oriau Olaf (1888).
Mae'r cyfrolau hyn yn cynnwys cerddi a adroddwyd ac a ganwyd ar achlysuron di-rif ar lwyfannau Cymru am flynyddoedd wedyn.
Telynegwr penigamp
Arbenigrwydd Ceiriog oedd ei allu i ysgrifennu geiriau ar gyfer yr hen geinciau Cymreig, a'r canlyniad yw rhai o'r telynegion gorau yn y Gymraeg ar themâu megis natur, serch a gwladgarwch.
Caneuon sentimental ydynt yn ôl safonau heddiw ond yr oeddynt yn boblogaidd iawn yn oes Fictoria.
Rhoddodd fin mwy deifiol ar ei ryddiaith.
Yn Gohebiaethau Syr Meurig Grynswth (1856-58; gol. Hugh Bevan, 1948) ceir beirniadaeth ar yr Eisteddfod Genedlaethol ac ar ffugbarchusrwydd y gymdeithas Gymraeg.
Mae rhan o'r hwyl yn deillio o beiriant bwrw cynghanedd, ond mae'r gwaith yn llawn hiwmor dychan trwyddi draw.
Bu farw Ceiriog ym 1887 a fe'i gladdwyd yn Llanwnnog ym Mhowys.
Mae'r Llyfrgell yng Nglyn Ceiriog yn ei goffhau a gwelir plac ar y fferm-dŷ yn Llanarmon Dyffryn Ceiriog lle ganwyd y bardd.
Meic Stephens