BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Adloniant
Russell Crowe
Russell Crowe

Ganwyd: 7 Ebrill 1964 yn Wellington, Seland Newydd.

Magwyd: Seland Newydd ac Awstralia, ond mae'r teulu yn hanu o Wrecsam.


Actor enwog yn Hollywood a seren Gladiator.

Wyddech chi?
  • Ei enw llawn yw Russell Ira Crowe a'i lysenw yw Rusty.
  • Mae'n berchen ar fferm 560-acer ger Sydney.
  • Mae'n canu mewn grŵp roc o'r enw 30 Odd Foot of Grunts.
  • Pan fydd farw mae eisiau rhoi ei ymennydd i wyddoniaeth feddygol.
  • Mae'n cefnogi Leeds United FC.
  • Na, dydi'r actor Russell Crowe - arwr y ffilm Gladiator - ddim yn Gymro, ond mae ei deulu agos yn hanu o Wrecsam.

    Ac mae gobeithion yn uchel y bydd yr actor yn hedfan i Gymru rhywbryd i gymryd rhan yn rhaglen hel achau'r BBC, Coming Home, gan ddilyn yn ôl troed Donny Osmond, Susan Sarandon ac Olivia Newton-John.

    Yn 2001 darganfu Hilary Betts o Wrecsam bod y cricedwyr Jeff a Martin Crowe o Seland Newydd yn perthyn iddi o bell.

    Wedyn, tra'n gwylio rhaglen deledu, clywodd fod Russell Crowe yn gefnder iddynt hwythau.

    Darganfu Hilary bod hendaid Russell Crowe, dyn o'r enw Fred, a'i wraig Kezia, ynghyd â 12 neu 13 o blant, wedi ymfudo i Ganada yn 1925.

    Canfuwyd erthygl mewn hen bapur newydd am eu hymadawiad, a'r ffarwel gawsant gan aelodau Capel y Bedyddwyr Stryd Gaer, Wrecsam, sydd yno hyd heddiw.

    Roedd y teulu yn cadw siop groser, Crofruit. Arhosodd taid Russell, John, i redeg y busnes - roedd hefyd yn aelod o dîm polo dŵr Ysgol Grove Park yn y 20au.

    Dychwelodd brawd hwnnw, Frank, o Ganada ar ôl dwy flynedd i helpu yn Crofruit.

    Mae disgynyddion Frank yn Wrecsam hyd heddiw, Hilary yn eu mysg.

    Yn fuan wedyn ymfudodd John i Seland Newydd, lle priododd. Ganed iddo ddau o blant: David ac Alex, tad Russell.

    Er i Russell gael ei eni yn Seland Newydd ymfudodd ef a'i deulu i Awstralia pan oedd yn blentyn.

    Roedd ei rieni yn darparu bwyd ar setiau ffilm ac fe ddechreuodd yntau actio fel plentyn - roedd yn Neighbours am bedair pennod.

    Cyfarfu ei briod, yr actores Danielle Spencer, tra'n gwneud y ffilm The Crossing yn 1990. Mae ganddynt ddau o blant.

    Ymysg ei hen gariadon y mae Meg Ryan - ac mae'n ffrindiau mawr efo Jodie Foster a Nicole Kidman.

    Mae ei ffilmiau yn cynnwys: Romper Stomper, The Sum of Us, LA Confidential, Mystery, Alaska, Proof of Life, Gladiator, A Beautiful Mind, Master and Commander, Cinderella Man, 3:10 to Yuma ac American Gangster.


    0
    C20
    Pobol y Cwm0
    Learn Welsh0
    BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy