Croeso Pwyles i'r maes

06 Awst 2009

Katarzyna Zawadzka

Merch o Wlad Pwyl yn helpu paratoi'r maes

Am y tro cyntaf yn hanes yr Eisteddfod mae'r gair Pwyleg am groeso - Witamy - wedi ei ychwanegu at fwrdd ger y brif fynedfa sy'n croesawu pobl i'r Brifwyl mewn sawl iaith gan gynnwys y Saesneg, Ffrangeg, Gwyddeleg, Almaeneg, Sbaeneg a'r Llydaweg.

Mae'r diolch am hynny i Katarzyna Zawadzka o Wlad Pwyl sy'n un o'r tîm a fu'n paratoi'r maes.

Mae Katarzyna, a raddiodd mewn Arolygu Tir yn gweithio ar raglen ddeng wythnos i'r Eisteddfod yn y Bala, eisoes fel tirfesurydd wrth gynllunio ac adeiladu'r maes a'r wythnos hon fel cymhorthydd.

"Gwelais hysbyseb am swydd ar wefan GO Wales a chefais wahoddiad i weithio i'r Eisteddfod. Doeddwn erioed wedi clywed am yr Eisteddfod o'r blaen felly doeddwn ddim yn siŵr iawn beth i'w ddisgwyl. Rwyf wedi fy synnu ar faint yr ŵyl a pha mor gryf yw'r diwylliant Cymreig," meddai.

Gan fod Katarzyna wedi bod yn rhan annatod o'r Ŵyl eleni, awgrymwyd ei bod yn cynnwys y gair Pwyleg am 'croeso' ger y Brif Fynedfa.

Katarzyna Zawadzka
Meddai Gwenllïan Carr, Pennaeth Cyfathrebu yr Eisteddfod:

"Roedd o'n gyfle i ddweud diolch wrth Katarzyna a hefyd yn ffordd dda o ddangos yr ieithoedd eraill sydd o'n cwmpas ac yn cael eu siarad gan bobl yn yr Eisteddfod."

Daeth y ferch o Wroclaw yng Ngorllewin Gwlad Pwyl i fyw yng Nghymru ddwy flynedd yn ôl a bellach mae wedi ymgartrefu yn Wrecsam.

Daeth yma ar wyliau at berthynas yn y lle cyntaf a phenderfynu aros!

A hithau'n gallu siarad mwy nag un iaith ei hun mae'n gwerthfawrogi pwysigrwydd parchu diwylliant arall a bu'n dysgu geiriau Cymraeg - a pha le gwell i wneud hynny na'r Eisteddfod?

"Rwyf yn gallu dweud ambell air yn y Gymraeg rŵan, pethau sylfaenol fel 'bore da', 'diolch yn fawr' a 'chroeso'," meddai.


BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.