Un o sêr cyntaf y byd pêl droed yng Nghymru.
Wyddech chi?: Roedd Billy Meredith yn enwog am gnoi wrth chwarae er mwyn canolbwyntio. Yn wreiddiol, fe fyddai'n cnoi baco ond pan wrthododd y glanhawyr olchi'r ôl poer oddi ar ei grysau, fe ddechreuodd gnoi toothpick! Yn 1926, fe ymddangosodd Meredith mewn ffilm yn chwarae fo'i hun fel hyfforddwr.
Un o sêr mawr cyntaf y byd pêl-droed yng Nghymru a chwaraeodd yng nghrysau coch a glas Manceinion - ffigwr chwedlonol i City ac United fel ei gilydd.
Dechreuodd ei yrfa yn chwarae'n rhan amser i dîmau lleol tra'n gweithio ym mhwll Black Park ger y Waun. Yn 1894, fe arwyddodd i Manchester City fel chwaraewr pêl-droed llawn amser. Am weddilll ei yrfa bu'n gysylltiedig â'r ddau dîm yn Manceinion.
Fe gafodd yrfa lwyddiannus iawn yno gyda City am ddeng mlynedd nes iddo gael ei gyhuddo o dwyllo. Fe'i cyhuddwyd o geisio dylanwadu ar chwaraewr mewn tîm arall i golli gêm. Ataliwyd ef rhag chwarae o ganlyniad i'r holl sgandal. Yn 1906 fe arwyddodd dros Manchester United a dechrau chwarae drostyn nhw pan godwyd y gwaharddiad.
Ailgydiodd yn ei yrfa ar y maes pêl-droed ac roedd yn ffigwr poblogaidd iawn ar y cae ac yn enwog am wibio lawr yr asgell gan ennill y ffugenw 'dewin yr asgell'. Gadawodd United yn 1921 wedi sgorio 35 gôl i'r tîm gan ddychwelyd i City a chwarae iddyn nhw am bedwar mis cyn ei ben blwydd yn hanner cant!
Fe chwaraeodd dros Gymru hefyd ac uchafbwynt ei yrfa oedd chwarae mewn gêm lwyddiannus yn erbyn y Saeson ac ennill 2-1.
Statws rhyngwladol: 48 o gapiau, 11 gôl.
Safle: Blaenwr
Debut: 1 Ionawr 1907
Ei funud fawr: ennill dwy fedal bencampwriaeth a medal enillydd y gwpan yn y blynyddoedd 1908 1911.
Yn answyddogol: er ei fod yn llwyddiannus ar y cae, bu bron iddo orfod rhoi gorau i'r gêm ar ôl yr helynt twyllo.