Marchogwraig ryngwladol sy'n enillydd medalau Paralympaidd.
Fe dyfodd hoffter plentyn o geffylau yn frwdfrydedd sydd wedi gwneud Nicola yn un o brif farchogion Prydain ac yn athletwraig baralympaidd lawn amser.
Dechreuodd farchogaeth pan oedd yn 10 oed yng Nghanolfan Farchogaeth Arbennig Llanfynydd ger Wrecsam. Yn 12 oed, dechreuodd gystadlu ar lefel Brydeinig ac erbyn iddi fod yn 16 oed roedd wedi ei dewis ar gyfer Carfan Ieuenctid Prydain.
Ganed Nicola gyda Hemipligia Dde, cyflwr sy'n golygu ei bod wedi ei pharlysu ar ochr dde ei chorff. Mae'r cyflwr yn golygu ei bod mewn poen yn gyson ac mae wedi dyfeisio awenau arbennig sy'n ei galluogi i farchogaeth gydag un law. Dywed bod ei gallu i reidio ceffylau wedi rhoi hyder iddi pan oedd hi'n cael ei bwlio yn yr ysgol.
Daeth yn farchogwraig ryngwladol dros Gymru yn 17 oed a chynrychiolodd Brydain yn Israel yn y bencampwriaeth Anabledd Agored yn 18 oed, lle'r enillodd fedal aur ac arian.
Wedi hynny cafodd ei dewis i fod yn aelod o Garfan Elite Prydain ac mae wedi parhau i ennill medalau gan gasglu dros ddwsin o fedalau aur rhyngwladol, nifer o fedalau aur ar lefel byd a medalau tîm mewn aur, arian ac efydd. Mae Nicola hefyd wedi llwyddo mewn pencampwriaethau cenedlaethol ar gyfer athletwyr abl o gorff.
Heddiw mae'n athletwraig baralympaidd lawn amser drwy raglen o'r enw World Class Performance Plan sy'n ei chynghori ar sut i gadw golwg ar ei hiechyd, deiet, ffitrwydd a ffisioleg.
Enillodd Nicola fedal unigol efydd, aur dull rhydd ac aur tîm yng Ngemau Paralympaidd Sydney 2000. Enillodd ddwy fedal efydd unigol yng Ngemau Paralympaidd Athen yn 2004 ac un aur fel rhan o'r tîm hefyd.
Ym mis Gorffennaf 2007 cystadlodd yn y Pencampwriaethau Byd, gan gipio aur unigol wrth ennill y prawf gradd 2. Roedd yn marchogaeth ei hen geffyl HotStuff gan fod ei phrif geffyl, Prinz Heinrich, wedi ei anafu. Aeth ymlaen i ennill arian yn y gystadleuaeth rydd hefyd.
Yn fuan wedyn, daeth yn amlwg fod Prinz Heinrich yn gloff a HotStuff yn rhy hen i wneud y daith i Beijing. Yn lwcus, daeth Nicola o hyd i Rivaldo ceffyl Oldenburg, brown tywyll, naw mlwydd oed, a dechreuodd y ddau hyfforddi yn hydref 2007.
Mae wedi ei henwebu fel Cymraes y Flwyddyn ddwy waith ac wedi bod ar restr fer Gwobrau Chwaraeon Byd Laureus.
Oddi ar y llwyfan cystadleuol, mae Nicola yn adnabyddus am hyrwyddo anabledd mewn chwaraeon ym mhob disgyblaeth ac mae'n cysegru ei hamser i godi ymwybyddiaeth o'i chwaraeon yng Nghymru.