BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Robert EverettYr arwr angof o Sir y Fflint
Pregethwr o Sir y Fflint oedd y dyn wnaeth fwy na neb i berswadio'i gyd-Gymry yn America o'r angen i ddiddymu caethwasiaeth, yn ôl cyfres S4C, America Gaeth a'r Cymry.

Roedd Robert Everett, a anwyd yng Nghymru yn 1791, yn un o sylfaenwyr y New York State Anti-Slavery Society, ac am flynyddoedd bu'n defnyddio'r wasg Gymraeg yn America i ddadlau'n frwd dros achos y caethweision.

Cafodd Robert ei urddo'n weinidog gyda'r Annibynwyr yn Ninbych yn 1823, cyn ymfudo i America yn yr un flwyddyn i ofalu am eglwys Gymraeg yn nhalaith Efrog Newydd.

Ar ei daith i'w gartref newydd yn Utica cafodd ei syfrdanu gan realiti sefyllfa pobl ddu America.

Erbyn yr 1830au, roedd Robert yn defnyddio'r pulpud fel llwyfan i bregethu yn erbyn caethwasiaeth - neges nad oedd yn boblogaidd iawn i ddechrau gyda bob un o'i gyd-gapelwyr.

Wnaeth rhai o'i aelodau adael ei gapel, ond daliodd ati gan sefydlu dau gylchgrawn Cymraeg oedd yn llafar o blaid y caethweision, sef y Cenhadwr Americanaidd a'r Dyngarwr.

Yn 1839 dechreuodd yr achos llys nodedig yn dilyn gwrthryfel y caethweision ar long yr Amistad, a bu Robert yn casglu arian ar eu cyfer ar ôl iddynt gael eu rhyddhau.

Mae'n bosib ei fod yn helpu caethweision ddianc o'r De i Ganada. Yn sicr, mi wnaeth o drefnu cyfarfod yn ei gapel er mwyn i'w gynulleidfa o Gymry glywed yn uniongyrchol gan ddyn a oedd newydd ddianc o gaethiwed yn y de.

Cafodd ei fygwth nifer o weithiau o ganlyniad i'w ymgyrchu, ac ar un achlysur cafodd ei geffyl ei anffurfio y tu allan i gyfarfod lle'r oedd yn pregethu.

Ond mae'n ymddangos i'w waith ddwyn ffrwyth, ac erbyn yr 1850au roedd cyhoeddiadau Everett yn denu sylw ffigurau blaenllaw yn yr ymgyrch yn erbyn caethwasiaeth, fel Frederick Douglass a Harriet Beecher Stowe, awdures Uncle Tom's Cabin.

Ond bu'n rhaid i America ddioddef rhyfel cartref gwaedlyd cyn gweld pob caethwas yn ennill ei ryddid yn 1865.

Dros gyfnod o 40 mlynedd, felly, bu Robert Everett yn ymgyrchu er mwyn cael gwared ar gaethwasanaeth, ac mae'n ffigwr ganolog i'r hanes hwn, yn ôl cynhyrchydd a chyfarwyddwr America Gaeth a'r Cymry, Ifor ap Glyn.

Eglura Ifor, "Mae Robert Everett yn un o arwyr angof Cymru ac wy'n gobeithio aiff y gyfres hon beth ffordd tuag at ein hatgoffa ni o'i bwysigrwydd yn yr ymdrech i ddiddymu caethwasiaeth."


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy