Y ferch olaf ym Mhrydain i gael ei chrogi
Ar ddiwedd yr ail ryfel byd, wedi ymron i chwe mlynedd o fodoli o
dan gysgod bom ac yn sŵn bwled, dechreuodd y byd ddysgu byw
unwaith eto. Daeth dynoliaeth allan o'i chuddfannau tywyll gan
smicio'i hamrannau yn y golau anghyfarwydd, a theimlai'r
genhedlaeth ifanc mai nhw oedd piau'r byd.
Ymhlith y rhai a gredai fod aur ar strydoedd Llundain roedd merch
ifanc o'r Rhyl. Yn anffodus, nid cadwyn o aur a ganfu Ruth Ellis o
gwmpas ei gwddf ond dolen rhaff.
Ruth Ellis oedd y fenyw olaf i gael ei chrogi'n gyfreithlon yng
ngwledydd Prydain, er i filoedd frwydro i geisio arbed ei bywyd, a'i
dienyddiad hi fu'n bennaf cyfrifol am ddod â'r defnydd o'r gosb
eithaf i ben.
Nid bod Ruth yn gofidio. Roedd arni eisiau marw, a
chyda chymorth y gyfraith, gwireddwyd ei dymuniad.
Gallasai stori Ruth fod wedi dod o un o ffilmiau Hollywood - yn
wir, yn ddiweddarach trowyd hanes ei bywyd yn ffilm ond rhywun
arall, nid Ruth, oedd y seren. Chwilio am freuddwyd ond canfod
tristwch fu hanes y ferch hon.
Geni yn y Rhyl
Ganwyd Ruth yn rhif 74 West Parade, y Rhyl, ar 9 Hydref 1926 yn
un o ddwy ferch i Arthur ac Elisabeta Hornby, ef yn gerddor teithiol
a hithau'n ffoadur rhyfel o Ffrainc.
Bedyddiwyd hi yn Ruth Nielsen,
gan fabwysiadu enw proffesiynol ei thad, a phan oedd hi'n ferch
ifanc proffwydodd y câi fywyd byr, ond hapus.
Dim ond rhan gyntaf
y broffwydoliaeth honno ddaeth yn wir.
Symudodd y teulu i dde Lloegr wedi i'r tad gael gwaith gyda band
ac yna i Lundain lle dechreuodd Ruth weithio mewn tai bwyta cyn
symud ymlaen i'r clybiau nos fel gweinyddes a dawnswraig.
Yn 16
oed, ganwyd iddi ferch a gadawodd y tad, milwr o Ganada, hi i godi'r
plentyn ar ei phen ei hunan.
Er mwyn cynnal ei phlentyn, trodd at
fodelu'n noeth mewn stiwdio ffotograffydd, ond mewn gwirionedd
putain oedd hi.
Priododd â deintydd o Southampton, ond buan y
canfu fod hwnnw'n alcoholig treisgar, ac yna cafodd Ruth swydd
rheolwraig ar y Little Club gan Morris Conley, dyn busnes tra
amheus a oedd hefyd yn berchen ar glwb Carroll's.
Cariad tyngedfennol
Un o aelodau'r clwb oedd David Blakely. Yn wir, ef oedd y cwsmer
cyntaf i Ruth ei gyfarfod yno. Roedd Blakely yn rasio ceir a syrthiodd
Ruth mewn cariad ag ef o'r funud y cerddodd ef i mewn i'r clwb.
Dyma'r
union math o ddyn y byddai Ruth yn ffoli arno, yn hardd yr olwg, yn
gymdeithaswr di-ail, yn fwli ac yn gachgi.
Ac yntau'n gyn-ddisgybl o
Ysgol Breswyl Amwythig, câi ei gynnal gan arian ei dad.
O fewn y
flwyddyn roedd Ruth yn feichiog eto a Blakely yn dechrau canlyn
merched eraill.
Yn y cyfamser aeth Ruth i fyw gyda dyn arall, Desmond
Cussens, gŵr a oedd lawer yn hŷn na hi ac a oedd dros ei ben a'i glustiau
mewn cariad â hi, ond roedd Ruth yn methu byw heb Blakely.
Saethu yn y stryd
Ar nos Wener y Groglith 1955 aeth Ruth i chwilio amdano. Gan nad
oedd adref ar y pryd, ymosododd ar ei fan, a oedd wedi'i pharcio y tu
allan i'w gartref.
Yna, ar y dydd Sul, a Ruth yn dal i chwilio amdano,
gyrrwyd Blakely i dafarn y Magdala i brynu cwrw ar gyfer parti.
Pan
gerddodd allan, camodd Ruth tuag ato, tynnodd wn llaw o'i bag a'i
saethu ddwywaith.
Yna, â Blakely yn gorwedd ar y stryd, saethodd ef
ddwywaith neu deirgwaith eto cyn troi'r gwn arni hi ei hun.
Methodd
Ruth â'i saethu ei hun, ond ni cheisiodd ddianc.
Cerddodd at ddyn a
safai gerllaw a dweud wrtho, 'A wnewch chi alw am blismon?'
'Plismon ydw i,' atebodd y dyn. 'Yna, a wnewch chi, plîs, fy arestio i?'
gofynnodd Ruth. Cafodd ei dymuniad.
Cyfaddefodd ar unwaith mai ei
bwriad oedd dod o hyd i Blakely a'i saethu.
Yn yr achos llys cydweithiodd yn llawn â'r erlyniad, ac er iddi
bledio'n ddieuog yn ffurfiol, doedd ganddi ddim gobaith.
Heddiw
buasai wedi medru pledio cyfrifoldeb lleihaëdig, ple a ddaeth yn
gyfraith yn 1957 o ganlyniad uniongyrchol i achos Ruth.
Golygai
hynny y byddai'r cyhuddiad o lofruddio wedi cael ei leihau i
ddynladdiad ar sail creulondeb Blakely tuag ati.
Cafwyd hi yn euog
a'i chondemnio i wynebu'r gosb eithaf.
Lladd mewn gwaed oer
Casglwyd deisebau di-rif yn galw am ddiddymu'r gosb, ond i ddim
pwrpas. Roedd hi wedi lladd Blakely mewn gwaed oer ac wedi
cyfaddef hynny.
Ei hymateb i'r rheiny a geisiodd achub ei bywyd
oedd, 'Rwy'n ddiolchgar iawn, ond rwy'n ddigon hapus i farw'.
Yn rhyfedd iawn, ni aethpwyd ar ôl hanes y gwn.
Sut oedd merch
mor fach â Ruth wedi medru dygymod â defnyddio dryll trwm .38
Smith Wesson heb i rywun ei hyfforddi? O ble cafodd hi'r gwn?
Credir erbyn hyn mai Desmond Cussens fu'n gyfrifol am ei roi iddi
a'i dysgu i'w saethu, ond gwadu hynny a wnaeth ef.
Crogwyd Ruth Ellis gan Albert Pierrepoint ar 13 Gorffennaf 1955.
Dengys yr adroddiad post-mortem iddi farw o ddatgymaliad yr
asgwrn cefn, a arweiniodd at fwlch o ddwy fodfedd yn yr asgwrn
hwnnw. Cafwyd olion brandi yn ei stumog.
Ar fore ei chrogi cyhoeddwyd erthygl gan Cassandra yn y Daily
Mirror a ddaeth yn gyffes ffydd i wrthwynebwyr y gosb eithaf ar
draws y byd.
'Mae hi'n ddiwrnod da i gywain gwair,' meddai. 'Mae
hi'n ddiwrnod da i bysgota. Diwrnod da i orweddian yn yr haul. Ac i'r
rheiny ohonoch sy'n teimlo felly - a thristâf wrth ddweud fod miliynau
ohonoch yn teimlo felly - mae hi'n ddiwrnod da i grogi rhywun.'
Newid hanes
Ruth Ellis oedd y bymthegfed fenyw - a'r olaf - i gael ei chrogi ym
Mhrydain yn ystod yr ugeinfed ganrif.
Yn achlysurol ceisiwyd clirio'i
henw a chaniatáu iddi bardwn ar ôl marwolaeth, gan iddi ladd David
Blakely yn wyneb cythrudd ac o ganlyniad i'r trais a achosodd hwnnw
iddi.
Ond bu pob ymgais yn ofer.
O dan ddeddfau'r cyfnod roedd hi'n
euog.
Bu'r ferch o'r Rhyl yn anffodus yn ei dewis o ddynion erioed, yn
arbennig yn ei dewis o David Blakely.
Fel y dywedodd un o'i
chofianwyr, 'Bu farw o gariad tuag at ddyn na haeddai'r cariad hwnnw.'
an Lyn Ebenezer