Mae Les Choix yn adnodd dysgu Ffrangeg trwy gyfrwng y Gymraeg gyda gemau a gweithgareddau rhyngweithiol ar gyfer plant 11-14 oed, cyfnod allweddol 3. Gwyliwch y ddrama'n datblygu yng nghwmni Alex, Jamila a'u ffrindiau - a chodi ychydig o Ffrangeg yr un pryd. Mae yna 12 pennod fer i ddenu'r dysgwr, i gyd yn archwilio'r thema o hunaniaeth ac yn delio â nifer o faterion yn ymwneud â'r arddegau megis cyfeillgarwch, cariad, trosedd a hiliaeth. Cafodd y penodau eu recordio ym Marseilles a'u hysgrifennu'n defnyddio iaith wedi ei symleiddio. Learn French through the medium of Welsh with interactive drama, games, animations and activities aimed at young people aged 11-14, key stage 3.

Pennod 2: Tu t'es fait pincer

Cliciwch isod i fynd yn syth at weithgaredd unigol

Tu t'es fait pincer: Bande Dessinée

Mae Alex a Ben yn ei heglu hi, ond mae'r heddlu ar eu sodlau. Maen nhw mewn trafferth mawr...

Tu t'es fait pincer: Vidéo 2

Mae Alex mewn trafferth gyda'r heddlu ac mae e'n cael ei holi yn y ddalfa. Ond pwy mewn gwirionedd wnaeth ddwyn y car?

Tu t'es fait pincer: Jeux Vidéo

Dyma gasgliad o gemau fideo i brofi eich sgiliau.

Tu t'es fait pincer: Carte d'identité

Mae rhaid i bawb gario cerdyn adnabod yn Ffrainc. Beth mae cerdyn Alex yn ddweud amdano?

Tu t'es fait pincer: Qui est Qui?

Pa mor dda ydych chi am adnabod pobl? Profwch eich sgiliau cofio ac adnabod yn y gêm hwyliog yma.

Tu t'es fait pincer: Le Studio

Lluniwch eich stribed-comic eich hun! Ail-luniwch y stori rydych chi newydd ei gwylio, neu lluniwch stori newydd sbon.

Tu t'es fait pincer: La Chaîne des Mots

Llywiwch eich beic o gwmpas a chasglwch bopeth yn y drefn gywir er mwyn perfformio campau anhygoel!




Copyright © 2015 BBC.Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.