In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash installed. Visit BBC Webwise for full instructions
Last updated: 12 October 2010
Disgyblion Ysgol Gwynlliw, Gwent yn esbonio eu hagwedd iach at y Gymraeg
Geirfa
- yn bennu lan
- o arfer
- arferiad
- ymateb
- cwestiynu
Gwrando a deall
- Oedd y merched yn yr un ysgol gynradd cyn mynd i Ysgol Gwynlliw?
- Beth maen nhw'n ei wneud sy'n anarferol?
- Beth fyddai'n annaturiol iddyn nhw ei wneud?
- Ble dechreuodd un o'r merched a'i dwy chwaer ddysgu Cymraeg?
- Faint o Gymraeg sydd gan eu tad?
- Beth maen nhw'n gobeithio y bydd ymateb pobl i'w penderfyniad?
- Beth yw gobaith un o'r merched?
- Sut mae pobl y gogledd yn eu gweld, yn ôl un ferch?
Iaith
a) Mae cenedl rhai enwau yn amrywio yn ôl ardal. Beth mae pobl yn ei ddweud yn eich ardal chi?
| dau funud | dwy funud |
| y dafarn | y tafarn |
| y cyngerdd | y gyngerdd |
| y gornel | y cornel |
| dwy emyn | dau emyn |
| nifer mawr | nifer fawr |
| angladd mawr | angladd fawr |
| y dudalen | y tudalen |
b) Mae acenion yn gallu bod yn bwysig. P'un o'r rhain sy'n gywir?
- glân y mor / glan y môr
- caniatâd / caniatad
- caniatáu / caniatau
- glowr / glöwr
- glöwyr / glowyr
- coffáu / coffàu
c) Cwblhewch y frawddeg drwy ddewis y gair cywir:
- Doedd e .......... wedi ymweld â Rwsia. a) byth b) gynt c) erioed ch) o flaen
- Aeth Twm a Mari i'r sinema .......... a) gyda'u gilydd b) i'w gilydd c) gyda'i gilydd
- Colli wnaethoch chi, mae'n siwr. .........., wrth gwrs. a) Ie b) Do c) Ydy
- Pryd cyrhaeddodd y bws ..........? a) Caerdydd b) yng Nghaerdydd c) Gaerdydd
- Dof i adref cyn naw o'r gloch .......... a) neithiwr b) heno c) echnos
Tafodaith
Mae rhai yn mynnu bod plant ysgolion Cymraeg y de-ddwyrain a'r gogledd-ddwyrain yn datblygu eu tafodiaith eu hunain. O wrando ar y darn hwn, pa sylwadau byddech chi'n eu gwneud o dan y penawdau Geirfa, Cystrawen, Treigladau, Defnydd o'r Saesneg.
Trafod
- Oes disgwyl i blant o gartrefi di-Gymraeg sy'n derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg siarad yr iaith â'i gilydd y tu allan i'r ysgol? Trafodwch.
- Gwnewch restr o'r pethau sy'n anodd i ddysgwyr mewn ardaloedd lle mae'r Gymraeg yn brin?
- Oes rhaid siarad yn berffaith er mwyn cyfathrebu?
Ysgrifennu
- Lluniwch restr o 10 o bethau fyddai'n helpu dysgwyr Cymraeg yn eich ardal chi.
- Y tro cyntaf i mi gael sgwrs yn Gymraeg oedd ..........
Trawsgrifiad
Mae grŵp ni o ffrindiau wedi dod o pob gwahanol ysgol gallwch chi feddwl o. Ni fel 'the outcasts' o pob ysgol a ... rywfodd, rywsut, ni jyst gyd wedi bennu lan yn siarad Cymraeg gyda'n gilydd, jyst allan o arfer fel bydd pobol yn siarad Saesneg gyda'i gilydd allan o arfer. Felly, does dim byd od i ni bod ni yn siarad Cymraeg tu fas ysgol, jyst sort o arferiad yw e - you know, dim byd allan o'i le. Y peth mwyaf od yw siarad Saesneg gyda'n gilydd. S'no fi'n teimlo'n iawn os ni'n siarad Saesneg gyda'n gilydd.
Yn ... yn wreiddiol wnes i dod o teulu Saesneg ond wnaeth mam dysgu Cymraeg a danfon ni gyd, y tair o ni, i Ysgol Meithrin Cymraeg ... ym, a wedyn - so mae dad, oherwydd bod e wedi, sort o, dod i'r arfer o glywed Cymraeg, mae fe'n deall beth mae pobol - beth ni'n dweud ond dyw e ddim yn gallu ymateb yn ôl trwy'r Gymraeg. Os ni ddim yn siarad Cymraeg, bydd neb arall yn, a w i'n teimlo fel os ni yn siarad Cymraeg bydd fwy o pobol yn siarad Cym . . gweld ni'n siarad Cymraeg a wedyn bydd nhw yn cwestiynu fel: A dyle fi fod yn siarad Cymraeg? A wedyn, gobeithio, os mae fel plant ysgol ni yn dechre siarad Cymraeg gyda'i gilydd, a tu allan ysgol a mae mwy o pobol . . os mae Ysgol Uwchradd arall Cymraeg yn agor, bydd hwnna'n gwell ar gyfer Casnewydd. Bydd fwy o ethos Cymraeg yn dod a gobeithio bydd Cymraeg yn dod nôl i Gwent achos mae Gwent y rhan o Cymru sy'n fwya Saesneg mewn Cymru, a ... ym ... o'r Gogledd rydyn ni'n cael ein gweld fel pobol Saesneg a .. s'no ni ddim achos ni yn siarad Cymraeg.
Noder
Nod y trawsgrifiadau hyn yw adlewyrchu'n gywir yr hyn a glywir ar y crynoddisgiau. Nid yw siaradwyr y Gymraeg, yn fwy na siaradwyr unrhyw iaith arall, yn llefaru'n ramadegol gywir bob amser ac oherwydd hynny ceir enghreifftiau o iaith wallus. Gall y rhain fod yn adnodd gwerthfawr i'r tiwtor ac yn brawf i'r dysgwr nad yw gwneud camgymeriadau yn rhwystr bob amser i gyfathrebu effeithiol. Ar dro, gellir tynnu sylw at wall a manteisio arno i danlinellu ambell bwynt. Greddf y tiwtor a'i adnabyddiaeth o'i ddosbarth fydd yn penderfynu pryd y dylid gwneud hyn ai peidio.
Gwefannau Dysgu Cymraeg
Big Welsh Challenge
Cwrs Cymraeg rhyngweithiol arlein mewn fformat opera sebon sy'n addas ar gyfer dechreuwyr.






