Gwyliwch glipiau o archif BBC Cymru o Eisteddfod Glynebwy 1958 a Chwm Rhymni 1990 ac eitemau difyr a chyweliadau o raglenni uchafbwyntiau'r Eisteddfod 2010.
Paratoadau Glyn Ebwy 1958
Ffilm fud yn dangos golygfeydd o Lynebwy wrth i'r dref baratoi at Eisteddfod 1958.
Cadeirio Cwm Rhymni 1990
Myrddin ap Dafydd yn ennill cadair Eisteddfod Cwm Rhymni 1990 am ei awdl Gwythiennau.
Coroni Iwan Llwyd, 1990
Coroni'r diweddar Iwan Llwyd yn Eisteddfod Cwm Rhymni 1990 am ei 'gampwaith'.
Araith Sam Jones, Glynebwy 1958
Darn o araith Sam Jones yn Eisteddfod 1958 yn galw am uno de a gogledd ac i Gymru fod yn un genedl.
Cadeirio T Llew Jones 1958
Seremoni gadeirio Eisteddfod Glynebwy 1958 a T Llew Jones yn ennill y gadair am ei awdl, Caerllion-ar-Wysg.
Only Boys Aloud
Only Boys Aloud ac Only Men Aloud yn perfformio gyda'i gilydd yng Nghyngerdd Agoriadol Eisteddfod Genedlaethol Glyn Ebwy 2010.
Tocyn Wythnos - Dydd Sadwrn 1
Uchafbwyntiau'r dydd o'r Eisteddfod Genedlaethol gyda Beti George a'i gwesteion.
Pabell Lên
Pigion o ddiwrnod cyntaf y Babell Lên yn Eisteddfod Genedlaethol Glynebwy, yn cynnwys cip ar rownd derfynol Y Talwrn.
Y Lle Celf
Rhun ap Iorwerth yn ein tywys o amgylch yr arddangosfa gelf, sydd wedi ei leoli mewn islawr i'r hen safle gwaith dur.














