Diwrnod Bra-f yn y Steddfod

05 Awst 2009

Yma i helpu - gyda'r bras

Dydd Merch-er - ac mae pawb yn chwilio am frâ

Yr oedd eu cwpan yn llawn - wedi i Ferched y Wawr droi pafiliwn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Bra-filiwn fore Mercher.

Amgylchynodd y Merched ac aelodau o OXFAM y pafiliwn gyda chadwyn o 700 o frâs i hyrwyddo eu hymgyrch i ailgylchu'r dilledyn a'u hanfon i wledydd tlawd y byd.

Casglodd Merched y Wawr 13,000 o frâs i gyd mewn ymgyrch a gafodd sylw mawr ddechrau'r flwyddyn ond yr oedd y saith gant o frâs o bob lliw, maint a llun yn fwy na digon i fynd o amgylch pafiliwn pinc y Genedlaethol.

Ac yr oedd yr amgylchiad bra-wychus yn gyfle nid yn unig i ailgylchu'r hen ddilledyn ond yn gyfle i'r dynion ymhlith yr eisteddfodwyr oedd yn gwylio; ailgylchu hen jôcs bras a bra-idd yn feiddgar.

"Sa well 'da fi weld beth oedd ynddyn nhw?" meddai un Cardi gan anelu ei gamera at y gadwyn o ferched a chwerthin gymaint y byddai wedi byrstio ei frâ pe byddai'n gwisgo un.

Ac os clywyd un yn dweud ei bod yn "ddiwrnod bra-f yn yr Eisteddfod fe glywyd ugain.

Ac wrth i Dafydd Islwyn, ysgrifennydd Barddas, ruthro heibio'r gadwyn ar rhyw orchwyl fardd-onol - yn hytrach na bra-ddonol - bwysig clywyd rhywun yn gweiddi ar ei ôl; "Waeth iti heb na rhedeg ar ôl y brâs na does na ddim byd ynddyn nhw!"

Bra-vo.

Chwifiwn ein braneri

Ond yr oedd Merched y Wawr ac OXFAM yn gwbl ddifrifol ynglŷn a'r ymgyrch a gychwynnwyd fis Medi diwethaf.

"Mae gan y rhan fwyaf ohonom ni ferched frâ neu ddau yng nghefn y cwpwrdd ac mae hwn wedi bod yn gyfle unigryw i ddangos ein chwaeroliaeth drwy roi bywyd hirach i frâs," meddai Tegwen Morris, Cyfarwyddwr Merched y Wawr.

Bydd y dillad a dynnodd wên i gymaint o wynebau ar faes Eisteddfod Y Bala yn cael eu hanfon yn awr i warws Watersaver OXFAM i'w hanfon i farchnadoedd dillad ail law yn Affrica, Dwyrain Ewrop ac Asia.

A phwy a ŵyr na ddaw hi yn fath o fashion statement yno i ferched frolio; "Mae'r brâ dwi'n wisgo wedi bod rownd Pafiliwn Steddfod Genedlaethol Cymru."

Arwydd arall o gariad bra-wdol y Cymry.


BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.