In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash installed. Visit BBC Webwise for full instructions
Last updated: 13 October 2010
Tomos Morse yn holi Ioan Gruffydd am ei waith ac yn rhannu rhai o'i brofiadau
Geirfa
- clyweliadau
- cyfarwyddwr
- cyfweliad
- cysylltiad
- eisoes
- marchogaeth
- meithrinfa
- hyfforddi
- ysgol farchogion
- datblygu
- corfforol
- clefyd y gwair
- erchyll
- chwistrelliad
- tîn
- urddo y Wisg Wen
- yr Orsedd
- ymestyn
Gwrando a deall
- Pam mae Ioan Gruffudd wedi dod adref?
- Sut cafodd e ran yn y ffilm?
- Ble dysgodd Ioan i farchogaeth?
- Beth oedd yr actorion yn ei wneud gyda'r nos tra yn Iwerddon?
- O beth mae Ioan Gruffudd yn dioddef?
- Pam aeth e i'r Eisteddfod Genedlaethol?
- I ble mae Ioan yn mynd ar ôl gadael Caerdydd?
- Beth, yn arbennig mae Dr Reed Richards yn gallu ei wneud?
- Pam na fydd e'n actio gyda Matthew Rhys
- Ydy e wedi derbyn cynnig i chwarae James Bond?
Iaith
a) Esboniwch yn Gymraeg y gwahaniaeth rhwng y parau hyn:
| clyweliad | cyfweliad |
| marchogaeth | marchogion |
| tîn | pen ôl |
| shwd mae? | sut ydych chi? |
| estyn | ymestyn |
| hyfforddi | ymarfer |
| cyfarwyddwr | cyfarwyddyd |
| drwg | erchyll |
b)Mae un o'r siaradwyr yn sôn am 'Yr Iwerddon'. Ydy hyn yn gywir; a pha rai o blith y canlynol sy'n gywir neu yn anghywir?
- Yr Alban
- y Teifi
- Y Gymraeg
- Yr Amwythig
- Y Bala
- Y Fenai
Tafodaith
Mae llawer o eiriau, ymadroddion a phatrymau yn iaith y ddau siaradwr sy'n nodweddiadol o Gymraeg llafar de Cymru. Nodwch y rhain.
Trafod
- "Mae'r sgwrs yn anffurfiol iawn rhwng dau berson sy'n adnabod ei gilydd yn dda" Sut byddech chi'n cyfiawnhau neu yn gwrthbrofi'r gosodiad hwn. Nodwch eich tystiolaeth.
- Siaradwch â'ch partner am eich hoff ffilm / actor / actores.
- Ydy Cymry wedi gwneud llawer o gyfraniad i fyd ffilmiau?
- Ydych chi o'r farn y byddai Ioan Gruffudd yn addas ar gyfer rhan James Bond? Nodwch eich rhesymau?
Ymadroddion
- Mae si ar led
- mae hanes ar gerdded
- mae sôn bod
- mae achlust fod
- mae'r stori'n dew fod...
Ysgrifennu
- Taswn i'n actor, baswn i'n hoffi ..........
- Fy hoff actor / actores
Trawsgrifiad
Shw mae, Ioan. Croeso nôl i Gaerdydd. Shwd mae e i fod nôl?
O, dw i wrth fy modd. Mae wastad yn braf i ddod gartre ond yn brafiach fyth i ddod gartre gyda premier ffilm fowr fel hyn a dw i ... na ... dw i wrth fy modd.
Wnes i fwynhau'r ffilm yn fawr iawn. Beth oedd y dechre? Shwd gefes di'r rhan? Ife rywbeth fel sgript drwy'r post neu oedd Jerry Bruckheimer yn ffono ti a dweud, "Dere draw i weld fi"?
Na, ges i glyweliade, nifer o glyweliade, i ddechre gyda'r cyfarwyddwr castio a wedyn ges i glyweliad gyda Antoine Fuqua ei hunan a wedyn 'ny cyfweliad wedyn gyda Jerry Bruckheimer a bues i'n lwcus iawn yn y gorffennol i weithio gyda fe ar Black Hawk Down felly oedd 'na ryw gysylltiad, fel ryw berthynas gyda ni eisoes a fi'n falch iawn bo fi 'di neud y rhan fach 'na yn ei ffilm, yn Black Hawk Down, a ges i ran fawr wedyn yn hon.
O ti'n marchogaeth eitha tipyn yn y ffilm 'ma. Cefaist ti wersi arbennig neu ife meithrinfa Llangrannog ddechreuodd ti off?
Ie, meithrinfa Llangrannog! Na, ges i - o'n i'n lwcus - ges i'n hyfforddi gan yr un bechgyn na'th y'n hyfforddi ni ar y ffilm, blynyddoedd yn ôl, pan wnes i'r rhaglen Poldark. Felly yr un bois, falle oedd 'na ryw fath o gontinuity pan o'n i'n cael 'y nysgu ar y ffilm a githo ni bythefnos o ysgol farchogion yn yr Iwerddon ble o'n i'n dysgu i farchogeth yn y boreau a marchogeth gyda ... mewn ryw fath o batryme gyda'n gilydd, a wedyn 'ny neud yr holl choreography, yr holl ymladd a'r brwydro oedd raid i fi neud yn y ffilm yn prynhawn a wedyn, wrth gwrs, gan bod ni'n byw yn Iwerddon oedd tipyn o whare ambeutu yn y tafarne yn yr hwyr. Ie. I geisio datblygu'r cymeriade yndife.
Oedd e'n ffilm anodd i ffilmio?
O'dd, o'dd. O'dd hi'n ffilm gorfforol iawn ond er gweud hynny dw i ddim yn eistedd tu ôl i ddesg bob dydd o naw tan bump. Dw i allan yn y awyr agored yn iste ar ben ceffyl yn edrych yn gret ac yn esgus bod yn blentyn eto, a gweud y gwir. Bydden i'n disgrifio fe fel bod yn blentyn yn yr ardd gefn yn whare 'da darn bach o bren a, yn sydyn iawn, dw i'n neud e o ddifri. Dw i'n clywed bo ti'n dioddef o glefyd y gwair. Oedd hynna'n broblem tra bo ti'n ffilmio? Mae wedi bod, yn y gorffennol, yn broblem oedd yn erchyll pan o'n i'n ifancach ond dw i'n tyfu mas o'r peth tipyn bach ond oedd raid i fi gael chwistrelliad yn 'y nhîn i gael gwared o'r peth am y cyfnod yr haf a mae wedi gwitho, chware teg. Felly dw i'n falch iawn bod rwbeth ar gael nawr i helpu'r sefyllfa.
Tra bod y cyfnod ffilmio, haf dwetha, fe gefes di dy urddo i'r wisg wen. Oedd hwnna'n broblem?
Oedd e fel bo ti'n dweud wrth Jerry Bruckheimer, "Look Gerry, I'm off to become a druid in Wales". Oedd hynna'n broblem? Na, dim o gwbwl. Na oedd e'n ... fel oedd hi'n digwydd, withodd y cyfan mas ... o'n i ddim yn gwitho ar y dyddie hynny a, whare teg i'r Orsedd, nitho nhw newid y'n urddo i i'n siwto i, a gweud y gwir. Felly, na, dyna'r foment mwya ... wel, moment mwya prowd dw i 'di cael yn 'y mywyd dw i'n credu a dw i'n falch iawn o fod wedi cael y'n urddo.
Ar ôl ti orffen hyrwyddo hwn, ti'n gadel Caerdydd nawr, ti'n mynd i Efrog Newydd?
Na, dw i'n mynd nôl i Los Angeles a fydda i'n mynd lan wedyn 'ny wythnos nesaf i Vancouver i ddechre ar y ffilm newydd 'ma,The Fantastic Four.
Beth yw dy gymeriad di yn hwnna?
Wel, dw i'n chware Dr Reed Richards, aka Mr Fantastic, a mae e'n medru ymestyn ei freichie fe a'i goese fe, a'i gorff cyfan a gweud y gwir, a dyna ... dyna ei bwere arbennig e.
Mae 'na ffilm gyda Matthew Rhys yn dod lan hefyd, oes e?
Na, yn anffodus, oedd 'na sôn wedi bod yn y gorffennol bod ni'n mynd i neud ffilm gyda'n gilydd ond, yn anffodus, gan bod y cyfle 'ma wedi dod i whare Mr Fantastic, fe benderfynes i fynd i neud hwnnw yn lle.
A ... ddyle ni ddeud e - James Bond?
Wel, dw i 'di bod yn lwcus iawn yn y gorffennol, a dal i fod - si yw e, dim ond si sy' ar led mod i, mae ryw gysylltiad gyda'r cymeriad ond . . na, mae e'n flattering iawn - bydden i wrth 'y modd yn whare'r rhan ond dw i ddim wedi cael galwad oddi wrth Barbara Broccoli yn cynnig y rhan i fi 'to. Wel, os nid tro yma, y tro nesa falle?
O, gobitho'n fawr, ie. O, bydden i wrth fy modd. Fydden i'n ffŵl i droi'r cyfle 'ny lawr dw i'n credu.
Bydde unrhyw ddiddordeb gyda ti yn cyfarwyddo neu gynhyrchu ffilmie?
I fod yn onest, does dim diddordeb wedi bod 'da fi eriôd a dweud y gwir. Falle ddatblygith e yn y dyfodol ond dw i jyst wrth fy modd yn actio ar hyn o bryd a gweithio gyda cyfarwyddwyr a chynhyrchwyr, ond pwy a ŵyr? Fel mae'n ... fel mae Tom Cruise wedi neud, mae e'n cynhyrchu a chyfarwyddo pethe ei hunan a gobitho un dwrnod bydda i â'i statws e a bydda i'n gallu cynhyrchu'r cyfan y'n hunan.
Pob lwc i ti a diolch i ti, Ioan, a llongyfarchiade gyda'r ffilm 'ma. A, fel dwedes ti cyn dechre'r ffilm neithiwr, wedes di rywbeth fel hyn: "I'r gâd, cerddwn ymlaen, ry'n ni yma o hyd"
Diolch yn fawr iawn i ti, Ioan.
Noder
Nod y trawsgrifiadau hyn yw adlewyrchu'n gywir yr hyn a glywir ar y crynoddisgiau. Nid yw siaradwyr y Gymraeg, yn fwy na siaradwyr unrhyw iaith arall, yn llefaru'n ramadegol gywir bob amser ac oherwydd hynny ceir enghreifftiau o iaith wallus. Gall y rhain fod yn adnodd gwerthfawr i'r tiwtor ac yn brawf i'r dysgwr nad yw gwneud camgymeriadau yn rhwystr bob amser i gyfathrebu effeithiol. Ar dro, gellir tynnu sylw at wall a manteisio arno i danlinellu ambell bwynt. Greddf y tiwtor a'i adnabyddiaeth o'i ddosbarth fydd yn penderfynu pryd y dylid gwneud hyn ai peidio.
Gwefannau Dysgu Cymraeg
Big Welsh Challenge
Cwrs Cymraeg rhyngweithiol arlein mewn fformat opera sebon sy'n addas ar gyfer dechreuwyr.






