Darn o bregeth

In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash installed. Visit BBC Webwise for full instructions

Last updated: 12 October 2010

Dyma enghraifft o arddull hamddenol pregethwr yn trin ei destun wrth ei bwysau. Mae'r darn yn cynnwys nifer o dermau crefyddol a diwinyddol

Geirfa

  • tyrfa
  • mentyll
  • palmwydd
  • bendigedig
  • goruchaf
  • marchogaeth
  • march
  • concwerwr
  • milwrol
  • cyflawni'r broffwydoliaeth
  • brenhiniaeth
  • gwyrthiau
  • dwyfol
  • dynol
  • trugaredd
  • maddeuant
  • tosturiol
  • torcalon
  • balm o ryfedd rin
  • cofnod
  • nis mynnech
  • anghyfanedd
  • cadernid
  • gwendid
  • cyfnewidwyr
  • halogi
  • sanctaidd
  • pallu

Gwrando a deall

  1. At ba ddinas mae'r pregethwr yn cyfeirio?
  2. Beth fydd thema'r bregeth?
  3. Sut roedd Iesu'n wahanol i goncwerwr milwrol?
  4. Enwch ddwy o'r ffenestri mae'r pregethwr yn eu nodi?
  5. Beth welwn ni yn nagrau Iesu, yn ôl y pregethwr?
  6. Yn ôl y pregethwr, ydy Iesu'n wylo am ei fod yn wan?
  7. Beth wnaeth Iesu yn y Deml?
  8. Pryd mae dagrau'n llifo, ym marn y pregethwr?

Iaith

a) Sicrhewch eich bod yn gwybod ystyr y geiriau hyn. Wedyn, gwrandewch ar y darn a phan glywch chi'r geiriau, ticiwch nhw.

  • goruchaf
  • brenhiniaeth
  • dwyfol
  • trugaredd
  • maddeuant
  • tosturiol
  • balm o ryfedd rin
  • anghyfanedd
  • halogi
  • sanctaidd

b) Datgelwch y gair:

  • YFDWLO - __________
  • LONDY - __________
  • FYRAT - __________
  • CERDINAD - __________
  • MOLIRWL - __________

c) Pa eiriau o blith y rhain fyddech chi'n eu defnyddio i ddisgrifio arddull y pregethwr:

  • cyffrous
  • hamddenol
  • ysgafn
  • dwys
  • o ddifrif
  • trist
  • pwyllog
  • brwd

Tafodaith

Ym mha ffordd mae iaith y pregethwr yn wahanol i iaith bob dydd. Beth yw prif nodweddion y cywair (register) hwn? Pa gyweiriau eraill gallwch chi feddwl amdanynt?

Trafod

  1. Adroddwch unrhyw stori o'r Beibl rydych yn ei gwybod i'ch partner.
  2. Beth yw'r rhesymau bod crefydd ar drai? Trafodwch.
  3. Mae llawer o eglwysi a chapeli gwag yn ein cymunedau. Beth ddylen ni ei wneud â nhw? Lluniwch restr o awgrymiadau.
  4. Ydy hi'n dderbyniol i ddyn wylo? Trafodwch.
  5. Ydy hwn yn ddarlun cywir o'r Cymro cyffredin heddiw yn eich barn chi?:

Y Cristion Pedair Olwyn Mewn pram aeth i'w fedyddio Pan briododd cafodd limo Ac y tro nesa' gwelwn Dai Bydd eisiau hers i'w gario.

Ymadroddion

Mae'r pregethwr yn sôn am "y galon a fu ar dorri". Edrychwch ar yr ymadroddion hyn sy'n ymwneud ag amser:

  • Mae'r trên ar fynd.
  • Mae'r trên ar fin mynd.
  • Mae'r trên newydd fynd.
  • Mae'r trên wedi hen fynd.

Ysgrifennu

  1. 'Y tro diwethaf es i i gapel / eglwys'.
  2. 'Eglwysi / capeli ein hardal ni'.
  3. Priodi - capel / eglwys / swyddfa gofrestru / gwesty / unrhyw le arall?

Trawsgrifiad

"Pan welodd Iesu'r ddinas, wylodd drosti" a dyna yw ein thema ni y bore 'ma - dagrau'r Iesu. Y dyrfa yn ei gyfarch, yn taenu eu mentyll a'r palmwydd ar y ffordd ac yn ei gyfarch "Iesu", yn ei gyfarch fel Brenin: "Bendigedig yw yr hwn sydd yn dyfod yn enw'r Arglwydd. Hosanna yn y goruchaf."

Brenin, ie, ond nid dyna'r Brenin yr oedd y genedl yn ei ddisgwyl. Brenin gwahanol iawn. Marchogaeth asyn wnaeth Iesu, nid march fel y concwerwr milwrol. Mae e' felly yn cyflawni'r broffwydoliaeth - proffwydoliaeth yr Hen Destament: "Ei Frenhiniaeth ef, nid yw o'r byd hwn." Brenhiniaeth cariad yw ei frenhiniaeth ef.

Pan welodd Iesu'r ddinas, dinas Jeriwsalem, wylodd drosti. Mae 'na nifer o wahanol ffenestri y gallwn ni edrych drwyddyn nhw er mwyn gweld Iesu. Ffenest ei eiriau, ffenest ei weithredoedd, ffenest ei wyrthia, ond i mi, y ffenest y gallwn ni weld Iesu yn gliriach nag unrhyw weld arall yw ei ddagre. Yn y dagre fe welwn y dwyfol a'r dynol - gweld ei drugaredd, ei faddeuant, y galon fawr dosturiol, yn gorlifo, y galon a fu ar dorri, yn torri. Llif torcalon y dwyfol yw dagrau'r Iesu. "Y balm o ryfedd rin a pheraidd win, dwyfol gariad."

Pan welodd Iesu'r ddinas, dinas Jeriwsalem, wylodd. Mewn cofnod arall fe gawn fod yr Iesu â'i galon ar dorri, yn llefain ac yn llefain dros y ddinas. "O, Jeriwsalem, Jeriwsalem, yr wyt yn lladd y proffwydi. Pa sawl gwaith y mynaswn gasglu dy blant ynghyd, y modd y casgla'r iâr eu chywion o dan ei hadenydd ac nis mynnech. Wele, eich tŷ a adewir i chwi yn anghyfannedd." Pan welodd Iesu y ddinas, wylodd drosti. Nid gwendid sy'n wylo yma. Mae gwendid yn barod i wylo unrhyw amser. Nid gwendid ond cadernid. Y cadarn sy'n wylo. Y gŵr a aeth i lawr o'r mynydd i'r Deml ac a yrrodd ymaith y gwerthwyr a chyfnewidwyr arian allan, y rhai oedd yn halogi'r sanctaidd. Y di-ofn a heriodd awdurdodau byd a chrefydd. Y di-ofn, y cadarn. Pan fydd cadernid yn wylo, dagre cry', costfawr, creulon, ydyn nhw. Pan fydd geiriau'n pallu oherwydd torcalon, mae dagre'n llifo. Y'n ni gyd yn gwybod rhywbeth am hynny o brofiad. "Pan welodd Iesu y ddinas, wylodd drosti."

Noder

Nod y trawsgrifiadau hyn yw adlewyrchu'n gywir yr hyn a glywir ar y crynoddisgiau. Nid yw siaradwyr y Gymraeg, yn fwy na siaradwyr unrhyw iaith arall, yn llefaru'n ramadegol gywir bob amser ac oherwydd hynny ceir enghreifftiau o iaith wallus. Gall y rhain fod yn adnodd gwerthfawr i'r tiwtor ac yn brawf i'r dysgwr nad yw gwneud camgymeriadau yn rhwystr bob amser i gyfathrebu effeithiol. Ar dro, gellir tynnu sylw at wall a manteisio arno i danlinellu ambell bwynt. Greddf y tiwtor a'i adnabyddiaeth o'i ddosbarth fydd yn penderfynu pryd y dylid gwneud hyn ai peidio.


Gwefannau Dysgu Cymraeg

Cerys Matthews yn darllen

Big Welsh Challenge

Cwrs Cymraeg rhyngweithiol arlein mewn fformat opera sebon sy'n addas ar gyfer dechreuwyr.

Cymeriad menyw gyda gwallt melyn

Catchphrase

Ystod eang o adnoddau ar gyfer pob lefel o ddysgu Cymraeg.

Colin & Cumberland

Colin & Cumberland

Delfrydol ar gyfer dechreuwyr pur yr iaith Gymraeg.

Logo Ieithgi

Ieithgi

Rhugl yn y Gymraeg? Rho gynnig ar her gloywi iaith Ieithgi!

Logo Radio Cymru

Pigion Radio Cymru

Podlediad o uchafbwyntiau wythnosol ar gyfer dysgwyr Cymraeg.

RAW Cymru

Llwyth o gemau geiriau i wella dy sgiliau darllen ac ysgrifennu.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.