Golffiwr rhyngwladol sydd wedi cyrraedd uchelfannau'r gamp.
Ganed Ian Woosnam ar fferm yng Nghroesoswallt, ychydig lathenni dros y ffin yn Swydd Amwythig. Ond er iddo gael ei eni yn Lloegr yn dechnegol, roedd eu rieni yn Gymry ac mae wedi ystyried ei hun yn Gymro erioed.
Saith oed oedd Woosnam pan gydiodd mewn clwb golff am y tro cyntaf. Dysgodd chwarae yng nghlwb golff Llanymynech ym Mhowys lle mae 15 o'r tyllau yng Nghymru a 3 dros y ffin yn swydd Amwythig!
Mae gwefan y clwb yn dwyn i gof ymateb rhai o'r aelodau pan gyhoeddodd Woosnam, neu Woosie i'w ffrindiau, ei fod am droi yn broffesiynol yn y 1970au.
Yn ôl y wefan, treuliodd grŵp ohonyn nhw ddyddiau yn erfyn arno i ailystyried - am eu bod yn credu nad oedd fawr gwell chwaraewr na miloedd o chwaraewyr amatur eraill, gan gynnwys nhw eu hunain, ac y byddai'n difaru'r penderfyniad.
Blynyddoedd cynnar anodd
Fe brofodd nhw'n anghywir, ond roedd ei flynyddoedd cynnar fel chwaraewr proffesiynol yn anodd. Ar ôl cymhwyso ar gyfer Cylchdaith Ewrop, treuliodd y pum mlynedd nesaf yn gyrru o amgylch y cyfandir mewn fan VW, gan fyw ar ffa pob, yn ôl y sôn.
Yn y diwedd, cafodd ei wobrwyo gyda buddugoliaeth yng nghystadleuaeth y Swiss Open yn 1982.
Yn 1987, enillodd wyth twrnameint, gan gynnwys Cpwn y Byd dros Gymru yn Hawaii ac ennill mwy o arian na neb arall ar y Gylchdaith Ewropeaidd: fo oedd yr Ewropead cyntaf i ennill mwy na miliwn o ddoleri mewn un tymor.
Daeth Woosnam hefyd yn Bersonoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn yng Nghymru y flwyddyn honno ar ôl ennill un o'r prif gystadlaethau unigol - Teitl Chwaraewr Tyllau'r Byd - a miliwn o ddoleri yng nghystadleuaeth Sun City yn Ne Affrica.
Cyrraedd y brig
Yn 1988, enillodd Bencampwriaeth PGA Prydain. Dair blynedd yn ddiweddarach, roedd yn Rhif Un yn y byd ac yn dathlu buddugoliaeth yn un o bencampwriaethau mwyaf nodedig y byd golff - fel pencampwr yr US Masters 1991.
Mae wedi cynrychioli Cymru fwy na 15 o weithiau yng Nghwpan y Byd.
Yn 2001, torrodd record arall pan enillodd bencampwriaeth Cisco Chwarae Tyllau'r Byd yn Wentworth - daeth y 'Welsh Wizard' y chwaraewr cyntaf yn hanes y bencampwriaeth i ennill mewn tair degawd yn olynol (1987, 1990, 2001). Yn 43 mlwydd oed, fo hefyd oedd y chwaraewr hynaf i ennill y teitl.
Dydi lwc ddim wedi bod o'i blaid bob tro chwaith - yn 2001, collodd ddau drawiad a'i gyfle o ennill Pencampwriaeth Agored Prydain yn Lytham am fod ganddo'r nifer anghywir o glybiau yn eu fag.
Ar ei ben-blwydd yn 47 oed yn 2005, cyhoeddwyd bod Woosnam wedi ei ddewis yn gapten ar Dîm Ewrop yng Nghwpan Ryder 2006. Er i rai amau ei ddewis o chwaraewyr, arweiniodd y tîm i fuddugoliaeth, gan ennill OBE yn rhestr anrhydeddau'r Frenhines yn 2007.
Yn ddom ond 5tr 4m, ystyrir Woosnam yn un o chwaraewyr mwyaf hirhoedlog y gamp. Oddi ar y cwrs golff, mae'n rhestru pysgota, chwaraeon a snwcer fel ei ddiddordebau eraill (olynodd yr Arglwydd Archer fel Llywydd Cymdeithas Snwcer y Byd yn 1999) .
Mae ganddo ef a'i wraig, Glendryth, dri o blant ac mae'n byw yn Jersey ond yn ymweld yn gyson â Chymru.
Golff ar BBC Cymru'r Byd