Guto Roberts yn sôn am gymeriad gwreiddiol

In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash installed. Visit BBC Webwise for full instructions

Last updated: 13 October 2010

Guto Roberts yn sôn am Rol, Croesor Bach, un o gymeriadau gwreiddiol pentref Croesor

Geirfa

  • arbenigrwydd
  • hyderu
  • ias
  • cwta ddeufis
  • dyhead
  • disymwth
  • mudo
  • eirin tagu
  • cyforiog
  • llwm
  • moel
  • surni
  • moethusrwydd
  • coinio
  • cymariaethau
  • gwaith sets
  • dihafal
  • annioddefol
  • clecian
  • glaw taranau
  • nobl

Gwrando a deall

  1. Pa mor adnabyddus oedd Rol?
  2. Ers pryd mae e wedi marw?
  3. Sawl brawd oedd ganddo?
  4. Sut roedd e'n dymuno marw?
  5. Ble bu Guto Roberts yn sgwrsio ag ef?
  6. I ble symudodd e o Groesor?
  7. Beth roedd e'n ei fwyta "yn hogyn 10 oed"?
  8. I ba fath o deulu y perthynai?
  9. Ble bu'n gweithio ar un adeg?
  10. Pam roedd ei het wellt wedi mynd "fel clustia' sbaniel"?

Iaith

a) Lluniwch frawddegau yn cynnwys yr ymadroddion canlynol a ddefnyddiwyd yn y sgwrs:

  • rhyfeddol o
  • aml i dro
  • ers tro byd
  • am fy nhraed
  • clamp o

b) Pa eiriau eraill a ddefnyddiwyd yn y sgwrs i gyfleu:

  • gobeithio
  • sydyn
  • symud
  • ers amser
  • tlawd
  • chwerwder
  • anghymarol
  • het fawr

c) Rhestrwch y geiriau hyn o dan y penawdau Dymunol neu Annymunol: ffraeth; twp; cwynfanllyd; caredig; swrth; byrbwyll; galluog; cymwynasgar; cybyddlyd; hynaws; siriol; ffiaidd

Tafodaith

Brodor o Eifionydd yng Ngwynedd oedd Guto Roberts. Gwrandewch ar ei sgwrs eto a nodwch beth sy'n digwydd i'r terfyniad lluosog -au yn y geiriau: 'sgidiau; awgrymiadau; cymariaethau; taranau a clustiau.

Trafod

  1. Llunio sgwrs fer am unrhyw 'gymeriad' rydych yn ei nabod.
  2. Ysgrifennwch enwau cymeriadau adnabyddus hanesyddol neu gyfoes ar gardiau a glynwch nhw ar gefnau eich cyd-aelodau yn y dosbarth â selotape. Tasg pob un bydd ceisio darganfod pwy ydyw trwy gerdded o gwmpas a holi'r lleill.

Ymadroddion

  • ar un adeg
  • am gyfnod
  • ymhen tipyn
  • ar ôl ysbaid
  • ar fyr o dro
  • ychydig yn ôl

Ysgrifennu

  1. Portread o gymeriad.
  2. Llunio rhestr o gwestiynau ar gyfer holi cymeriad lleol.

Trawsgrifiad

Chydig iawn ohonoch chi fydd wedi clywad sôn am y cymeriad dw i am ddeud gair neu ddau amdano fo heno 'ma a hyd yn oed wedi i mi ei enwi fo, dim ond chydig iawn o bobol mewn rhyw gylch o bum milltir i Borthmadog oedd yn ei nabod o, ond roedd i Rolant ei arbenigrwydd a chyn diwedd y sgwrs 'ma dw i'n hyderu y byddwch chi yng nghanolbarth a de Cymru wedi teimlo rywfaint o iâs yr arbenigrwydd hwnnw. Cwta ddeufis sy 'na er pan fu farw Rol, Croesor Bach, neu Rolant Panwyl Williams, i roi ei enw fo'n llawn, ac yng Nghroesor Bach, Croesor, yn un o dri o fechgyn, y magwyd o. Mi fuo'r ddau frawd arall, sef Dafydd a Ben, farw yn sydyn a disymwth, chydig o flynyddoedd yn ôl a dull Rolant o fynegi ei ddyhead o am farwolaeth debyg oedd hwn: "Dw i'n disgwyl ca i farw â sgidia am 'y nhraed," a mi gafodd, yn union felly.

Ro'n i wedi dod i nabod Rolant Williams ers tua ugian mlynadd, nid yn rhyfeddol o dda ond yn ddigon da, er hynny, i fynd ato fo i'r tŷ am sgwrs ryw unwaith neu ddwy ac amal i dro y bûm i'n sgwrsio efo fo ar y stryd ym Mhorthmadog. Roedd o wedi dod o Groesor ac wedi setlo ym Mhorthmadog ers tro byd a phan ofynnodd rywun iddo fo yn fuan ar ôl y mudo sut oedd o'n setlo yn y Port, medda Rolant, "Dw i'n hapusach na buo mi er pan o'n i'n hogyn deg oed yn bwyta eirin tagu", a dyna i chi atab sy'n gyforiog o awgrymiada. Hynny ydy, roedd o wedi dod o gefndir mor llwm a moel nes y cyfrifid surni eirin tagu yn foethusrwydd. A dyn efo'r ddawn a'r gallu i goinio cymariaethau cofiadwy fel yna oedd Rol, Croesor Bach. Mi ofynnodd rywun iddo fo rywdro sut ddyn oedd hwn a hwn, a dyma'r atab: "Y dyn iawn i ddeud bod hi'n braf neu bod hi'n bwrw wrtho fo".

Roedd o wedi bod yn gweithio ar un adag yn y gwaith set ym Minffordd a mae 'na stori amdano fo yn sôn am ryw wsnos o dywydd dihafal o boeth yn y cyfnod hwnnw. "Erbyn dydd Gwenar," medda Rol, "roedd hi wedi dwad yn anioddefol a dyna hi'n dod i glecian at y tri o'r gloch yma ac yn law t'rana mwya diawledig welist ti rioed. Ro'n i 'di cychwyn yn bora efo clamp o het wellt noblia welist di am ben neb ond pan o'n i'n cyrraedd yn f 'ôl chydig wedi pump roedd hi wedi mynd yn union fel clustia spaniel".

Noder

Nod y trawsgrifiadau hyn yw adlewyrchu'n gywir yr hyn a glywir ar y crynoddisgiau. Nid yw siaradwyr y Gymraeg, yn fwy na siaradwyr unrhyw iaith arall, yn llefaru'n ramadegol gywir bob amser ac oherwydd hynny ceir enghreifftiau o iaith wallus. Gall y rhain fod yn adnodd gwerthfawr i'r tiwtor ac yn brawf i'r dysgwr nad yw gwneud camgymeriadau yn rhwystr bob amser i gyfathrebu effeithiol. Ar dro, gellir tynnu sylw at wall a manteisio arno i danlinellu ambell bwynt. Greddf y tiwtor a'i adnabyddiaeth o'i ddosbarth fydd yn penderfynu pryd y dylid gwneud hyn ai peidio.


Gwefannau Dysgu Cymraeg

Cerys Matthews yn darllen

Big Welsh Challenge

Cwrs Cymraeg rhyngweithiol arlein mewn fformat opera sebon sy'n addas ar gyfer dechreuwyr.

Cymeriad menyw gyda gwallt melyn

Catchphrase

Ystod eang o adnoddau ar gyfer pob lefel o ddysgu Cymraeg.

Colin & Cumberland

Colin & Cumberland

Delfrydol ar gyfer dechreuwyr pur yr iaith Gymraeg.

Logo Ieithgi

Ieithgi

Rhugl yn y Gymraeg? Rho gynnig ar her gloywi iaith Ieithgi!

Logo Radio Cymru

Pigion Radio Cymru

Podlediad o uchafbwyntiau wythnosol ar gyfer dysgwyr Cymraeg.

RAW Cymru

Llwyth o gemau geiriau i wella dy sgiliau darllen ac ysgrifennu.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.