In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash installed. Visit BBC Webwise for full instructions
Dai Jones yn cyflwyno cais gan wrandawr ar y rhaglen 'Ar Eich Cais'
Geirfa
- wyddoch chi be'?
- yn prysur fynd
- braint
- agoriadol
- cewri
- godidocaf
- cyfarchion
- ŵyr (wyrion)
- Eryr Pengwern
Gwrando a deall
- Sut mae'r tywydd, yn ôl Dai?
- Ble mae e wedi treulio'r penwythnos?
- Pwy welodd e yng Nghaerdydd?
- Beth sy'n digwydd yn y siopau?
- Beth sy'n bwysicach na dim, yn ôl Dai?
- Ers faint o amser mae e wedi cyflwyno 'Ar eich Cais'?
- Oddi wrth bwy mae'r llythyr?
- Am beth mae awdur y llythyr yn adnabyddus?
- Faint yw oed Eirwen Jones?
- Sut mae Dai yn ei chanmol?
Iaith
a) Weithiau mae'r Gymraeg yn defnyddio mwy nag un berfenw i gyfleu cysyniad tra bo Saesneg yn defnyddio un. Er enghraifft, gwybod / adnabod yn Gymraeg, ond yn Saesneg, 'to know' yn unig. Rhestrir tair enghraifft o hyn yn y golofn ar y chwith. Lluniwch 8 brawddeg trwy ddefnyddio'r berfenwau hyn mewn perthynas â'r enwau yn y golofn ar y dde:
| gwario / treulio | esgidiau / arian / amser |
| achub / arbed / cynilo | traed / person / arian |
| tebyg / tebygol | troi'n wlyb / i'w fam |
b) Gwrandewch ar y darn eto gan sylwi ar y tagiau / ychwanegiadau a ganlyn:
- Caerdydd 'na chi
- a wyddoch chi be'
- alla i ddim gofyn am fwy
- 'na alla'?
- yn wir i chi
- chi'n mbod
- ddylwn i ddeud
- 'dych chi ddim yn edrych hynny
- Na Dafydd, o ran hynny
- â chroeso calon
c) Ychwanegwch y cynffoneiriau (tagiau) cywir
- Dw i'n edrych yn iawn, ..........?
- Dydy e ddim wedi mynd, ..........?
- Roedden nhw yn y tŷ, ..........?
- Fyddi di ddim yn y gêm, ..........?
- Doedd e ddim yn chwerthin, ..........?
- Fe enillon nhw yn y diwedd, ..........?
- Tom yw dy enw di, ..........?
- Mae ganddi gar, ..........?
Tafodaith
Brodor o Geredigion yw Dai Jones. Oes gennych chi unrhyw sylwadau ar nodweddion ei iaith lafar?
Trafod
- Rydych yn mynd i wneud cais am record i Dai Jones. Penderfynwch i bwy a pham gan sôn rhywbeth am wrthrych y cais a'r rheswm dros y dewis.
- "Mae rhaglenni fel, 'Ar eich Cais' ond yn ffordd hawdd o arbed arian i'r cwmnïau darlledu". Trafodwch.
Ymadroddion
- am yn ail
- wythnos fach go lew
- y fath fraint
Ysgrifennu
- Ysgrifennwch gerdyn post at Dai Jones yn gwneud cais am record.
Trawsgrifiad
Helo 'na, bobol annwyl. Shwd i chi? Wel, on'd yw hi'n dywydd hyfryd? Does dim byd yn well na tamed o rew yn y bore ac awyr iach a heulwen am yn ail, be fwy allwn ni ofyn amdano? Shwd i chi gyd? Wedi treulio'r penwythnos lawr tua Caerdydd 'na chi, a wyddoch chi be', efo'r Ffermwyr Ifanc, ynde, a'r Jonesiaid. Alla i ddim gofyn am fwy, 'na alla'?
'Da chitha gobeithio wedi cael wythnos fach go lew a mae'r hydref yn brysur fynd eto ac mae 'na, .... a wyddoch chi be, y siope 'ma - Dolig, Dolig yw popeth. Yn wir i chi, os gewn ni iechyd dyw'r tymhore hyd yn oed ddim mor bwysig. A chi'n mbod, dw i ar "Ar eich cais" 'ma ers rhai blynyddoedd rwan ond ches i rioed y fath y fraint â heddiw, neu heno ddylwn i ddeud, a chael llythyr agoriadol ... oddi wrth un o gewri'r genedl, a gŵr sydd yn byw ym mro Ddyfi ac yn uchel ei barch, un o'n beirdd godidoca'.
"Annwyl Dai", meddai'r llythyr, "cyfarchion i'm gwraig Eirwen Jones, Blaenplwyf Uchaf, Aberangell, oddi wrth y gŵr, Dafydd Wyn Jones. Mae Eirwen yn bedwar ugen ar y 7fed o Dachwedd". Ac Eirwen annwyl, 'dych chi ddim yn edrych hynny, 'na dach, na Dafydd o ran hynny. Daw'r cyfarchion hefyd oddi wrth y plant, yr wyrion, a'r wyresa. Hoffe glywed Côr Gore Gles ac Aled Wyn Davies yn canu Eryr Pengwern. Diolch yn fawr. Ac, wrth gwrs, 'di Pengwern ddim ymhell iawn o Blaenplwyf yn nacdi? Hyfryd Dafydd ydy cael gair oddi wrthoch chi ac fe gewch â chroeso calon - dyma nhw i chi, Côr Gles ac Aled.
Noder
Nod y trawsgrifiadau hyn yw adlewyrchu'n gywir yr hyn a glywir ar y crynoddisgiau. Nid yw siaradwyr y Gymraeg, yn fwy na siaradwyr unrhyw iaith arall, yn llefaru'n ramadegol gywir bob amser ac oherwydd hynny ceir enghreifftiau o iaith wallus. Gall y rhain fod yn adnodd gwerthfawr i'r tiwtor ac yn brawf i'r dysgwr nad yw gwneud camgymeriadau yn rhwystr bob amser i gyfathrebu effeithiol. Ar dro, gellir tynnu sylw at wall a manteisio arno i danlinellu ambell bwynt. Greddf y tiwtor a'i adnabyddiaeth o'i ddosbarth fydd yn penderfynu pryd y dylid gwneud hyn ai peidio.
Gwefannau Dysgu Cymraeg
Big Welsh Challenge
Cwrs Cymraeg rhyngweithiol arlein mewn fformat opera sebon sy'n addas ar gyfer dechreuwyr.






