In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash installed. Visit BBC Webwise for full instructions
Last updated: 12 October 2010
Y bardd, Mari George yn trafod ei bywyd a'i hysgrifennu
Geirfa
- cyhoeddi
- troi a'i ben i lawr
- barddoni
- annog
- amgylchiadau
- adlewyrchu
- meddwi
- anaeddfed
- addas
- safbwynt
- dinesig
- agwedd
- dyfnder
- cyfleu
- magwraeth
Gwrando a deall
- Ers pryd mae Mari George yn barddoni?
- Pam roedd hi'n ystyried ei hun yn lwcus yn y brifysgol?
- Beth oedd wedi ei sbarduno i ddal ati i farddoni?
- Am beth mae pobl yn tueddu i ysgrifennu?
- Sut mae hi'n teimlo nawr wrth ddarllen ei cherddi cynnar?
- Ble cafodd Mari George ei magu?
- Sut roedd hi'n wahanol i'r bobl o'i chwmpas?
- Beth sy'n "unigryw" yn ei gwaith?
- Ym mha fodd mae ei byd wedi newid yn sydyn?
Iaith
a) Cwblhewch y ddwy golofn isod trwy ychwanegu enw neu ansoddair yn ôl y galw.
| Enw | Ansoddair |
| dinas | |
| trefol | |
| gwlad | |
| plwyfol | |
| byd | |
| cyfandirol | |
| rhanbarth |
b) Gwir neu Anwir?
- 'Noson Tân Gwyllt' yw teitl cyfrol newydd Mari George.
- Dechreuodd hi ysgrifennu yn ei harddegau.
- Roedd ennill mewn eisteddfodau yn ei symbylu.
- Doedd hi ddim yn yfed pan oedd yn y coleg.
- Cafodd ei magu mewn stryd Gymraeg ei hiaith.
- Mae Mari George yn briod ers dros flwyddyn.
- Mae hi wedi ysgrifennu llawer yn ddiweddar.
- Mae magu plentyn wedi newid ei hagwedd at fywyd.
c) Defnyddiwch y geiriau a ganlyn i gwblhau'r brawddegau:
- bardd
- awduron
- dramodydd
- beirniad
- hanesydd
- nofelydd
- cofiannydd
- newyddiadurwr
- Edward Gibbon (1737-94) oedd yr .......... a sgrifennodd 'The Decline and Fall of the Roman Empire'.
- Roedd Saunders Lewis ac Islwyn Ffowc Elis yn .......... tra gwahanol.
- .......... oedd Charles Dickens.
- Dyma'r gerdd orau yn y gystadleuaeth, yn ôl y ..........
- James Boswell oedd .......... Dr Johnson.
- .......... a ddeuai o Stratford-upon-Avon oedd William Shakespeare.
- Roedd Tom yn .......... a sgrifennai'n gyson i'r Times a'r Guardian.
- Mae Edward Lear yn gallu bod yn .......... doniol iawn weithiau.
Tafodaith
"Iaith niwtral ddeheuol ei naws". Ydy hyn yn ddisgrifiad teg o iaith y siaradwr yn eich barn chi?
Trafod
- Beth rydych chi'n hoffi ei ddarllen?
- Tasai raid ichi ddewis un llyfr / awdur, beth / pwy fyddai? Pam?
- Pa fath o lyfr hoffech chi ei sgrifennu?
Ymadroddion
- erbyn hyn
- trwy gyfrwng
- lot fawr o
- troi â'i ben i lawr
- eithriadol o dda
- tueddu i
Ysgrifennu
- Pa ddigwyddiad yn eich bywyd sydd wedi newid eich byd fwyaf?
- Pan oeddwn yn ifanc...
- Yr hen a ŵyr, yr ifanc a dybia. Cytuno?
Trawsgrifiad
Noder
Rwan 'ta, 'da ni'n troi at 'Meddwl y Byd'. Mi gyhoeddodd Mari George o Ben-y-bont ar Ogwr ei chyfrol 'Y nos yn dal fy ngwallt' yn eitha diweddar ond mae ... mae'r nos yn dod â phrofiadau gwahanol iddi erbyn hyn. Mae ei byd hi bellach wedi'i droi â'i ben i lawr a dyma hi yn esbonio sut y bu hynny.
Wel, dw i'n barddoni ers bo fi'n ysgol. Dechreuis i sgrifennu pan o'n i, siwr o fod, tua pymtheg, un ar bymtheg, a wedyn oedd y diddordeb yn dal yna pan es i i'r Brifysgol a ges i ddarlithwyr eithriadol o dda fel Peredur Lynch a Hywel Teifi. Wnaethon nhw'n annog i i barhau i ysgrifennu a wedyn dechreuais i gystadlu yn yr Urdd a o'dd, wrth gwrs, oedd ennill cwpwl o wobre yn yr Urdd wedyn yn bendant yn neud i fi gario mlaen i ysgrifennu.
W i'n credu bod 'ngwaith i wedi newid dros y blynyddoedd. Mae rywun yn tueddu i sgrifennu am eu hamgylchiade nhw ar y pryd a mae pethe 'di datblygu 'da fi, dibynnu beth o'n i'n neud ar y pryd. Falle oedd lot o gerddi fel myfyriwr yn adlewyrchu profiade o feddwi, o gwrdd â ffrindie, o gael cariadon a phethe, a w i'n edrych nôl ar rheini nawr a maen nhw i weld yn anaeddfed iawn erbyn hyn ond falle bod nhw'n addas ar gyfer y cyfnod. A wedyn, w i'n tueddu i sgwennu falle o safbwynt person sy'n byw mewn tre'. Ges i 'ngeni ym Mhen-y-bont a w i'n timlo, y ffaith, nid gymaint bo fi'n berson dinesig ond y ffaith, fi 'di byw 'mywyd i drwy gyfrwng y Gymraeg erioed a doedd dim gymint â hynny o bobol ym Mhen-y-bont yn siarad Cymraeg, felly mae'n agwedd i tuag at yr iaith a tuag at Gymru falle, yn wahanol hefyd. W i 'di bod i ysgol Gymraeg ond roedd y bobol ar yr un stryd â fi ddim yn siarad Cymraeg a mae tipyn o hwnnw yn dod drosodd, falle, yn y cerddi. O'n i'n teimlo mewn ffordd yn wahanol iawn iawn yn tyfu lan.
Wel, ers i'r gyfrol gael ei chyhoeddi mae mywyd i 'di newid dipyn. Mewn rhyw flwyddyn a hanner dw i 'di priodi, 'di symud tŷ, a wedi cael babi. Felly, bach o sioc i'r system. Felly does dim lot fawr o ysgrifennu 'di cael ei neud yn y cyfnod 'na. Mae fe'n agor ryw ddrws sydd, chi'm yn gwbod e 'na, mewn ffordd. Mae 'nheimlade 'di newid yn llwyr. Falle o'n i'n edrych ar bethe mewn ffordd du a gwyn o'r blaen ac erbyn hyn dw i'n gweld lot mwy o ddyfnder ym mhethe. Mae rhywun yn meddwl am ei fagwreth ei hunan hyd yn oed a cwestiynu popeth wrth bo chi'n trio magu'ch plentyn y'ch hunan.
Noder
Nod y trawsgrifiadau hyn yw adlewyrchu'n gywir yr hyn a glywir ar y crynoddisgiau. Nid yw siaradwyr y Gymraeg, yn fwy na siaradwyr unrhyw iaith arall, yn llefaru'n ramadegol gywir bob amser ac oherwydd hynny ceir enghreifftiau o iaith wallus. Gall y rhain fod yn adnodd gwerthfawr i'r tiwtor ac yn brawf i'r dysgwr nad yw gwneud camgymeriadau yn rhwystr bob amser i gyfathrebu effeithiol. Ar dro, gellir tynnu sylw at wall a manteisio arno i danlinellu ambell bwynt. Greddf y tiwtor a'i adnabyddiaeth o'i ddosbarth fydd yn penderfynu pryd y dylid gwneud hyn ai peidio.
Gwefannau Dysgu Cymraeg
Big Welsh Challenge
Cwrs Cymraeg rhyngweithiol arlein mewn fformat opera sebon sy'n addas ar gyfer dechreuwyr.






