Bu dros 4,000 yn ymweld â'r ŵyl y llynedd ac mae'r trefnwyr yn gobeithio denu mwy o stondinau a gwesteion arbennig eleni. Bydd dau o gogyddion y byd teledu, Leslie Walters a James Martin, yn arddangos eu doniau coginio yn yr ŵyl. Mae nifer o gynhyrchwyr lleol eisoes wedi cadarnhau eu presenoldeb yn yr ŵyl, fydd yn cael ei chynnal unwaith eto ym maes parcio Stryd Newydd yng nghanol y dref. "Cafwyd ymateb positif gan ymwelwyr a busnesau yn yr Wyddgrug yn dilyn yr ŵyl gyntaf," meddai Greg Shanks, perchennog Gwesty Bryn Awel a Chadeirydd Cymdeithas Gwestai a Thai Bwyta'r Wyddgrug, trefnwyr yr ŵyl. "Eleni mae rhagor wedi dangos diddordeb mewn cymryd rhan a gobeithio bydd presenoldeb cogyddion enwog yn denu rhagor o ymwelwyr i'r dref." Ceir rhagor o wybodaeth am ŵyl 2007 ar y wefan: www.moldfoodfestival.co.ukneu drwy ffonio 01352 758622 (estyniad 200).
 |