Dysgu plant gartref

In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash installed. Visit BBC Webwise for full instructions

Last updated: 13 October 2010

Trafod addysgu plant yn y cartref wrth i grŵp o blant a rhieni ymweld ag Amgueddfa Wlân Tre-fach

Geirfa

  • datgelu
  • ymchwil
  • undebau
  • safon
  • y dafol
  • manteision
  • anfanteision
  • ymgyrch
  • rhwygo
  • dadansoddi
  • dehongli
  • cyfres
  • ffurfiol
  • ystod oedran
  • wrth reswm
  • celf
  • cynyddu
  • yn gyfangwbl

Gwrando a deall

  1. Beth mae llawer o rieni wedi penderfynu ei wneud?
  2. Sut mae undebau athrawon yn ymateb i addysg yn y cartref?
  3. Pa fanteision sydd wrth ymweld â'r amgueddfa?
  4. Pa arlunydd mae'r plant wedi bod yn dynwared ei waith?
  5. Sawl brawd sydd gan Lowri Butterworth?
  6. Pa liwiau sydd yn llun Lowri?
  7. Sut mae'r Amgueddfa'n helpu'r teuluoedd?
  8. Sut mae Kate Evans yn disgrifio'r berthynas â'r plant?
  9. Sut mae dod i'r amgueddfa'n helpu'r fam?
  10. Oes mwy neu lai o rieni'n addysgu eu plant gartref?

Iaith

a) Cwblhewch y brawddegau gan ddefnyddio'r geiriau hyn:

  • safon
  • cyfres
  • y dafol
  • rhwygo
  • cynyddu
  • ystod oedran
  • ymgyrch
  • yn gyfangwbl
  1. Roedd y rhieni wedi trefnu .......... i geisio achub ysgol y pentref.
  2. Edrychais i ar .......... o raglenni ar y teledu.
  3. Ar ôl rhoi'r holl ddaleuon yn .......... teimlais fy mod wedi dewis yn iawn.
  4. Mae nifer y plant sy'n derbyn eu haddysg gartref yn ..........
  5. Dw i ddim yn cytuno â nhw ..........
  6. Mae .......... addysg yn gostwng yn ôl rhai.
  7. Oes darn arall o bapur 'da chi? Mae hwn wedi ..........
  8. Roedd plant o .......... 3 - 11 yn yr ysgol.

b) Sylwch ar y pâr: manteision / anfanteision. Nawr gwnewch barau tebyg o'r geiriau a ganlyn:

ffurfiol
ansefydlog
ufudd
gweddus
ystwyth
anwybodus
gweledig
ansicr

c) Esboniwch ystyr y canlynol yn Gymraeg:

  • ymgyrch
  • ymchwil
  • ffurfiol
  • cynyddu
  • cyfres

Tafodaith

Gwrandewch ar Kate Evans yn siarad. Ydy hi'n hawdd lleoli ei thafodiaith ai peidio? Pam?

Trafod

a) Pam, yn eich barn chi, mae Lowri Butterworth yn defnyddio rhai geiriau Saesneg - machine, cogs a wheels - wrth ddisgrifio'r hyn mae hi wedi bod yn ei wneud yn yr amgueddfa?

  1. Dydy hi ddim yn gwybod y geiriau Cymraeg.
  2. Mae'r gweithgaredd wedi ei gyflwyno iddi yn Saesneg.
  3. Saesneg yw iaith y cartref.
  4. Rheswm arall.

b) Mewn grwpiau bach, trafodwch a gwnewch restr o fanteision ac anfanteision addysgu plant gartref.

c) Beth yw manteision ac anfanteision addysg arferol?

Ymadroddion

  • fwyfwy
  • ar fy mhen fy hun

Ysgrifennu

  1. Man ddiddorol yr ymwelais â hi.
  2. Sut gallwn wella ein hysgolion?
  3. Mae addysg yn paratoi at fywyd. Gwir neu anwir?

Trawsgrifiad

Plant sy'n cael eu dysgu yn y cartre yw'r pwnc heno. Fe fyddwn ni'n datgelu ymchwil newydd sy'n dangos bod fwyfwy o rieni yn penderfynu dysgu'u plant yn y cartre'. Ond, yn ôl Undebau Athrawon, yr ysgol yw'r lle gorau i ddysgu plant:

O fewn y system addysg, mae 'na fodd monitro safon addysg mae plant yn gael o fewn yr ysgolion ond pwy sy'n mynd i fonitro safon yr addysg maen nhw'n cael gartre?

Fe fyddwn ni'n ymweld â chartre yn Sir Gâr, lle mae pedwar o blant yn cael eu dysgu gan eu mam. Dyma'r dewis gore iddyn nhw, yn ôl y teulu.

Fe benderfynes i falle mai dyma y ffordd mlaen i ni. Fydde fe'n ffordd fydde'n siwto ni fel teulu. Rhoi popeth ar y dafol, dw i'n credu mai manteision sydd fwy nag anfanteision yn beth y'n ni'n neud.

Criw o blant sy'n cael eu dysgu yn y cartre gan eu rhieni yn ymweld â'r Amgueddfa Wlân Genedlaethol yn Nhrefach, Felindre. Maen nhw yno fel rhan o ymgyrch ddarlunio y 'Big Draw'. Swyddog Addysg yr amgueddfa yw Kate Evans.

Heddi 'da ni 'di bod efo gweithwyr sy'n dysgu plant o gartre - the home learners. Ni 'di bod yn darlunio fel Matisse yn ei henaint yn trio defnyddio papur, rhwygo papur a torri papur i dadansoddi a dehongli y peirianne sy 'da ni yn yr amgueddfa.

Mae Lowri Butterworth yn 9 oed a'n dod o Beniel, ger Caerfyrddin. Mae hi yma gyda'i thri brawd. Fe ofynnais i iddi beth oedd hi 'di bod yn neud yn ystod y bore.

Llun o machine, ife, gyda lot o cogs a wheels ynddo fe a oedd e gyda tri chain.

Oedd e'n lliwgar?

Oedd.

Pa liwie oedd ynddo fe?

Glas a pinc a gwyn a brown.

Ti na'th e ar ben dy hunan?

Na.

Pwy oedd yn helpu ti de?

Eira, Rowine, Daniel, Tom, Huw.

So, o'dd sawl un ohonoch chi gyd yn ei neud e?

O'dd.

O'dd e'n hwyl gweitho fel'na?

O'dd.

Yn ôl Kate Evans o'r Amgueddfa mae gyda nhw berthynas dda gyda theuluoedd sy'n dysgu plant yn y cartre.

'Da ni 'di bod yn trio gweithio yn fwyfwy efo'r grŵp yma ac erbyn hyn 'da ni'n cynnig cyfres o sesiyne trwy'r flwyddyn.

Ydy chi'n gweld gwahanieth yn ymddygiad y plant o gwbwl, p'un ai ydy nhw'n cael eu dysgu o adre neu ydyn nhw mewn, wel, yn cael eu haddysg yn fwy ffurfiol falle, mewn ysgolion?

Na, i radde heleth mae'r hyder fan'na. Fel chi'n gweld, plant yw plant. Mae ... mae'r ystod oedran 'ma wedyn. Mae lot o deuluoedd 'da ni fan hyn, felly mae'r plant yn syth, unwaith maen nhw'n dod i'r amgueddfa, yn teimlo'n gartrefol fan hyn. 'Da ni yn cael perthynas eitha personol 'da'r plant sy'n dod fan hyn, bo ni'n nabod nhw a'u rhieni hefyd a ni'n nabod eu cefndir nhw. Mae'r plant fan hyn, maen nhw'n llawn hyder, maen nhw'n llawn hwyl a maen nhw'n gyfarwydd â delio efo oedolion hefyd a mae hwnna'n ddiddorol i'w weld.

Mae Siriol Butterworth wedi dod â'i phedwar plentyn i Drefach, Felindre ar gyfer gweithgaredde'r bore.

Mae diwrnod fel heddi yn werthfawr iawn oherwydd pan y'ch chi'n gweithio ar ben y'ch hunan, wrth reswm, mae 'na rai manne gwan gyda chi yn y'ch gwybodaeth y'ch hunan a mae celf ddim yn un o mhyncia cryf, felly mae'r plant yn gallu dod - maen nhw'n gallu cymryd mantais o brofiad pobol erill ac o ... gallu rhywun fel Kate mewn celf ac falle cymryd rhan mewn digwyddiad sydd yn ddigwyddiad cenedlaethol. Falle 'sa chi gartre ar ben y'ch hunan fydde chi ddim yn rhan ohono fe.

Yn ôl Kate Evans, mae nifer y rhieni sy'n dewis dysgu'u plant yn cynyddu. Mae hi'n teimlo ei bod hi'n haws iddyn nhw wneud hynny y dyddia hyn.

Yn y gorffennol 'da ni wedi cydlunio'r holl brosiecte efo dysgwyr o gartre trwy Gaerdydd a erbyn hyn mae 'da ni beutu 175 o deuluoedd sy'n cynrychioli ryw 500 o bobol yn gyfan gwbwl gan gynnwys y plant wrth gwrs, ar ein llyfre ni, ar ein rhestr mailo ni.

Noder

Nod y trawsgrifiadau hyn yw adlewyrchu'n gywir yr hyn a glywir ar y crynoddisgiau. Nid yw siaradwyr y Gymraeg, yn fwy na siaradwyr unrhyw iaith arall, yn llefaru'n ramadegol gywir bob amser ac oherwydd hynny ceir enghreifftiau o iaith wallus. Gall y rhain fod yn adnodd gwerthfawr i'r tiwtor ac yn brawf i'r dysgwr nad yw gwneud camgymeriadau yn rhwystr bob amser i gyfathrebu effeithiol. Ar dro, gellir tynnu sylw at wall a manteisio arno i danlinellu ambell bwynt. Greddf y tiwtor a'i adnabyddiaeth o'i ddosbarth fydd yn penderfynu pryd y dylid gwneud hyn ai peidio.


Gwefannau Dysgu Cymraeg

Cerys Matthews yn darllen

Big Welsh Challenge

Cwrs Cymraeg rhyngweithiol arlein mewn fformat opera sebon sy'n addas ar gyfer dechreuwyr.

Cymeriad menyw gyda gwallt melyn

Catchphrase

Ystod eang o adnoddau ar gyfer pob lefel o ddysgu Cymraeg.

Colin & Cumberland

Colin & Cumberland

Delfrydol ar gyfer dechreuwyr pur yr iaith Gymraeg.

Logo Ieithgi

Ieithgi

Rhugl yn y Gymraeg? Rho gynnig ar her gloywi iaith Ieithgi!

Logo Radio Cymru

Pigion Radio Cymru

Podlediad o uchafbwyntiau wythnosol ar gyfer dysgwyr Cymraeg.

RAW Cymru

Llwyth o gemau geiriau i wella dy sgiliau darllen ac ysgrifennu.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.