In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash installed. Visit BBC Webwise for full instructions
Last updated: 13 October 2010
Dafydd Iwan yn sôn am ddechrau canu a'r dylanwadau a fu arno
Cyn gwrando ar y recordiad, casglwch ffeithiau am Dafydd Iwan a'u rhannu â gweddill y dosbarth.
Geirfa
- diwylliedig
- pumdegau
- ymysgwyd
- amrwd
- digyfeiliant
- gwirioni
- swyddogion
- gwersyllwyr
- deiseb
Gwrando a deall
- Faint oedd oed Dafydd Iwan yn symud i Lanuwchlyn?
- Pa raglen deledu oedd yn hybu canu poblogaidd yn y pumdegau?
- Beth oedd barn Dafydd am y rhaglen?
- Pryd roedd y plant yn gwrando ar Radio Luxemburg?
- Pwy oedd yr aelod cyntaf o'r teulu i brynu gitâr?
- Beth oedd y ddau beth y gallai Dafydd eu gwneud?
- Ble aeth e ati i ddysgu'r gitâr?
- Beth sy'n rhyfedd am y tro cyntaf iddo ganu?
- Beth oedd y plant yn gwrthod ei wneud yng Nglan-llyn?
- Beth oedd pwrpas y ddeiseb?
Iaith
a) Cwblhewch y brawddegau hyn ar ôl gwrando ar y recordiad:
- Roedd Brynaman a Llanuwchlyn yn bentrefi ..........
- Dechreuodd Dafydd ymddiddori mewn rhaglenni canu pop yn y ..........
- Am nad oedd e'n gallu canu offeryn, roedd rhaid iddo ganu'n ..........
- Cafodd e .......... ar ganu.
- Aeth swyddogion yng Nglan-llyn i banics ..........
- Cyflwynodd y gwersyllwyr .......... i'r BBC yn gofyn am gael gweld Dafydd ar y teledu.
b) Defnyddiwch eiriadur i ddod o hyd i genedl yr enwau hyn. Oes yma batrwm?
Tysteb, swyddfa, heddwch, brwdfrydedd, gwybodaeth, tywyllwch, archeb, porfa, tangnefedd, gwytnwch, barddoniaeth, hysbyseb, noddfa, amynedd, amheuaeth
c) Pa esboniad ar y dde sy'n gweddu i'r idiomau ar y chwith?
| ar ddamwain | ar y cyfan |
| ar bigau'r drain | mentro heb sicrwydd |
| â'i wynt yn ei ddwrn | yn bryderus ac anghysurus |
| bod â dwylo blewog | heb yngan gair |
| ar gyfeiliorn | heb symud |
| at ei gilydd | un sy'n hoffi arwain |
| prynu cath mewn cwd | ar frys mawr |
| heb na bw na be | ar grwydr |
| yn ei unfan | bod yn lleidr |
| ceffyl blaen | ar siawns |
Tafodaith
Er bod Dafydd Iwan yn defnyddio rhai ffurfiau gogleddol fel 'deud', 'gwirioni' ac 'yntê' mae'r terfyniad lluosog '-au' > 'e' yn groes i'r hyn a ddisgwylid. Oes gennych awgrymiadau pam mae hyn yn digwydd?
Trafod
- Oes unrhyw werth parhaol i ganu poblogaidd? Trafodwch.
- Canu pop - o les neu yn gwneud drwg?
- Rhywbeth i'r ifainc yn unig yw canu pop?
Ymadroddion
- cael blas ar
- cael hwyl ar
- rhywun neu'i gilydd
Ysgrifennu
- Canu pop - sŵn heb ddawn?
- Cantorion pop yn ymgyrchu.
- Cerddoriaeth bop v. cerddoriaeth glasurol.
Trawsgrifiad
Pan oeddwn i'n ddeuddeg oed, fel dwedes i, yn symud i Lanuwchllyn, pentre Cymraeg eto a'r un mor ddiwylliedig, fywiog felly 'de, ac yna yn niwedd y pumdege roedd y byd pop yn Saesneg yn ymysgwyd, ynde, a Cliff Richard a ... Adam Faith a'r rhain, a'r rhaglenni cynta ar teledu - Six-Five Special, amrwd iawn iawn, wrth gwrs, o edrych yn ôl arnyn nhw, ynde. Roedden ni'n gwylio'r rheini - ddim yn cael llawer o flas ar y Six-Five Special a'r rheina ond roedd Luxembourg mlaen weithie yn y tŷ pan oedd dad a mam allan felly, ynde. Mi ddo'th dylanwade y byd pop Saesneg i mewn, hyd yn oed i ardal Gymraeg fel Llanuwchllyn.
Dw i'n cofio 'mrawd, a Arthur, yn prynu gitâr - oedd hyn flynyddoedd cyn i mi neud - ac yn cael tipyn o hwyl arni, a ... yn cofio helynt y sôn am y pick-up cynta' felly 'de, i roi ar y gitâr acoustic i gael mwy o sŵn ac felly roedd rhywun mewn cysylltiad â'r byd yna drwy Arthur 'y mrawd, felly.
Cyfan fedrwn i neud oedd deud jôcs neu canu caneuon gwerin digyfeiliant, ac yna yng Nglan-llyn, dw i'n meddwl, i ddechre, oedd rhywun neu'i gilydd wedi dod â gitâr yno a finne yn mynd ati i ddysgu ryw gord neu ddau ac yna yn mynd ati i ganu ryw ganeuon syml i gyfeiliant y gitâr 'ma a chael blas arni 'de, a dw i'n cofio casgliad o ganeuon gwerin americanaidd wnes i bigo fyny gynta ac yna chwilio, wrth gwrs, am y caneuon oedd â'r cordie o'n i'n gwbod a jyst yn mynd drwyddyn nhw, ac yn wir, yng Nglan-llyn, yn Saesneg, mae'n syndod meddwl erbyn hyn, felly, ond yn Saesneg wnes i ganu gynta oherwydd, wrth gwrs, doedd 'na ddim caneuon o'r fath yn Gymraeg, ynde. Ond cam bach iawn oedd o mewn gwirionedd - er fod o'n gam mawr mewn rhyw ffordd falle - oedd sylweddoli fod 'na eiriau Cymraeg oedd yn mynd ar y pethe fel "Froggy Went a'Courting" ynde, a rhoi Gee Ceffyl Bach ar honna a dyna'r blas cynta ges i ar ganu pop i gynulleidfa oedd yn gwirioni oedd yng Nglan-llyn un wythnos, y plant yn gwrthod mynd i'r gwely felly 'de, heb i mi ganu unwaith eto a'r swyddogion yn mynd i banics glân oherwydd bod nhw ofn fod 'na riot ar eu dwylo nhw, felly 'de, a'r cyfan o'n i'n neud oedd canu'r Gee Ceffyl Bach 'ma, ryw bethe syml fel'na 'de ac .. y... Meddwl Amdanat Ti.
Wrth gwrs, o'n i wrth fy modd achos o'n i yn dipyn o extrovert mewn rhyw ffordd. Oedd perfformio'n dod yn naturiol i mi ond oedd hyn yn beth hollol newydd, wrth gwrs, ynde, yr apel yma oedd caneuon syml fel'ma yn gael. A dyna oedd y dechre. Dw i'n cofio ryw ddeiseb wedyn yn mynd i mewn gan wersyllwyr Glan-llyn i bapur yr Urdd, deiseb i'r BBC a TWW yr adeg honno yn gofyn iddyn nhw roi cyfle i'r dalent fawr 'ma oedd 'di dod i'r amlwg yng Nglan-llyn, felly.
Noder
Nod y trawsgrifiadau hyn yw adlewyrchu'n gywir yr hyn a glywir ar y crynoddisgiau. Nid yw siaradwyr y Gymraeg, yn fwy na siaradwyr unrhyw iaith arall, yn llefaru'n ramadegol gywir bob amser ac oherwydd hynny ceir enghreifftiau o iaith wallus. Gall y rhain fod yn adnodd gwerthfawr i'r tiwtor ac yn brawf i'r dysgwr nad yw gwneud camgymeriadau yn rhwystr bob amser i gyfathrebu effeithiol. Ar dro, gellir tynnu sylw at wall a manteisio arno i danlinellu ambell bwynt. Greddf y tiwtor a'i adnabyddiaeth o'i ddosbarth fydd yn penderfynu pryd y dylid gwneud hyn ai peidio.
Gwefannau Dysgu Cymraeg
Big Welsh Challenge
Cwrs Cymraeg rhyngweithiol arlein mewn fformat opera sebon sy'n addas ar gyfer dechreuwyr.






