In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash installed. Visit BBC Webwise for full instructions
Last updated: 12 October 2010
Enghraifft o ragolygon y tywydd ac adroddiad ffyrdd
Geirfa
- glaw mân
- cawod(-ydd)
- mwyn
- selsiws
- tymheredd
- gostwng
- diflannu
- nosi
- ffordd (ffyrdd)
- atgyweiriadau
- rhwystrau
- cyffordd
- lôn
Gwrando a deall
- Sut mae'r tywydd, yn ôl y bwletin?
- Sut roedd y tywydd cyn heddiw?
- Pa fath o law ddisgwylir yn ystod y prynhawn?
- Fydd y tywydd yn oer iawn?
- Ble bydd llawer o law dros nos?
- Pa fath o dywydd ddisgwylir yfory?
- Sut mae'r tywydd yn debygol o fod erbyn nos Wener?
- Beth ddigwyddodd ar ffordd A4107?
- Pam mae'r ffyrdd ar gau yng nghanol tref Aberhonddu?
- Pam bydd un lôn ar gau ar ffordd yn Wrecsam?
Iaith
a) Beth yw ffurf luosog yr enwau a ganlyn:
- ffordd
- lôn
- traffordd
- croesfan
- lori
- cwmwl
- gwynt
- storm
- awel
- cawod
- taran
b) Os mai south-west (S-W) yw 'de-orllewin', beth yw,
- S-E
- N
- N-W
- E
- S-W
- W
- N-E
- S
c) Lluniwch frawddegau am y twydd yn cynnwys y canlynol:
- disgwylir
- cafwyd
- lledu
- ysbeidiol
- trymion
- y tymheredd
- gostwng
- cyfnewidiol
ch) Oes angen defnyddio'r fannod (y, yr, 'r) yn y brawddegau hyn ai peidio? Ydy'r defnydd ohoni gywir? Cywirwch lle bo angen:
- Hwyliodd y llong i'r Iwerddon.
- Mae'n well gen i haf.
- Ydy Parch Tom Jones yn byw yma?
- Daliodd y gath y lygoden.
- Dw i'n hoffi cerdded ar lan y Tywi.
- Ydych chi'n nabod y dau ddyn?
- Chi biau rhain?
- Roedd e'n eistedd yn y haul.
Trafod
- Disgrifiwch y tywydd yn eich ardal chi a) heddiw b) yn ystod yr wythnos c) yfory.
- Disgrifiwch unrhyw broblemau trafnidiaeth sy'n blino trigolion eich ardal chi.
- Soniwch am eich atgofion am y tywydd yng nghyfnod eich plentyndod.
Ymadroddion
- glaw mân
- arllwys y glaw
- tywallt y glaw
- hindda neu ddrycin
Ysgrifennu
- Cadwch record ddyddiol o'r tywydd yn ystod yr wythnos.
- Ysgrifennwch lythyr at eich cyngor lleol yn cwyno am broblem ar y ffyrdd yn eich ardal.
- Gyrru.
- Tywydd Cymru ddoe a heddiw.
Trawsgrifiad
Wel, ar ôl sawl diwrnod sych ac eitha braf, digon diflas fydd hi heddiw, gen i ofn, yn gymylog a gwlyb gyda hen law mân bore 'ma, fydd yn troi yn gawodydd trymach yn ystod y pnawn, yn enwedig yn y gogledd. Serch hynny, fydd hi'n fwyn, y tymheredd yn cyrraedd pymtheg gradd Celsius, sy'n 59 Fahrenheit, ond mae disgwyl noson oerach na fu hi neithiwr ac echnos - y tymheredd yn gostwng i ddwy radd Celsius.Y glaw, fodd bynnag, yn diflannu i gyfeiriad y de ddwyrain dros nos a mi fydd fory yn ddiwrnod sych a heulog ar y cyfan, heblaw am gawod neu ddwy yn y gogledd. Dydd Gwener hefyd yn sych rhan fwya'r dydd ond mae disgwyl glaw erbyn iddi nosi.
Y ffyrdd: ac yng Nghastell-nedd Port Talbot, mae'r A4107 wedi ailagor rhwng Tanygroes a Ffordd Talbot, yr A48, yn dilyn damwain rhwng lori a dau gar yn gynharach. Ym Mhowys mi fydd ffair Aberhonddu yn parhau tan ganol dydd, hynny'n golygu fydd y ffyrdd yng nghanol y dref ar gau tan hynny, ac yn Wrecsam mi fyddan nhw'n atgyweirio rhwystra ar yr A483, rhwng cyffordd 4 a 5 tan ddydd Gwener, neith olygu un lôn yn fan'no hefyd. Dyma'n rhif i: 08703 500 500.
Noder
Nod y trawsgrifiadau hyn yw adlewyrchu'n gywir yr hyn a glywir ar y crynoddisgiau. Nid yw siaradwyr y Gymraeg, yn fwy na siaradwyr unrhyw iaith arall, yn llefaru'n ramadegol gywir bob amser ac oherwydd hynny ceir enghreifftiau o iaith wallus. Gall y rhain fod yn adnodd gwerthfawr i'r tiwtor ac yn brawf i'r dysgwr nad yw gwneud camgymeriadau yn rhwystr bob amser i gyfathrebu effeithiol. Ar dro, gellir tynnu sylw at wall a manteisio arno i danlinellu ambell bwynt. Greddf y tiwtor a'i adnabyddiaeth o'i ddosbarth fydd yn penderfynu pryd y dylid gwneud hyn ai peidio.
Gwefannau Dysgu Cymraeg
Big Welsh Challenge
Cwrs Cymraeg rhyngweithiol arlein mewn fformat opera sebon sy'n addas ar gyfer dechreuwyr.






