In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash installed. Visit BBC Webwise for full instructions
Last updated: 13 October 2010
Huw Llywelyn Davies yn sylwebu ar y gêm rhwng Cymry a Seland Newydd yn 2006
Geirfa
- ystlys
- yn dal â'r
- meddiant
- gosod
- wythwr
- gwthio
- grymus
- gwrthymosod
- yr ochr dywyll
- llinell ddeg
- Y Crysau Duon
- anghyfreithlon
- bwlch enfawr
- camu
- gwendid
- safle
- ryc(-iau)
- llinell tafliad
- ail reng
- cic gosb
- disgyblaeth
- cystadlu
- tiriogaeth
- ar y blaen
- trosiad
Iaith
a) Gwrandewch ar y sylwebaeth a phenderfynu ai gwrywaidd neu fenywaidd yw'r enwau hyn:
- tîm
- cic
- llinell
- tacl
- ystlys
- ochr
- cae
- bwlch
b) Sonnir am sgrym "bymtheg metr i mewn o'r ystlys bellaf". Cofiwch fod angen treiglo dechrau cymal adferfol o'r fath:
- Roedd e'n byw .......... o'r capel (100 llath)
- Mae'r stadiwm .......... o'r dref. (2 filltir)
- Gwelais i Tom .......... yn ôl. (3 mis)
- Dw i wedi bod yno .......... (100oedd o weithiau)
- Chwaraeon nhw'r gêm .......... (dechrau'r flwyddyn)
- Pasiodd e'r arholiad .......... (rhywsut neu'i gilydd)
c) Ydych chi'n cofio'r termau mae'r sylwebwyr yn eu defnyddio ar gyfer y canlynol? Os nad ydych yn gallu cofio pob un, gwrandewch yn ofalus ar y sylwebaeth unwaith eto a nodwch y rhai aeth yn angof:
- possession
- counter-attack
- the blind side
- a throw
- second row forward
- a number eight
- a conversion
- a penalty
- the 10 metre line
- the touchline
Tafodaith
Penderfynwch ai o'r de ynteu o'r gogledd mae'r tri sy'n siarad yn dod. Pa dystiolaeth sydd gennych?
Trafod
- "Mae rygbi yn cael gormod o sylw yng Nghymru". Trafodwch.
- Pryd buoch chi'n gwylio unrhyw fath o chwaraeon ddiwethaf? Trafodwch.
- Gwnewch restr o'r 15 safle mewn tîm rygbi.
- Nodwch bob term technegol yn ymwneud â'r gêm a glywsoch chi yn y sylwebaeth.
Ymadroddion
- Y Crysau Duon
- gwartheg duon Cymreig
- mwyar duon
- pobl ifainc
- camau breision
- Cymru - gwlad y menyg gwynion
Ysgrifennu
- Fy hoff gêm.
- "Gêm a gofiaf am byth".
- Mae gormod o chwaraeon ar y teledu.
Trawsgrifiad
I'ch atgoffa chi, pymtheg metr mewn o'r ystlys bella o'r sgrym 'na wedi troi ond Cymru yn dal â'r meddiant. Richie McCord, ydy e 'di hennill hi? Na, Dwayne Peel sydd â hi. Peel te, i Jones, Jones â phas hir i Shane Williams. Mae'n cael ei ddal gan Luke McAllister a mae 'di gosod hi nôl yn berffeth. Y tacl gan Sualo, yr wythwr, gwthio grymus gan y Cryse Duon. Maen nhw 'di cael y meddiant hefyd ac yn gwrth-ymosod ar yr ochor dywyll fan hyn, i Sivivatu. Lan ar linell dde Seland Newydd, pymtheg metr, deg metr mewn o'r ystlys agosa. Byron Kelleher .... Peel yno yn y man, Kelleher yn codi ar ei draed, y dacl gan Shane Williams. Y Cryse Duon yn aros - p'un a o'n nhw 'di cadw'u gafael ar honna'n anghyfreithlon. Conrad Smith â'r bêl i Carter .... Carter yn gweld bod yna fwlch enfawr .... yn camu mae Richie Gere ond yn cyrraedd gynta mae Kevin Morgan. Bwysig fod y gic yma'n cyrraedd yr ystlys a mae'i yn .... ar linell ddeg Cymru.
Yn amlwg, falle, Seland Newydd wedi gweld gwendid yn amddiffyn Cymru achos nag oedd y gic wedi cael ei hanelu at yr ystlys ond lawr genol y cae. Kevin Morgan mas o'r safle. Shane Williams wedi cael ei ddal yn genol y cae. Rhaid ail-drefnu os oes rhywun yn cael eu dal yn y rycia 'ma, yn enwedig tu ôl i'r sgrym.
Oedd hi'n gic ddiddorol cofia. Oedd hi'n ddiddorol achos oedd hi'n gic dda hefyd. Oedd e 'di gweld y bwlch ac a'th amdano fe a whare teg, ti'n gwbod. Maen nhw'n dodi'r bêl nawr mewn i'r llinell.
Tafliad Anton Oliver, y bachwr ar linell ddeg y Cymru ... a Seland Newydd, yr ail reng, Keith Robinson dwi'n credu, yn cael ei dynnu i'r llawr yn anghyfreithlon a chic gosb i Seland Newydd.
Wel, mae'n mynd i fynd i fod yn anodd nag yw e drwy gydol y prynhawn - tîm gore'r byd. Mae raid, mae disgyblaeth yn mynd i fod yn holl bwysig a dyma ni, Robinson ac Allie Williams yn cystadlu am y bêl a 'da ni'n tynnu nhw lawr. Tan maen nhw yn yr awyr 'da ni'n gwbod y rheolau. Smo ni'n moyn rhoi cyfleoedd hawdd fel hyn i Seland Newydd i gael tiriogeth a falle pwyntia.
Ond i fynd nôl i'r gic 'na yn gynt gan Carter i'r cae agored. Oedd e'n neud siwr bod Cymru'n dodi'r bêl dros yr ystlys i gael ennill y llinell a be sy'n dod o fan'ny? Cic gosb. Mae Seland Newydd yn wastad yn meddwl ar eu traed a chael pethech bach syml fel yna.
Y Cryse Duon ar y blaen o saith pwynt i ddim. Cais Luke McAllister, trosiad Daniel Carter a Charter fan hyn â chyfle i ychwanegu triphwynt arall. Pymtheg metr mewn o'r ystlys bellaf. Ryw dri deg saith metr o'r pyst. Y droed chwith 'na yn fetronomig ac eto mae 'di llwyddo. Seland Newydd ar y blaen o ddeg pwynt i ddim.
Noder
Nod y trawsgrifiadau hyn yw adlewyrchu'n gywir yr hyn a glywir ar y crynoddisgiau. Nid yw siaradwyr y Gymraeg, yn fwy na siaradwyr unrhyw iaith arall, yn llefaru'n ramadegol gywir bob amser ac oherwydd hynny ceir enghreifftiau o iaith wallus. Gall y rhain fod yn adnodd gwerthfawr i'r tiwtor ac yn brawf i'r dysgwr nad yw gwneud camgymeriadau yn rhwystr bob amser i gyfathrebu effeithiol. Ar dro, gellir tynnu sylw at wall a manteisio arno i danlinellu ambell bwynt. Greddf y tiwtor a'i adnabyddiaeth o'i ddosbarth fydd yn penderfynu pryd y dylid gwneud hyn ai peidio.
Gwefannau Dysgu Cymraeg
Big Welsh Challenge
Cwrs Cymraeg rhyngweithiol arlein mewn fformat opera sebon sy'n addas ar gyfer dechreuwyr.






