Pêr leisiau newydd yr Orsedd

04 Awst 2009

Chwe aelod Perlais a'u harweinydd

Chwe aelod o'r un parti gyda'i gilydd

Hyd yn oed cyn cystadlu ddydd Gwener mae gan barti cerdd dant Perlais ddigon i'w ddathlu yn Eisteddfod Genedlaethol Y Bala.

Ddydd Llun derbyniwyd chwe aelod o'r côr yn aelodau newydd o'r Orsedd i gyd gyda'i gilydd - yn cael eu derbyn ar sail eu graddau Prifysgol.

Yn dathlu yn y llun gyda Beti Puw Richards eu harweinydd mae; Angharad Ellis, Ffion Bryn, Lona Meleri, Catrin Gwynfor, Nia Hughes ac Awel Bryn, chwaer Ffion.

Dywedodd Beti bod ugain o aelodau yn y côr a sefydlwyd ddwy flynedd yn ôl yn ardal y Bala. Mae rhai o'r aelodau eraill yn yr Orsedd yn barod.

Byddant yn cystadlu ddydd Gwener ar y gystadleuaeth i bartïon heb fod dros ugain mewn nifer - cystadleuaeth y daethent yn drydydd ynddi yn Yr Wyddgrug ddwy flynedd yn ôl.


BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.