Dyfan Roberts yn darllen stori arswyd

In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash installed. Visit BBC Webwise for full instructions

Last updated: 13 October 2010

Yn y darn hwn mae'r actor, Dyfan Roberts, yn darllen rhan o stori gyffrous

Geirfa

  • milwr
  • diflannu
  • llefai
  • bwtri
  • cilagored
  • lled y pen
  • dychymyg
  • gordd
  • dudew
  • ceryddu
  • curo
  • erfyn ar
  • dwrn
  • fferu
  • anadlu
  • chwys
  • gruddiau
  • gwalch

Gwrando a deall

  1. At ba rif cyfrifodd y milwr?
  2. I ble rhedodd e?
  3. Oedd ffenest y bwtri ar gau?
  4. Sut teimlai e wrth fynd drwy'r ffenest?
  5. Faint o olau oedd yn y tŷ?
  6. Pwy oedd yn siarad â'i chwaer oddi allan?
  7. Beth oedd ei chwaer am ei wneud?
  8. Ble aeth e ar flaenau'i draed?
  9. Pa sŵn glywodd e yn stafell wely ei dad?
  10. Beth agorodd e yn y stafell?
  11. Pa ateb gafodd e pan ofynnodd e, "Pwy sy' 'na?"?
  12. Beth deimlodd e'n sydyn?

Iaith

a) Pa ymadroddion a ddefnyddiwyd yn y stori i gyfleu:

  • yn llydan agored
  • calon yn curo'n drwm
  • roedd yn hawdd iddo
  • diflannwch, ferch
  • safodd lle roedd e
  • cerdded heb sŵn
  • safodd lle roedd e
  • rhewodd ei waed
  • y cythraul!

b) Pa arddodiaid sy'n dilyn y berfenwau / berfau hyn yn y stori?

  • diolch
  • aeth
  • erfyn
  • dal
  • gwrando
  • gafael
  • cau

c) Pa eiriau sydd ag ystyr tebyg?

fferudwrdio
bwtridihiryn
dudewcuro
ceryddubwlyn
bwrwrhewi
gruddiaupantri
cilagoredtywyll
gorddbochau
dwrnhanner agored
gwalchmorthwyl pren

Tafodaith

Mae Dyfan Roberts yn darllen stori ysgrifenedig. Pa wahaniaethau ydych chi'n eu gweld rhwng iaith y stori ac iaith lafar bob dydd? Gwnewch restr o'r prif bwyntiau.

Trafod

  1. Mae Dyfan Roberts yn darllen stori ysgrifenedig. Pa wahaniaethau ydych chi'n eu gweld rhwng iaith y stori ac iaith lafar bob dydd? Gwnewch restr o'r prif bwyntiau.
  2. Stori arswyd yw hon. Pa elfennau yn y sgrifennu a'r adrodd sy'n peri ei bod yn gyffrous? Trafodwch.
  3. Adroddwch stori am rywbeth cyffrous rydych chi wedi ei glywed neu sydd wedi digwydd i chi'n bersonol.
  4. Mae darllen ar goedd yn sgil anodd. Dewiswch ddarn o stori / nofel i'w ddarllen yn uchel.

Ymadroddion

  • diolch i'r drefn!
  • diolch byth!
  • diolch i'r nefoedd!
  • diolch i Dduw!
  • diolch i'r mawredd!

Ysgrifennu

  1. Ysgrif am unrhyw ddigwyddiad arswydus / cyffrous.
  2. Stori yn gorffen. "a fferodd fy ngwaed".

Trawsgrifiad

Cyn i'r milwr gyfri pump, roedd y ddau wedi diflannu rownd cornel y stryd. 'O, be wnawn ni?', llefai Jean wrth i Emile ei thynnu ar ei ôl drwy'r tywyllwch. Rhedodd nes dod i ardd gefn ei gartref. Diolchodd i'r drefn nad oedd gwylwyr y fan honno hefyd ac aeth at ffenest y bwtri. Yr oedd yn gil-agored, ac wedi ei hagor led y pen, arhosodd Emile am eiliad i wrando, ei goes dros y silff. Roedd bron yn sicir iddo glywed sŵn rhywun yn symud yn y tŷ. "Na, dychymyg," meddai wrtho'i hun. Yna, â'i galon fel gordd, aeth drwy'r ffenestr yn ofalus. Nid oedd drafferth yn y byd iddo deimlo'i ffordd o gwmpas y tŷ mewn tywyllwch dudew.

"O'r golwg, ferch. Wyt ti'n clywed?"

Clywodd leisiau'r milwyr yn ceryddu ei chwaer oddi allan. Arhosodd yn ei unfan am eiliad i wrando ar Jean yn erfyn am gael mynd i mewn drwy'r drws i'w chartre." Da iawn Jean", meddai'n isel, "dal di atyn nhw. Fydda i ddim yn hir nawr". Yna, i fyny'r grisiau ag ef ar flaenau ei draed. Agorodd ddrws ystafell wely ei dad a sefyll yno yn y tywyllwch yn gwrando ar ei galon yn curo fel drwm. Yna, teimlodd ei ffordd tua'r drôr. Gafaelodd yn y dwrn a'i agor ac yna fferu am eiliad. Roedd y sŵn i'w glywed eto. Sŵn fel petai rhywun yn anadlu'n drwm yn yr ystafell.

"Pwy sy' 'na?" mentrodd ofyn, ei lais yn ddieithr hollol iddo. Ond ni ddaeth ateb o unman. Chwiliodd y drôr yn frysiog, y chwys yn rhedeg yn oer i lawr ei ruddie. Yna, gwaeddodd yn uchel wrth deimlo llaw galed yn cau am ei law yntau. "Dim un gair, y gwalch."

Noder

Nod y trawsgrifiadau hyn yw adlewyrchu'n gywir yr hyn a glywir ar y crynoddisgiau. Nid yw siaradwyr y Gymraeg, yn fwy na siaradwyr unrhyw iaith arall, yn llefaru'n ramadegol gywir bob amser ac oherwydd hynny ceir enghreifftiau o iaith wallus. Gall y rhain fod yn adnodd gwerthfawr i'r tiwtor ac yn brawf i'r dysgwr nad yw gwneud camgymeriadau yn rhwystr bob amser i gyfathrebu effeithiol. Ar dro, gellir tynnu sylw at wall a manteisio arno i danlinellu ambell bwynt. Greddf y tiwtor a'i adnabyddiaeth o'i ddosbarth fydd yn penderfynu pryd y dylid gwneud hyn ai peidio.


Gwefannau Dysgu Cymraeg

Cerys Matthews yn darllen

Big Welsh Challenge

Cwrs Cymraeg rhyngweithiol arlein mewn fformat opera sebon sy'n addas ar gyfer dechreuwyr.

Cymeriad menyw gyda gwallt melyn

Catchphrase

Ystod eang o adnoddau ar gyfer pob lefel o ddysgu Cymraeg.

Colin & Cumberland

Colin & Cumberland

Delfrydol ar gyfer dechreuwyr pur yr iaith Gymraeg.

Logo Ieithgi

Ieithgi

Rhugl yn y Gymraeg? Rho gynnig ar her gloywi iaith Ieithgi!

Logo Radio Cymru

Pigion Radio Cymru

Podlediad o uchafbwyntiau wythnosol ar gyfer dysgwyr Cymraeg.

RAW Cymru

Llwyth o gemau geiriau i wella dy sgiliau darllen ac ysgrifennu.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.