In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash installed. Visit BBC Webwise for full instructions
Last updated: 12 October 2010
John Hardy yn cofio rhai o ddigwyddiadau blwyddyn arbennig
Geirfa
- cynteddau
- arlywydd
- herio
- uchafbwyntiau
- mynd yn angof
- procio
- ymddiswyddo
- chwalu
Gwrando a deall
- Beth ddigwyddodd ym Mae Caerdydd?
- Pa wleidydd aeth i drafferth?
- Beth wnaeth David Beckham i dynnu sylw?
- Pa fath o siop newydd agorodd yng Nghaerdydd?
- Pwy oedd wedi sarhau'r Cymry?
- Pa wleidydd arall aeth i drafferth?
- Pa grŵp ganodd am Gymru?
- Pa ferch o America oedd yn y newyddion?
Iaith
a) Gan ddilyn y patrwm, cwrtais > anghwrtais, beth yw'r gair cyferbyniol i'r canlynol? Lluniwch frawddeg i ddangos ystyr y gair cyferbyniol.
| cwrtais | anghwrtais |
| credadwy | |
| Cristnogol | |
| cyfartal | |
| cyfreithlon | |
| cyfleus | |
| cyffredin | |
| cywir | |
| cyson | |
| cyfarwydd |
b) Pa genedl yw'r geiriau hyn - gwrywaidd neu fenywaidd?
- priodas
- hiraeth
- undeb
- swyddfa
- emyn
- wythnos
- nos Lun
- coron
c) Rhoi mewn trefn:
- P'un oedd y ..........? (3 / eitem)
- Hon yw'r .......... (11 / awr)
- Sbaen oedd y .......... i mi ymweld â hi. (5 / gwlad)
- Roedd e'n byw yn y .......... (18 / canrif)
- Dw i'n gofyn iti am yr .......... (2 / gwaith)
- Roedd y .......... yn rhy hir o lawer (4 / act)
Trafod
- Ar ôl rhannu'n grwpiau, trafodwch y ffeithiau a glywsoch a cheisio dyfalu'r flwyddyn dan sylw.
- Dyfeisiwch gwis tebyg gan ddewis gwahanol flynyddoedd ac wedyn profi eich gilydd.
- Grwpiau'n cystadlu yn erbyn ei gilydd i weld pwy all gofio'r nifer fwyaf o ddigwyddiadau a grybwyllwyd gan John Hardy.
- Lluniwch restr o ddigwyddiadau mewn annus mirabilis neu annus horribilis yn eich hanes personol a'ch partner neu weddill y grðp i geisio dyfalu'r flwyddyn.
Ymadroddion
Wrth ddyfalu, mae patrwm mai / taw yn bwysig:
- Dw i'n meddwl mai / taw...
- Dw i'n siwr/ sicr taw...
- Mae'n bosib mai...
- Dw i'n credu mai ... oedd y dyn
Ysgrifennu
- Blwyddyn i'w chofio yn fy hanes.
- "Fyddwn i ddim am ail-fyw'r flwyddyn honno".
- 'Taswn i'n gallu ail-fyw blwyddyn baswn i'n dewis ..........
- Blwyddyn fawr yn hanes Cymru / Prydain / y byd.
Trawsgrifiad
Am yr awran nesa' awn am dro law yn llaw ar hyd cyntedda cof y flwyddyn, mond i'n atgoffa ein hunain cymaint 'da ni 'di anghofio. Dyma'r flwyddyn pan oedd David Beckham yn gwisgo sarong, roedd A. A. Gill yn galw bob Cymro yn "ugly troll" ac fe agorodd Ann Summers siop yng Nghaerdydd. Dyma'r flwyddyn hefyd pryd fu rhaid i'r Arlywydd Clinton gyfadde ei berthynas hefo Monica Lewinsky. Fe benderfynwyd adeiladu cynulliad ym Mae Caerdydd ac roedd Catatonia wedi creu anthem i herio A. A. Gill, "Everyday when I wake up I thank the Lord I'm Welsh". Roedd rhaid i Ron Davies ymddiswyddo wedi helynt ar Gomin Clapham - "It was an error of judgement on my part which put myself in a position where I could be the victim of a crime'. Roedd Ioan Gruffudd yn un o sêr y byd teledu a ffilm, diolch i Horatio Hornblower a Titanic.
"Wedyn pan ddes i lan ... o'n i'n eitha siomedig ... O, cer o fan hyn, ro'n i'n mynd i chwalu ... chi'n gwbod, y stori i fi wedyn. O'n i wedi anghofio mod i ynddo fe...o'n i'n mwynhau y stori garu ac yn sydyn iawn ... a dyna fe".
Noder
Nod y trawsgrifiadau hyn yw adlewyrchu'n gywir yr hyn a glywir ar y crynoddisgiau. Nid yw siaradwyr y Gymraeg, yn fwy na siaradwyr unrhyw iaith arall, yn llefaru'n ramadegol gywir bob amser ac oherwydd hynny ceir enghreifftiau o iaith wallus. Gall y rhain fod yn adnodd gwerthfawr i'r tiwtor ac yn brawf i'r dysgwr nad yw gwneud camgymeriadau yn rhwystr bob amser i gyfathrebu effeithiol. Ar dro, gellir tynnu sylw at wall a manteisio arno i danlinellu ambell bwynt. Greddf y tiwtor a'i adnabyddiaeth o'i ddosbarth fydd yn penderfynu pryd y dylid gwneud hyn ai peidio.
Gwefannau Dysgu Cymraeg
Big Welsh Challenge
Cwrs Cymraeg rhyngweithiol arlein mewn fformat opera sebon sy'n addas ar gyfer dechreuwyr.






