Tri theulu o Dreffynnon oedd yn gyfrifol am ffurfio'r clwb. Roedd teuluoedd Attwood Howitt a Long wedi bod ar daith gerdded ar Foel Mamau yn ystod Pasg 1956. Wrth iddynt ddychwelyd ar y bws yn ôl adref, bu'r teuluoedd yn trafod sefydlu Clwb Cerdded yn y dref. Trefnwyd cyfarfod cyhoeddus gan Fred Long, oedd yn Brif Swyddog Cyllidol Cyngor Dosbarth a Thref Treffynnon. O ganlyniad i'r cyfarfod sefydlwyd y clwb ac fe gytunwyd ar raglen o ddigwyddiadau. O'r aelodau gwreiddiol y mae pedwar yn parhau yn weithgar gyda'r clwb. Mae Jean Llinares, merch Fred Long ac sydd yn briod â Vicente Llinares yn aelodau gwreiddiol yn ogystal â'r brodyr Gwilym a Cyril Morgan. "Pan drefnodd fy nhad y cyfarfod cyntaf nid oedd ganddo syniad y byddai'n llwyddo," meddai Jean Llinares. "Byddai'n hynod falch o'r hyn mae'r clwb wedi cyflawni a'i fod yn parhau yn llwyddiannus 50 mlynedd yn ddiweddarach." Dros y blynyddoedd mae'r clwb wedi croesawu myfyrwyr fel aelodau dros-dro o Brydain a thu hwnt. Ymysg yr aelodau hynny fe ddaeth cyn fyfyriwr o NEWI, Denis Arnould, yr holl ford o Wlad Belg ar gyfer y dathliadau. Mewn neges fe ddywedodd: "Roedd fy mlynyddoedd gyda Clwb Cerdded Treffynnon ymysg y gorau o fy mywyd." Cynhelir dwy daith gerdded yr wythnos yn ystod yr haf a chwe thaith y mis yn ystod y gaeaf. Trefnir gwyliau a phenwythnosau cyson yn y Deyrnas Unedig ac ar y cyfandir. Mae'r clwb yn croesawu pobl ifanc a theuluoedd i ymuno gyda hwy.
 |