In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash installed. Visit BBC Webwise for full instructions
Last updated: 12 October 2010
Eitem yn trafod problemau ehangu tref fach yng ngogledd-ddwyrain Cymru
Geirfa
- ymgynghoriad
- cynlluniau datblygu lleol
- gwrthwynebiad
- trigolion
- dyblu
- adnoddau
- ymdopi
- datganiad
- pendant
- argymhellion
Gwrando a deall
- Beth mae Cyngor Sir Dinbych yn ei wneud ar hyn o bryd?
- Faint o dai fydd, o bosib, yn cael eu codi?
- Ble yn union maen nhw'n bwriadu codi'r tai?
- Beth yw teimlad y bobl leol?
- Beth maen nhw'n ei ofni?
- Pa mor bendant yw'r cynlluniau?
- Tan pryd gall pobl ddweud eu barn?
Iaith
a) Cysylltwch bob gair ar y chwith â'r diffiniad agosaf ohono:
| gwrthwynebiad | sicr |
| ymgynghoriad | llwyddo i |
| trigolion | bwriadau |
| ymdopi | bod yn erbyn |
| pendant | holi barn pobl |
| cynlluniau | preswylwyr |
b) Gwir neu Anwir?
- Dydy Cyngor Dinbych ddim yn trafod eu cynlluniau â phobl leol.
- Mae 800 o dai wedi cael eu codi yn y dre yn barod.
- Mae pobl yn pryderu y bydd maint y dref yn tyfu.
- Mae digon o adnoddau yn y dre i ganiatàu'r datblygiad.
- Mae'r cynlluniau yn bendant nawr.
- Gall pobl ddatgan eu barn tan Ragfyr y cyntaf.
c) Lluniwch frawddegau i ddangos y gwahaniaeth rhwng y parau hyn o eiriau:
- ewin / ewyn
- ffraeo / ffrio
- glân / glan
- hael / haul
- hud / hyd (enw)
Tafodaith
Trafodwch beth yn eich barn chi yw hanfodion iaith bwletin newyddion da. Oes lle i dafodiaith o gwbl mewn bwletin o'r fath?
Trafod
- Fel grŵp, lluniwch restr o bethau sydd yn y newyddion naill ai yn lleol neu yn genedlaethol. Gan gymryd un pwnc yr un, paratowch eitem ar gyfer y bwletin.
- Codi tai neu gadw'r caeau? Trafodwch.
- Y sefyllfa dai yn eich ardal.
- "Dim ond newyddion drwg sydd o ddiddordeb i'r cyfryngau". Trafodwch.
Ysgrifennu
- Prynu fy nhŷ cyntaf.
- Sut yr hoffwn weld fy ardal yn datblygu.
Trawsgrifiad
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn cynnal ymgynghoriad ar eu cynlluniau datblygu lleol ar hyn o bryd, sy'n cynnwys y datblygiad posib o dros wyth gant o dai newydd ar ochor yr A55, rhwng tre Llanelwy a Pharc Busnes y dre, ond mae 'na wrthwynebiad yn lleol i'r awgrym. Mae trigolion Llanelwy yn pryderu y bydde cymaint o dai newydd, i bob pwrpas yn dyblu maint y dre ac maen nhw'n dadle nad oes 'na ddigon o wasanaethe ac adnodde'n lleol i ymdopi â'r galw ychwangeol. Mewn datganiad, mi ddywedodd Cyngor Sir Ddinbych nad ydy'r cynllunia yn rhai pendant ar hyn o bryd a bod gan bobol yr ardal hyd at y 1af o Ragfyr i roi barn ar yr argymhellion.
Noder
Nod y trawsgrifiadau hyn yw adlewyrchu'n gywir yr hyn a glywir ar y crynoddisgiau. Nid yw siaradwyr y Gymraeg, yn fwy na siaradwyr unrhyw iaith arall, yn llefaru'n ramadegol gywir bob amser ac oherwydd hynny ceir enghreifftiau o iaith wallus. Gall y rhain fod yn adnodd gwerthfawr i'r tiwtor ac yn brawf i'r dysgwr nad yw gwneud camgymeriadau yn rhwystr bob amser i gyfathrebu effeithiol. Ar dro, gellir tynnu sylw at wall a manteisio arno i danlinellu ambell bwynt. Greddf y tiwtor a'i adnabyddiaeth o'i ddosbarth fydd yn penderfynu pryd y dylid gwneud hyn ai peidio.
Gwefannau Dysgu Cymraeg
Big Welsh Challenge
Cwrs Cymraeg rhyngweithiol arlein mewn fformat opera sebon sy'n addas ar gyfer dechreuwyr.






