BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Adloniant
Rhys Ifans ar raglen Friday Night with Jonathan Ross
Rhys Ifans

Ganwyd: 22 Gorffennaf 1968 yn Hwlffordd

Magwyd: Rhuthun

Addysg: Ysgol Maes Garmon, Yr Wyddgrug


Actor a ddenodd sylw'r byd ffilm gyntaf yn ei drôns fel Spikey yn Notting Hill.

Wyddech chi? : Roedd Rhys yn aelod o'r grŵp 'Super Furry Animals' am gyfnod byr.

O Ysgol Faes Garmon i fryniau Hollywood, mae Rhys bellach yn un o sêr amlycaf Cymru. Er na chafodd ei ddymuniad a chael rhan gyda Sarah Michelle Gellar yn y ffilm Scooby Doo, mae Rhys yn seren Gymraeg go wahanol ond poblogaidd iawn ym myd y ffilmiau.

Fe ddechreuodd ei yrfa yn un o'r ddau Frank, (gyda Meirion Davies) ac yn dilyn llwyddiant cwlt y ffilm Twin Town gyda'i frawd Llŷr, fe enillodd Rhys gydnabyddiaeth fel Spikey yn y ffilm gomedi Notting Hill, gyda Hugh Grant a Julia Roberts, yn fwyaf nodedig mewn golygfa lle mae'n ateb y drws i'r paparazzi yn ei drôns! .

Rhys yn ennill BAFTA yn 2005Fe gafodd ei ddewis i fod yn seren newydd ddisgleiriaf Hollywood gan ddarllenwyr y cylchgrawn Entertainment Weekly. Bu'n gweithio efo Robert Carlyle yn Once Upon a Time in the Midlands, Kevin Spacey a Judi Dench yn Shipping News a Tim Robbins yn Human Nature.

Mae'n cadw cysylltiad agos iawn â'i gartref ac wrth ddychwelyd i Ruthun ym Mawrth 2000 fe agorodd y Theatr £400,000 newydd sef Theatr John Ambrose. Anfonodd neges i'w hen ysgol hefyd ar achlysur pen blwydd yr ysgol yn ddeugain oed. Nododd Ysgol Maes Garmon yr achlysur efo llu o ddigwyddiadau a llyfr arbennig 121 tudalen gan Aled Lloyd Davies a'r athro Iwan Jones yn adrodd hanes yr ysgol.

Disgrifir Rhys yn y llyfr fel un i'w gofio'n annwyl. Gan nad oedd yn medru mynd i'r cyfarfod, fe anfonodd neges gan ymddiheuro ynddo am ei lawysgrifen sâl a gobeithiai hefyd fod ei sillafu'n gywir!

Mae rhieni Rhys yn athrawon lleol.

Ydych chi yn cofio Rhys Ifans yn blentyn? Oes gennych eich hoff ffilm? Ysgrifennwch aton ni gyda'ch straeon.


Cyfrannwch

Pentrecelyn
Roedd Rhys yn arfer bod yn ddisgybl yn Ysgol Pentrecelyn cyn mynd i Ysgol Maes Garmon ac yn ffrindiau gore gyda fy yncwl Dafydd Iwan

awen little
'Dwi erioed wedi cwrdd a ti ond 'dwi'n dwli ar yr hiwmor yn y gwaith wyt wedi gwneud. Mae'n hyfryd i weld dy lwyddiant a pob lwc i ti yn y dyfodol.

Helen Hooper (IFANS EVANS)
mor browd dy fod yn neud mor dda ... dal ati ...

Lia pritchard
Gwnes i fwynhau y ffilm Little Nikky yn fawr iawn.

bethan o rhuthun
rhys ydi fy arwr i!!


Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.

0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy