Robat Powel luniodd linellau cyntaf limrig ddydd Llun gyda Mei Mac yn beirniadu'r llinell gloi gan ddarllenwyr. Y limrig i'w gwblhau oedd: Mae Selwyn yn flin a digalon
Am brinder y beirdd a'r llenorion
"Os na ddewch i'r Orsedd
A chydnabod anrhydedd
Sydney Davies o Lyn Ceiriog oedd yn fuddugol gyda'r llinell hon; Eisteddfod ni fydd ond atgofion. Dyma rai o'r llinellau eraill ddaeth i'r brig. Dwy linell gan wraig di-enw o Geredigion: Bydd rhaid eich diarddel yn union. Bydd llawer llais yn anfodlon.Cynnig gan Medwyn ap Robert o Flaenau Ffestiniog: Fe gollwch barch y selogion.Dyma gynnig Rosemary Jones o Idole: Graf am y Sgarlets gael y goron.Gan Nia Owen o Langristiolus: Bydd eich awdlau a'ch traed chi mewn cyffion.Cynnig Alcwyn Evans o'r Barri: I'r pridd gaiff y prif fynd, gyfeillion.
Cofiwch am gystadleuaeth yfory: Cliciwch
 |