BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Celfyddydau
Llŷr Williams
Llŷr Williams

Ganwyd: 1976

Magwyd: Pentrebychan, Wrecsam

Addysg: Ysgol Hooson, Y Rhos; Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam; Queen's College, Rhydychen; yr Academi Gerdd Frenhinol.


Pianydd ifanc sy'n cael ei gyfrif ymhlith goreuon y byd

Mae Llŷr Williams wedi derbyn clod aruchel fel pianydd unigol, cyfeilydd a cherddor siambr.

Bu'n perfformio yn un o gyngherddau'r Eisteddfod Genedlaethol am y tro cyntaf pan y ddaeth y Brifwyl i'w ardal enedigol yn 2007. Cliciwch yma am fwy o'r stori.

Mae'r pianydd ifanc o Bentre Bychan wedi cyfareddu cynulleidfaoedd yng Ngŵyl Caeredin, Neuadd Albert, Neuadd Wigmore, Neuadd Steinway, yr Academi Frenhinol, Neuadd Dewi Sant, St Martin-in-the-Fields a llawer mwy.

Pan chwaraeodd yng Ngŵyl Caeredin am y tro cyntaf yn 2002, dywedodd un adolygydd ar y pryd: "What's Williams got that's special? Everything." Mae wedi perfformio yn yr ŵyl bob blwyddyn ers hynny.

Ers 2002, mae hefyd wedi bod yn un o gyfeilyddion swyddogol cystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd.

Gwnaeth ei ymddangosiad yn y Proms am y tro cyntaf yn 2005 gyda Cherddorfa Symffoni'r BBC, dan arweiniad Jiri Belohlavek. Y flwyddyn honno hefyd derbyniodd Llŷr Williams Wobr Artist Ifanc Neilltuol MIDEM Classique ac International Artist Managers' Association.

Mewn rhaglen ddogfen ar S4C yn 2006, Y Pianydd, datgelodd Llŷr Williams ei fod eisoes yn dipyn o ffan o opera erbyn iddo gael ei wers biano gyntaf yn saith oed: "Roedd dad yn hoffi gwrando ar opera ac mi roeddan ni'n mynd i Landudno i weld perfformiadau gan y WNO, ac i Fanceinion. Mi ro'n i'n mwynhau gwaith Verdi i ddechrau ac yna yn hwyrach ymlaen pan o'n i'n tua 10 oed ro'n i'n cael fy nenu at Wagner," meddai.

Llyr Williams yn lansiad Cyngherddau Eisteddfod 2007 Yn 11 mlwydd oed, roedd wedi pasio ei arholiadau piano Gradd 1-8 gydag Anrhydedd.

Ar ôl gadael Ysgol Morgan Llwyd, astudiodd gerddoriaeth yng Ngholeg Queens, Rhydychen gan raddio â dosbarth cyntaf ym 1998. Aeth ymlaen wedyn i astudio yn yr Academi Gerdd Frenhinol gan ennill cymhwyster uchaf yr academi, y DipRAM, yn 2002. Enillodd Gymrodoriaeth Shinn yr Academi (2000-2002) pan y bu'n astudio hyfforddi cantorion ac arwain cerddorfeydd yn ystod y ddwy flynedd.

Ers ymuno â chynllun New Generation Artists BBC Radio3 yn 2003 mae wedi ymddangos fel pianydd unigol gyda Cherddorfa Symffoni'r BBC, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, a Cherddorfa Ffilarmonig y BBC.

Roedd ei lun ar glawr CD rhifyn Mehefin 2005 cylchgrawn BBC Music Magazine o weithiau gan Beethoven, Lizt a Schubert.

Rhyddhaodd ei CD masnachol cyntaf o waith Chopin, Préludes, yn 2006 ar label Quartz.

Ar ddechrau 2007, perfformiodd yn yr Unol Daleithiau am y tro cyntaf tra ar daith gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.

Mae wedi perfformio'n rheolaidd gyda Sinfonia Cymru a chynllun Live Music Now! Yn 2004 enillodd wobr o £20,000 gan y Borletti Buitoni Trust.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy