BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

BBC VOCAB: OFF / I FFWRDD

Turn on / Troi ymlaen

Language Help / Cymorth Iaith


BBC Homepage
Hafan Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Straeon

'Colled colli Lerpwl'

9 Awst 2007

D Ben Rees

'Arweinwyr heb weld y posibiliadau'

Er cymaint y mae'n llawenhau yn llwyddiant Eisteddfod Yr Wyddgrug y mae un ymwelydd â'r Ŵyl yn dal i feddwl i'r Eisteddfod golli cyfle o beidio â mynd i Lerpwl eleni!

Er iddo gael ei siomi pan wrthodwyd gwahoddiad Lerpwl i gynnal Eisteddfod 2007 dywedodd y Parchedig D Ben Rees na fu iddo ddal dig ond ei fod yn gresynu na welodd awdurdodau'r Eisteddfod "bosibiliadau" ei chynnal yno ar drothwy dathliadau Dinas Diwylliant y flwyddyn nesaf.

Agor drysau

"Rydw i'n bendant y byddai'r ymweliad â Lerpwl wedi agor drysau ac wedi bod yn fodd i dynnu sylw eangach at yr Eisteddfod," meddai Mr Rees a fu'n weinidog yn y ddinas am 39 o flynyddoedd.

"Yr ydw i'n cofio newyddiadurwyr blaenllaw fel Hannan Swaffer yn ymweld â'r Eisteddfod a hithau'n cael sylw yn y prif bapurau - ond dyw'r papurau hynny ddim wedi sôn amdani ers blynyddoedd bellach," meddai.

Ychwanegodd y byddai ymweld â Lerpwl nid yn unig wedi tynnu sylw newydd at yr Eisteddfod ond hefyd ddenu cynulleidfa ac ymwybyddiaeth newydd iddi hi.

'Heb weld y posibiliadau'

"Rydw i'n teimlo fod yr Eisteddfod wedi colli cael bod yn rhan o'r flwyddyn diwylliant yn Lerpwl oherwydd nad oedd arweinwyr yr Eisteddfod wedi gweld y posibiliadau ac edrych yn iawn beth ellid ei wneud. Byddai drysau lawer wedi agor," meddai.

Ychwanegodd y byddai wedi bod yn gyfle hefyd i dynnu y cannoedd o Gymry sydd yn Lerpwl at ei gilydd gan gynnwys y rhai hynny nad ydynt yn mynychu sefydliadau Cymreig traddodiadol fel y capeli.

Dathliadau Cymreig

Ond er na chafodd Lerpwl ei Heisteddfod Genedlaethol dywedodd y bydd nifer o weithgareddau Cymreig yn cael eu cynnal yno yn ystod 2008 fel rhan o'r flwyddyn diwylliant gan gynnwys Gŵyl y Glaniad i nodi mai oddi yno yr hwyliodd y Mimosa i Batagonia dros 140 o flynyddoedd yn ôl.

"Dydw i ddim yn meddwl bod y Cymry yn gwerthfawrogi yn iawn gymaint o gyfraniad a wnaeth y Cymry i Lerpwl - a beth yw cyfraniad Lerpwl i Gymru," meddai.



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy