DyNA wych - torri record byd

28 Gorffennaf 2009

Dathlu cwblhau'r model

Plant a phobl ifanc yn mynd i'r afael â'r her o greu'r model DNA mwyaf yn y byd!

Mae criw o Gymry ar faes yr Eisteddfod gam yn nes at gael eu cydnabod yn llyfr gorchestion Guinness am greu y model hiraf yn y byd o DNA!

Daeth y fenter i ben y tu allan i'r Pafiliwn Gwyddoniaeth tua chwarter wedi un brynhawn heddiw.

Yno, a hithau'n smwcian bwrw cyhoeddwyd bod y model gorffenedig o DNA gwynwy wy yn ymestyn 23 metr 84 centimetr dros 15 o fyrddau.

Creu'r model

Ac ymunwyd a'r hanner cant o blant ysgol yn y dathlu cwblhau'r model o gôd genetig ar gyfer Albwmin Iâr yr oedd Prydwen Elfed-Owens, cadeirydd Cyngor yr Eisteddfod a agordd botel o siampên.

Crewyd y model gyda 1,158 pâr o fasau wedi'u gosod yn ofalus mewn trefn dan oruchwyliaeth y Dr Alun Tomos Jones o Ysgol fferylliaeth Caerdydd, Robyn Wheldon-Williams - ymgynghorydd Gwyddoniaeth yr Eisteddfod - o Brifysgol Bangor a'r Athro John Williams o Brifysgol Caer.

Eglurwyd bod pedwar bas mewn DNA sydd, yn eu trefn sy'n rhoi y côd genetig.

Dywedodd y Dr Robyn Wheldon-Williams, iddynt fod yn trefnu ers misoedd i dorri'r record.

"Mae'n anodd sicrhau bod y basau i gyd yn y drefn gywir," meddai.

Eglurodd mai'r bwriad oedd ennyn diddordeb plant a phobl ifanc mewn gwyddoniaeth a chafwyd rhodd gan aelod o'r is bwyllgor Gwyddoniaeth a Phrifysgol Bangor tuag at y fenter.

"Mae'r gefnogaeth yn golygu y bydd pob ysgol uwchradd yn yr ardal yn elwa o'r prosiect," meddai gan y bydd y model yn cael ei dynnu'n ddarnau ar y diwedd a'i ddosbarthu i ysgolion uwchradd bro'r Eisteddfod.

Mae'r Pafiliwn Gwyddoniaeth a Thechnoleg unwaith eto yn un o atyniadau pwysicaf maes yr Eisteddfod yn llawn prysurdeb o gwmpas sawl arddangosfa ddiddorol.

Diwrnod da o waith

"Mae'n gyfle i'n hymwelwyr gymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol, sy'n wahanol iawn i'r syniad traddodiadol o'r hyn a geir yn yr Eisteddfod," meddai Prif Weithredwr yr Ŵyl, Elfed Roberts.

"Pwy fyddai'n meddwl bod cyfle i dorri record byd ar faes yr Eisteddfod, a phwy fyddai'n credu bod cyfle i wylio sioe o arbrofion cemegol a chymryd rhan mewn llond lle o arbrofion, wrth glywed corau cerdd dant yn cystadlu yn y cefndir? Mae hyn yn rhan o apêl yr Eisteddfod," meddai.

Ymunodd disgyblion o nifer o ysgolion â'r ymdrech i greu y model a bydd eu camp yn awr yn cael ei chynnig i lyfr gorchestion Guinness.


BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.