In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash installed. Visit BBC Webwise for full instructions
Last updated: 12 October 2010
Meredydd Evans yn canu cân ychen draddodiadol o Forgannwg
Geirfa
- marsiandiaeth
- porthmon (porthmyn)
- cwyd
- tiwnio
- llwyn
- brefu
- rhodio
Gwrando a deall
Mae deall iaith caneuon yn gallu bod yn anodd. Fodd bynnag, y rhai hawsaf eu deall yw caneuon gwerin digyfeiliant. Cyn edrych ar y geiriau ysgrifenedig, gwrandewch ar y gân a cheisiwch ateb y cwestiynau yma:
- Sut mae'r tywydd ar ddechrau'r gân?
- Beth mae'r bardd yn gallu ei glywed?
- Beth mae rhaid iddo ei wneud am un o'r gloch?
- Pryd mae'r da am gael eu godro?
- Pa sŵn mae'r da yn ei wneud?
- Pa dymor yw hi yn y pennill olaf?
- Beth mae'r bachgen am ei wneud?
Iaith
a) Yn y gân mae sôn am y da yn brefu a'r gwcw'n tiwnio. Pa sŵn mae'r anifeiliaid hyn yn ei wneud? Pa 3 sy'n brefu?
| tarw | gwichian |
| dafad | mewian |
| ceffyl | brefu |
| mochyn | cyfarth |
| buwch | clwcian |
| llygoden | brefu |
| ci | rhuo |
| cath | brefu |
| gafr | gweryrru |
| iâr | rhochian |
b) Sylwch ar y llinell, 'Fe ddaeth y da i'w godro gan frefu dros y lle'.
Rydyn ni'n defnyddio 'gan' i gyfeirio at rywbeth sy'n cyd-ddigwydd â'r ferf yn y prif gymal. Cysylltwch y rhain:
| Cerddodd Dewi i'r ysgol. | Canodd yn uchel. |
| Neidiodd y plant i mewn i'r llyn. | Gweiddon nhw'n gyffrous. |
| Aeth Mari i'r gwely. | Roedd hi'n crio yn ei thymer. |
| Yfodd y dyn ei de. | Roedd e'n darllen y papur. |
| Mae Elwyn yn cerdded i'r ysgol. | Mae e'n chwibanu. |
| Aethon nhw heibio. | Roedden nhw'n gweiddi ar y plant eraill. |
c) Mae'r ymadroddion canlynol i gyd yn gywir. Dysgwch nhw! Ond beth sy'n rhyfedd amdanyn nhw?:
- noson braf
- nos da
- wythnos diwethaf
- am byth
ch) Mae rhai amrywiadau rhwng de a gogledd yn yr eirfa. Pa eiriau sy'n cyfateb yn y ddwy golofn?
| De | Gogledd |
| cadno | mai |
| cer | dwad |
| dere | isio |
| hogyn | llwynog |
| gyda | tyrd |
| mo'yn | dos |
| dod | efo |
| taw | bachgen |
Tafodaith
Pa nodweddion sy'n awgrymu bod y gân yn perthyn i Forgannwg? Ar ôl gwneud yr ymarfer uchod, oes un gair rydych yn synnu ei glywed yn y fersiwn hwn o gofio mai cân o dde Cymru yw hon?
O! Mari, Mari cwyd, mae heddiw'n fore mwyn, Mae'r adar bach yn tiwnio a'r gwcw yn y llwyn. Hw mla'n! Hw mla'n! Hw!
O! Mari lân dy foch, mae nawr yn un o'r gloch, Mae'n bryd i mi gael cinio ac amser bwydo'r moch. Hw mla'n! Hw mla'n! Hw!
O! Mari tyrd sha thre, mae wedi amser te, Fe ddaeth y da i'w godro gan frefu dros y lle. Hw mla'n! Hw mla'n! Hw!
O! Mari, daeth yr haf, mae heno'n noson braf, Addoi di ma's i rodio oddi yma i Ffynnon Taf? Hw mla'n! Hw mla'n! Hw!
Ymadroddion
- mae'n bryd i mi
- mae'n hen bryd iddo fo
- mae'n well i ni
Ysgrifennu
- Fy hoff gân.
- Cymru - Gwlad y gân? Trafodwch.
Trawsgrifiad
Dyma i chi olwg ar wartheg wrth eu gwaith yn hytrach nag fel marsiandïaeth y porthmon.
O! Mari, Mari cwyd, mae heddiw'n fore mwyn, Mae'r adar bach yn tiwnio a'r gwcw yn y llwyn. Hw mla'n! Hw mla'n! Hw!
O! Mari lân dy foch, mae nawr yn un o'r gloch, Mae'n bryd i mi gael cinio ac amser bwydo'r moch. Hw mla'n! Hw mla'n! Hw!
O! Mari tyrd sha thre, mae wedi amser te, Fe ddaeth y da i'w godro gan frefu dros y lle. Hw mla'n! Hw mla'n! Hw!
O! Mari, daeth yr haf, mae heno'n noson braf, Addoi di ma's i rodio oddi yma i Ffynnon Taf? Hw mla'n! Hw mla'n! Hw!
Noder
Nod y trawsgrifiadau hyn yw adlewyrchu'n gywir yr hyn a glywir ar y crynoddisgiau. Nid yw siaradwyr y Gymraeg, yn fwy na siaradwyr unrhyw iaith arall, yn llefaru'n ramadegol gywir bob amser ac oherwydd hynny ceir enghreifftiau o iaith wallus. Gall y rhain fod yn adnodd gwerthfawr i'r tiwtor ac yn brawf i'r dysgwr nad yw gwneud camgymeriadau yn rhwystr bob amser i gyfathrebu effeithiol. Ar dro, gellir tynnu sylw at wall a manteisio arno i danlinellu ambell bwynt. Greddf y tiwtor a'i adnabyddiaeth o'i ddosbarth fydd yn penderfynu pryd y dylid gwneud hyn ai peidio.
Gwefannau Dysgu Cymraeg
Big Welsh Challenge
Cwrs Cymraeg rhyngweithiol arlein mewn fformat opera sebon sy'n addas ar gyfer dechreuwyr.






