Ysbrydoli dysgwyr

Siarad

Sgil yw siarad, ac fel pob sgil arall dim ond trwy ei ddefnyddio y gellir ei ddatblygu a'i wella. Rhaid sicrhau mai'r dysgwr fydd yn siarad fwyaf yn y dosbarth ac nid y tiwtor.

Gweithred gymdeithasol yw cyfathrebu a rhaid meithrin perthynas dda rhwng aelodau'r dosbarth â'i gilydd gan sicrhau nad ydynt yn treulio eu hamser yng nghwmni'r un person drwy'r amser. Polisi da yw eu cael i eistedd nesaf at rywun gwahanol ym mhob sesiwn, os yn bosib, yn ogystal â newid partneriaid yn ystod y sesiwn.

Tu allan i'r dosbarth

Does dim modd i unrhyw diwtor gwmpasu holl amrywiaeth yr iaith Gymraeg ac felly dylid cymell dysgwyr i siarad â phobl y tu allan i'r dosbarth, gwrando ar y radio, gwylio'r teledu a hefyd trefnu bod Cymry Cymraeg yn ymweld â'r dosbarth yn gyson. Dylid dechrau gwneud hyn yn gynnar iawn yn y cwrs yn hytrach nag oedi.

Pobl sydd wedi llwyddo

Da o beth yw gwahodd i'r dosbarth bobl sydd wedi llwyddo i ddysgu Cymraeg eu hunain. Mae cwrdd â rhai felly yn gyfrwng cryfhau cymhelliant dysgwyr ac yn ysbrydoliaeth iddynt ddal ati.

Amrywiaeth

Cofiwch nad yw pobl yn gallu canolbwyntio'n hir iawn - ryw ugain munud ar y gorau! Mae amrywiaeth yn y dulliau dysgu a'r gweithgareddau felly yn hanfodol i gynnal diddordeb - drilio, darllen, canu, gemau iaith, sgwrsio, esbonio pwynt ieithyddol, gwrando, gwylio - maen nhw i gyd â'u lle mewn sesiwn ddysgu. Yn ogystal, dylid ceisio newid trefn y wers o wythnos i wythnos rhag mynd i rigol undonog.

Byddwch yn ofalus eich bod yn trin pawb yn gyfartal heb roi sylw i un ar draul y llall a sicrhewch eich bod yn gweithredu o fewn cwmpas ieithyddol pob unigolyn yn y grŵp ac yn eu hymestyn yn ôl lefel eu hiaith a'u gallu.

Termau gramadegol

Oherwydd natur yr addysg a gawsant, cofiwch nad yw llawer o bobl yn gyfarwydd â thermau gramadegol a rhaid wrth esboniadau 'diramadeg' ar brydiau wedi eu cefnogi â digon o enghreifftiau.

Camgymeriadau

Rhaid i bob dysgwr ddeall bod gwneud camgymeriadau yn rhan annatod o broses dysgu. Pwyswch ar ddysgwyr felly i fentro arni gan esbonio nad yw iaith wallus bob amser yn rhwystr i gyfathrebu. Wrth siarad mae gwella iaith ac mae meithrin hyder y dysgwr yn sylfaenol bwysig. Dylai unrhyw gywiro sy'n angenrheidiol ddigwydd yn sgil y gwaith llafar ac mae'n bwysig peidio â thorri ar draws llif y cyfathrebu er mwyn cywiro.

Cael hwyl

Mae mwynhau a chael hwyl mewn dosbarth hefyd yn bwysig. Wrth feithrin perthynas dda rhwng yr aelodau â'i gilydd, maen nhw eu hunain yn dod yn rhan annatod o'r broses addysgu ac am fod gan bob unigolyn ddoniau a gwybodaeth arbennig, mae rhannu'r adnoddau hynny'n rhywbeth i'w groesawu.

Canmoliaeth

Bydd unigolion yn cael cyfnodau pan deimlant nad ydynt yn gwneud unrhyw gynnydd. Rhaid eu cynnal ar adegau felly a gall eu cyd-aelodau fod o help mawr yn hynny o beth. Mae gair o ganmoliaeth yn llawer mwy effeithiol na cherydd bob amser ac mae meithrin awyrgylch cynhaliol a chefnogol yn ganolog i waith y tiwtor.

Sbort

Dylai nod pob sesiwn fod yn glir i'r athro a'r dysgwr a'r dulliau o gyrraedd y nod yn amrywiol, yn ddiddorol ac yn sbort yn hytrach na baich.


Gwefannau Dysgu Cymraeg

Cerys Matthews yn darllen

Big Welsh Challenge

Cwrs Cymraeg rhyngweithiol arlein mewn fformat opera sebon sy'n addas ar gyfer dechreuwyr.

Cymeriad menyw gyda gwallt melyn

Catchphrase

Ystod eang o adnoddau ar gyfer pob lefel o ddysgu Cymraeg.

Colin & Cumberland

Colin & Cumberland

Delfrydol ar gyfer dechreuwyr pur yr iaith Gymraeg.

Logo Ieithgi

Ieithgi

Rhugl yn y Gymraeg? Rho gynnig ar her gloywi iaith Ieithgi!

Logo Radio Cymru

Pigion Radio Cymru

Podlediad o uchafbwyntiau wythnosol ar gyfer dysgwyr Cymraeg.

RAW Cymru

Llwyth o gemau geiriau i wella dy sgiliau darllen ac ysgrifennu.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.