Disgrifwyd y nofel a enillodd Wobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2011 fel un ddeallus a llawn hiwmor.
Canmolwyd yr awdur, Daniel Davies, newyddiadurwr o Benbontrhydybeddau, am ei ddawn i saernio stori, adeiladu tensiwn, llunio dialog a chymeriadau byw.
Ond ychwanegodd Emyr Llywelyn, yn traddodi'r feirniadaeth o lwyfan yr Eisteddfod ar ran ei gyd feirniaid,Jon gower ac elin Llwyd Morgan, mai rhinwedd fawr y nofel fuddugol, Tair Rheol ac anhrefn yw "ei bod yn darllen yn rhwydd ac yn gafael ynoch."
"Rhinwedd fawr arall y nofel yw ei hiwmor," ychwanegodd.
Mewn cystadleuaeth wan o ran niferoedd dywedodd bod y nofel hon yn sefyll ar ei phen ei hun o'r chwech anfonwyd i'r gystadleuaeth/
I ddarllen mwy cliciwch YMA
Blogiau BBC Cymru
Blog Cylchgrawn:

Nia Lloyd Jones - dydd Sadwrn Awst 11
Doeddwn i ddim yn gweithio gefn llwyfan tan hanner dydd a'r gystadleuaeth gyntaf ar ...


