| Enillwyr Cystadleuaeth Talent FFM yw Joshua Bowen a Tom Lees. Perfformiodd y ddau sgets jysglo trawiadol yn y gystadleuaeth a gynhaliwyd yn Clwyd Theatr Cymru ar nos Fawrth 27 Tachwedd gan ennill gwobr o £150. Mae cynllun newydd sbon Talent FFM, sy'n bartneriaeth ar y cyd rhwng Urdd Gobaith Cymru, Menter Iaith Sir y Fflint, Menter Maelor a Momentwm, wedi cael ymateb gwych. Mae'n gyfle gwych i ieuenctid rhwng 12 a 25 oed ddangos eu talentau a pherfformio ar lwyfan. Bu rhai yn canu, actio, adrodd, jyglo ac eraill yn perfformio mewn grŵp. Y nod oedd gwneud argraff ar y beirniaid ac ennill y wobr o gant a hanner o bunnoedd. Y beirniad oedd Hywel Wyn Edwards o'r Eisteddfod Genedlaethol, Nia Efans o Aelwyd yr Ynys yn ogystal â Nia Lynn o Momentwm. ''Mae hwn yn gyfle gwych i rai o ieuenctid talentog y sir berfformio eu gwaith o flaen cynulleidfa niferus yn ogystal â beirniaid profiadol," meddai Darren Morris, Swyddog Datblygu Urdd Gobaith Cymru Fflint Maelor. "Dyma'r tro cyntaf i gystadleuaeth o'i math gael ei chynnal yn yr ardal ac fe hoffwn ni longyfarch Tom a Joshua ar ennill y gystadleuaeth."
 |