In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash installed. Visit BBC Webwise for full instructions
Last updated: 13 October 2010
Rhan o sgwrs gan yr Athro Derec Llwyd Morgan am ei ardal enedigol
Geirfa
- comin
- perfeddwlad
- glo carreg
- glofaol
- achos Annibynnol
- arwrol
- efengylu
- Y Diwygiad Methodistaidd
- dileu
- cyfamser
- purion
- clwyfo
- dychymyg
Gwrando a deall
- Ble codwyd pentref Cefn?
- Pryd cafodd y pentref ei godi?
- O ble daeth pobl i fyw yno?
- Ble roedden nhw'n gweithio?
- Beth oedd y gwahaniaeth rhwng Cefn a Chwmllynfell?
- Pa mor bell aeth Evan Wiliams i bregethu?
- Ydy'r siaradwr yn byw yn yr ardal nawr?
- Beth sy'n digwydd i bob pentref yn ôl y siaradwr?
- Beth ydych chi'n meddwl oedd penderfyniad swyddogion y Swyddfa Gymreig?
- Pa mor hapus ydy Derec Llwyd Morgan â'r penderfyniad?
Iaith
a) Gwir neu anwir?
- Hen bentref yw Cefn-bryn-brain.
- Doedd dim diwydiant yn yr ardal.
- Mae'n sefyll yn ymyl Cwmllynfell.
- Roedd achos Methodistaidd yng Nghwmllynfell yn amser Cromwell.
- Dydy'r siaradwr ddim yn byw yno nawr.
- Penderfynodd y Swyddfa Gymreig adleoli'r pentref.
- Mae'r siaradwr wrth ei fodd â'r penderfyniad.
b) Esboniwch y gwahaniaeth rhwng y parau hyn:
| diwydiant | diwylliant |
| comin | cae |
| efengylu | darlithio |
| diwygiad | chwyldro |
c) Ar y cyd, cynlluniwch sgwrs fer am ardal y dosbarth gan gynnwys yr ymadroddion hyn:
- ers llawer dydd
- roedd mynd ar
- dan ei sang
- Sul, gŵyl a gwaith
- nerth bôn braich
- wedi mynd â'i ben iddo
- ar drai
- cael dau ben llinyn ynghyd
- daw tro ar fyd
- ar ben eu digon
Trafod
- 'Mae arddull y siaradwr yn ffurfiol iawn'. Casglwch dystiolaeth i gadarnhau neu wrthbrofi'r gosodiad hwn.
- Soniwch am newid yn eich ardal nad ydych yn hapus ag ef.
- Disgrifiwch ardal rydych yn hoff ohoni.
Ymadroddion
- hyn a hyn
- hwn a hwn
- hon a hon
Ysgrifennu
- Ymadael â'ch ardal enedigol.
- Newidiadau yr hoffwn i eu gweld yn fy ardal.
- Mynd yn ôl i'r hen ardal heddiw.
Trawsgrifiad
Pentre newydd ydyw'r Cefen, un a godwyd ar y comin a rhai o gaeau Bryn-brain ddiwedd y ganrif ddwetha a dechrau hon. Yn hyn a hyn o dai, rhai o berfeddwlad Sir Gâr a ddaeth dros y Mynydd Du i weithio'n y gweithfeydd glo carreg. Pentre glofaol oedd Cwm Llynfell hefyd er mae e'n hen hen bentre, o leia yr oedd yna achos Annibynnol cryf yn chwarter ola canrif Cromwell, ac i Eglwys yr Annibynwyr yng Nghwmllyfnell y perthynai'r Evan Williams arwrol hwnnw a fu'n efengylu mor bell â Shir Gaernarfon ym mlynyddoedd cynnar y Diwygiad Methodistaidd. Yn awr fe ddileir y rhaniad naturiol hwnnw.
Dydw i ddim wedi byw gartre ers dros bymtheng mlynedd. Yn y cyfamser fe newidiodd y lle fel pob man, ond y mae'r gorffennol, pell ac agos, yn fwy byw i'r absennol, a thirion i bwyllgorwyr y Swyddfa Gymreig wybod y bydd eu penderfyniad nhw yn rhwym o gleisio dychymyg a chof un creadur o Gefen-bryn-brain o leia, a hynny yn o arw. Fydd y lle byth bythoedd yn rhan o Forgannwg i mi er mai Morgan ydy f 'enw i.
Noder
Nod y trawsgrifiadau hyn yw adlewyrchu'n gywir yr hyn a glywir ar y crynoddisgiau. Nid yw siaradwyr y Gymraeg, yn fwy na siaradwyr unrhyw iaith arall, yn llefaru'n ramadegol gywir bob amser ac oherwydd hynny ceir enghreifftiau o iaith wallus. Gall y rhain fod yn adnodd gwerthfawr i'r tiwtor ac yn brawf i'r dysgwr nad yw gwneud camgymeriadau yn rhwystr bob amser i gyfathrebu effeithiol. Ar dro, gellir tynnu sylw at wall a manteisio arno i danlinellu ambell bwynt. Greddf y tiwtor a'i adnabyddiaeth o'i ddosbarth fydd yn penderfynu pryd y dylid gwneud hyn ai peidio.
Gwefannau Dysgu Cymraeg
Big Welsh Challenge
Cwrs Cymraeg rhyngweithiol arlein mewn fformat opera sebon sy'n addas ar gyfer dechreuwyr.






