Mae Les Choix yn adnodd dysgu Ffrangeg trwy gyfrwng y Gymraeg gyda gemau a gweithgareddau rhyngweithiol ar gyfer plant 11-14 oed, cyfnod allweddol 3. Gwyliwch y ddrama'n datblygu yng nghwmni Alex, Jamila a'u ffrindiau - a chodi ychydig o Ffrangeg yr un pryd. Mae yna 12 pennod fer i ddenu'r dysgwr, i gyd yn archwilio'r thema o hunaniaeth ac yn delio â nifer o faterion yn ymwneud â'r arddegau megis cyfeillgarwch, cariad, trosedd a hiliaeth. Cafodd y penodau eu recordio ym Marseilles a'u hysgrifennu'n defnyddio iaith wedi ei symleiddio. Learn French through the medium of Welsh with interactive drama, games, animations and activities aimed at young people aged 11-14, key stage 3.

Pennod 11: C'est ton choix

Cliciwch isod i fynd yn syth at weithgaredd unigol

C'est ton choix: Bande Dessinée

Mae tadcu'n dod i wybod beth ddigwyddodd a phwy sy ar fai. Mae rhywun mewn tipyn o drafferth...

C'est ton choix: Vidéo 11

Mae Alex yn ddieuog ond fydd e byth yn gallu maddau i'w gefnder, Ben?

C'est ton choix: Jeux Vidéo

Dyma gasgliad o gemau fideo i brofi eich sgiliau.

C'est ton choix: Télévision Interactif

Ewch trwy'r manylion rhyngweithiol yma i weld beth sy ar y teledu a phryd.

C'est ton choix: Le Studio

Lluniwch eich stribed-comic eich hun! Ail-luniwch y stori rydych chi newydd ei gwylio, neu lluniwch stori newydd sbon.

C'est ton choix: La Chaîne des Mots

Llywiwch eich beic campau o gwmpas a chasglu popeth yn y drefn gywir.




Copyright © 2015 BBC.Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.