Gwneud y Gorau o Ddeunyddiau Sain

Defnyddio'r darnau yn y dosbarth

Er bod yr eitemau sain a geir ar y wefan hon wedi eu dethol ar gyfer myfyrwyr Safon Uwch neu Hyfedredd, maen nhw'n amrywio o ran hyd ac anhawster. Cyn dechrau, sicrhewch fod y darn yn addas i lefel eich dosbarth. Yn ddelfrydol, dylai fod yn ddigon dealladwy i gynnal diddordeb ond yn cynnwys rhai nodweddion newydd a fydd yn ymestyn gwybodaeth a hyfedredd y myfyrwyr.

Cyn dechrau, sicrhewch eich bod yn esbonio ystyr unrhyw eiriau allweddol sy'n anghyfarwydd. Gellid gofyn i bobl wrando am y geiriau hyn yn benodol yn ystod y gwrandawiad cyntaf. Wedyn, ar ôl sicrhau bod lefel y sain yn dderbyniol i bawb, gadewch i'r dosbarth wrando ar y darn cyfan.

Gwrando a Deall

Defnyddiwch yr adran 'Gwrando a Deall' i brofi dealltwriaeth y myfyrwyr. Bydd eu hymateb yn dangos ichi unrhyw beth nad ydynt wedi ei ddeall. Mae hyn yn caniatáu i aelodau'r dosbarth rannu gwybodaeth â'i gilydd. Rhowch gyfle i bawb fod yn rhan o'r broses addysgu gan fod pob aelod yn meddu ar wahanol eitemau o wybodaeth i'w rhannu. Lle bo darn arbennig yn peri trafferth, gellir ei ynysu ac ymdrin ag ef fesul cymal trwy ddefnyddio'r botwm saib ar y peiriant.

Gwaith Cartref

Gallwch ddefnyddio'r ymarferion iaith naill ai yn y dosbarth neu eu gosod yn waith cartref. Wrth ddilyn y trywydd cyntaf, anogwch y myfyrwyr unwaith eto i helpu ei gilydd a rhannu gwybodaeth. Wedi'r cyfan, ffenomen gymdeithasol yw iaith.

Tafodieithoedd

Bydd llawer o dafodieithoedd a chyweiriau'r Gymraeg yn ddieithr i'r dysgwr. Wrth wrando ar y darnau, dylid tynnu sylw at brif nodweddion yr iaith o ran cystrawen, ynganiad a geirfa. Mae ceisio dyfalu o ble mae siaradwr yn dod yn gallu bod yn hwyl ac yn ymarfer buddiol wrth ymgyfarwyddo â'r tafodieithoedd.

Trafod Cynnwys

Diddordeb i leiafrif yn unig yw'r iaith per se. Bydd y rhan fwyaf yn gweld y Gymraeg ond yn gyfrwng i ddilyn diddordebau eraill. Felly, mae'n bwysig trafod cynnwys y darnau, y syniadau a'r farn a fynegir. Ceisiwch gael y dosbarth i drafod pethau ymhlith ei gilydd mewn parau, grwpiau neu fel cyfangorff.

Gloywi Iaith

Un o brif ddibenion yr adnoddau hyn yw gloywi a chyfoethogi iaith. Ym mhob uned nodir ymadroddion, diarhebion etc. Gosodwch nod o ddysgu rhyw briod-ddull neu ymadrodd newydd bob wythnos gan gofio bob amser bod gormod o bwdin yn gallu tagu'r ci!

Gwaith Chwilota

Mae'r cyfnod rhwng sesiynau yn bwysig a dylid ceisio cael myfyrwyr i ddefnyddio'r amser hwn yn greadigol. Dyna pam mae awgrymiadau ynglŷn â gwaith ysgrifennu a gwaith chwilota. Os caiff myfyrwyr unrhyw drafferth i ddeall wrth wrando ar eitem yn eu cartrefi, gallant gyfeirio at y trawsgrifiad ond ni ddylid gwneud arfer o hyn. Dylid ystyried y trawsgrifiad ond yn gymorth wrth gefn mewn gwir argyfwng. Nod gwaith cartref bob amser yw ategu gwaith y dosbarth a sbarduno'r dysgwyr i ddefnyddio'r holl adnoddau llyfryddol, cyfryngol a dynol sydd o fewn eu cyrraedd.

Dyfal donc

Yn olaf, rhaid pwysleisio nad dros nos y bydd unrhyw un yn dod i ddeall holl amrywiaeth yr iaith lafar. Mae'n broses araf a 'Dyfal donc!' yw'r cyngor gorau y gellir ei roi i bob dysgwr yn yr achos hwn.


Gwefannau Dysgu Cymraeg

Cerys Matthews yn darllen

Big Welsh Challenge

Cwrs Cymraeg rhyngweithiol arlein mewn fformat opera sebon sy'n addas ar gyfer dechreuwyr.

Cymeriad menyw gyda gwallt melyn

Catchphrase

Ystod eang o adnoddau ar gyfer pob lefel o ddysgu Cymraeg.

Colin & Cumberland

Colin & Cumberland

Delfrydol ar gyfer dechreuwyr pur yr iaith Gymraeg.

Logo Ieithgi

Ieithgi

Rhugl yn y Gymraeg? Rho gynnig ar her gloywi iaith Ieithgi!

Logo Radio Cymru

Pigion Radio Cymru

Podlediad o uchafbwyntiau wythnosol ar gyfer dysgwyr Cymraeg.

RAW Cymru

Llwyth o gemau geiriau i wella dy sgiliau darllen ac ysgrifennu.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.