 |
 | Tenor â llais arian oedd yn cyfuno'r clasurol a'r cartrefol.
David Lloyd yn canu ar O Cofio'r Celyn a'r Calan yn 1960 Mab i löwr oedd David George Lloyd. Roedd yn un o saith o blant a dechreuodd ganu yn wyth mlwydd oed. Ar ôl meithrin ei ddawn mewn eisteddfodau lleol, enillodd ysgoloriaeth i Ysgol Gerdd y Guildhall a bu'n canu yn Efrog Newydd, Milan a Glyndebourne. Bu'n aelod o'r Gwarchodlu Cymreig yn ystod y rhyfel, a gwelwyd ef yn ei lifrai yn canu ar lwyfan sawl gwaith. Swynodd y genedl â'i lais ariannaidd, teimladwy. Roedd ganddo ddawn neilltuol i fynd â chalon cynulleidfa, yn enwedig cynulleidfa Gymreig, pryd y byddai'n canu hen ffefrynnau o ganeuon gwerin ac emynau. Mewn rhaglen a ddarlledwyd ar S4C yn 2008 cofia'r cerddor Rhys Jones rywun yn dweud wrtho fod gan David Lloyd "ddeigryn yn ei lais." Ac meddai'r tenor Rhys Meirion, a gyflwynai'r rhaglen, "Mae 'na rywbeth yn ei lais sy'n mynd at eich calon. Mae'n anodd ei roi o mewn geiriau."
Yn y rhaglen hefyd, datgelodd Donald Lloyd, nai David, am y tro gyntaf yn gyhoeddus fod gan y tenor broblem yfed. "Nid yfed o ran pleser oedd o, dianc oedd o," meddai. "Roedd yn berffeithydd a oedd yn gosod safon uchel iddo fo ei hun. Roedd yn cydnabod fod llwyddiant yn fendigedig ond yn sylweddoli hefyd ei fod yn gyfrifoldeb."
 |  |  |
 |  | Cyfrannwch i'r dudalen hon! |  | |
|  |  |  | s4c.co.uk/gwylio
|  |  |  | Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol |  |  |  |

|