In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash installed. Visit BBC Webwise for full instructions
Last updated: 12 October 2010
Hanes y Gymraeg yn cael ei siarad yn y gofod am y tro cyntaf
Geirfa
- iaith y nefoedd
- gofod
- amser maith
- hanesyddol
- llong ofod
- wedi hen arfer
- hanu
- dychwelyd
- mentro
- uchelgais
- cyfweliad
Gwrando a deall
- Beth ddigwyddodd am y tro cyntaf erioed yn 1998?
- Ers faint o amser roedd Dafydd Rhys Roberts wedi bod yn paratoi?
- Beth oedd enw'r llong ofod?
- Dyma'r tro cyntaf i long ofod adael y ddaear?
- Ble mae Dafydd Rhys Roberts yn byw?
- Beth yw ei gysylltiad â Chymru?
- At beth roedd e'n edrych ymlaen?
- Pwy ddychwelodd i'r gofod yn 1998?
- Pa ddwy record sydd ganddo?
- Faint oedd ei oed yn cyflawni'r ail gamp?
Iaith
a) Pa eiriau ac ymadroddion sy'n perthyn i'w gilydd yn y ddwy golofn yng nghyd-destun yr eitem hon?
| hanesyddol | ceisio |
| iaith y nefoedd | mynd yn ôl |
| y gofod | yn digwydd am y tro cyntaf |
| mentro | yn dod o |
| dychwelyd | awydd i gyflawni rhywbeth |
| hanu | Cymraeg |
| uchelgais | y tu hwnt i'r byd |
b) Rhowch 2 (dau / dwy) o flaen y geiriau hyn;
- iaith
- llong
- tro
- pennill
- awr
- gwlad
- gofodwr
c) Cywirwch y brawddegau hyn:
- Siarada o'r ofod, Ddafydd!
- Roedd y long ofod yn lawn.
- Roedd gweld y byd o'r long yn ryfedd.
- Fe'i alwyd yn Rhys.
- Roedd e'n siarad milltiroedd uwchben y ddaear.
- Roedden nhw'n gallu gweld sawl wlad.
Tafodaith
Yn eich barn chi, faint o Gymraeg mae Dafydd Rhys Roberts yn gallu ei siarad mewn gwirionedd. Ar ôl gwrando'n ofalus ar yr hyn mae'n ei ddweud, nodwch y rhesymau dros eich eich penderfyniad.
Trafod
- Tasech chi wedi cael y cyfle i siarad Cymraeg yn y gofod am y tro cyntaf, beth fasech chi wedi ei ddweud?
- Ydy teithio i'r gofod yn wastraff arian? Trafodwch.
- Ym mha sefyllfaoedd unigryw eraill y basai'n werth siarad Cymraeg? Rhestrwch eich awgrymiadau.
Ymadroddion
- ers amser maith
- wedi hen arfer
- iaith y nefoedd
Ysgrifennu
- Casglwch wybodaeth am John Glenn a lluniwch bortread ohono.
- Lluniwch bortread o unrhyw anturiaethwr (-wraig) rydych yn ei (h)edmygu.
Trawsgrifiad
Am y tro cyntaf erioed fe glywyd iaith y nefoedd yn y gofod . . .
Dwi wedi bod yn paratoi at y daith yma ers amser maith ac o'r diwedd mae o wedi dod . . .
Un o ddigwyddiade hanesyddol 1998 oedd taith y llong ofod Columbia. Nid y daith ei hunan - 'doedd llongau gofod wedi hen arfer crwydro i'r gofod am drip rwond y byd a dychwelyd yn ddiogel? Beth oedd yn arbennig am y daith arbennig yma oedd y criw, wel, un o'r criw beth bynnag. Roedd Dafydd Rhys Roberts yn byw yng Nghanada ond â theulu yn hannu o Gwm Rhymni, ac uchelgais Dafydd oedd bod y cynta i siarad Cymraeg o'r gofod. Wel, yn 1998, fe lwyddodd i neud hynny. A sôn am y gofod, fe ddychwelodd John Glenn yno ym 1998. Glenn oedd yr Americanwr cynta i'r gofod ac yn ystod y flwyddyn hon fe fentrodd yn ôl ar waetha'r ffaith ei fod yn 77 mlwydd oed, yr hyna 'rioed i adal y ddaear 'ma.
Noder
Nod y trawsgrifiadau hyn yw adlewyrchu'n gywir yr hyn a glywir ar y crynoddisgiau. Nid yw siaradwyr y Gymraeg, yn fwy na siaradwyr unrhyw iaith arall, yn llefaru'n ramadegol gywir bob amser ac oherwydd hynny ceir enghreifftiau o iaith wallus. Gall y rhain fod yn adnodd gwerthfawr i'r tiwtor ac yn brawf i'r dysgwr nad yw gwneud camgymeriadau yn rhwystr bob amser i gyfathrebu effeithiol. Ar dro, gellir tynnu sylw at wall a manteisio arno i danlinellu ambell bwynt. Greddf y tiwtor a'i adnabyddiaeth o'i ddosbarth fydd yn penderfynu pryd y dylid gwneud hyn ai peidio.
Gwefannau Dysgu Cymraeg
Big Welsh Challenge
Cwrs Cymraeg rhyngweithiol arlein mewn fformat opera sebon sy'n addas ar gyfer dechreuwyr.






