Cwmni newydd sbon o Lanfairpwll ar Ynys Môn sy'n gyfrifol am y cynllun o ddysgu sgiliau cyfrifiadurol trwy gyfrwng y Gymraeg, ar ffurf fideo rhyngweithiol. Mae Monitor Cymru yn rhan o Gymdeithas Meddalwedd Cymraeg, ac mae'r cyfarwyddwr, Eleri Wyn Jones, yn obeithiol iawn am y cynllun. "Fe wnes i waith ymchwil a darganfod nad oedd dim byd ar gael ar ffurf fideo rhyngweithiol i ddysgu gam wrth gam sut mae defnyddio rhaglenni fel Word, Powerpoint ac Excel trwy gyfrwng y Gymraeg." Sefydlodd Monitor Cymru i lenwi'r bwlch a dysgu sgiliau cyfrifiadurol mewn ffordd syml a hawdd trwy gyfrwng CD-Rom. Mae'n addas ar gyfer pobl o bob oed. Cam wrth gam
"Dwi'n gobeithio y bydd ystod eang o bobl yn elwa ohono - pobl sydd am ddechrau busnes, dechrau gweithio neu sydd eisiau gwella eu sgiliau cyfrifiadurol yn gyffredinol. Mae gan lawer o bobl ofn dechrau defnyddio cyfrifiaduron ond mae'r gwersi yma yn hwylus a syml ac yn esbonio popeth yn glir gam wrth gam," meddai. "Mae'n cynnig dull arloesol o addysgu drwy gyfrwng fideo rhyngweithiol, ynghyd â thasgau a chwis, sydd wedi eu seilio ar gynnwys y cyrsiau." Ar ddiwedd y cwrs mae tasgau a chwis hwylus i'w cwblhau sy'n cyflwyno ffordd arall o gofio cynnwys y fideo. Dywedodd iddi gael ymateb gwych hyd yn hyn gyda nifer o unigolion a sefydliadau wedi dangos diddordeb mawr yn y cynllun. Yn yr Eisteddfod mae'r deunydd yn cael ei arddangos a'i werthu ym mhabell Prifysgol Bangor neu gellir ymweld a gwefan monitorcymru.com
 |